大象传媒

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021 i Kelly Lee Owens

  • Cyhoeddwyd
Kelly Lee OwensFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Kelly Lee Owens methu credu i ddechrau pan glywodd mai hi yw enillydd y wobr eleni

Y cerddor a'r cynhyrchydd electronig o Sir Y Fflint, Kelly Lee Owens, yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021 am ei halbwm Inner Song.

Daeth y ferch 33 oed o Fagillt i'r brig wedi i banel o arbenigwyr o fewn y diwydiant cerddoriaeth ystyried y 12 albwm oedd ar restr fer eleni.

Fe dderbyniodd y wobr dros Zoom am ei bod ar daith ar hyn o bryd ac yn perfformio yn Leeds nos Fawrth.

"Mae'n teimlo'n anhygoel," meddai, wrth dderbyn y newydd gan y cyflwynydd Huw Stephens, un o sylfaenwyr y wobr.

"Fel artist o Gymru, cael eich cydnabod gan eich gwlad, i mi yn y pen draw, yw'r anrhydedd fwyaf.

"Rydw i mor angerddol am Gymru ac rydw i eisiau i bawb wybod o ble rydw i'n dod."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Music Prize

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Music Prize

Ychwanegodd: "Rwy'n cofio'r tro diwethaf pan gefais fy enwebu, daeth fy nana Jeanette i lawr ac ers hynny mae hi wedi marw a byddai hi wrth ei bodd.

"Mae'n ddrwg gen i fy mod i'n emosiynol - ond mae hi ar yr albwm a byddai hi mor falch. Diolch yn fawr iawn."

Hi yw'r enillydd cyntaf hefyd i dderbyn gwobr ariannol o 拢10,000, sy'n ganlyniad cyllid gan gronfa Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai hi'n ei wneud gyda'r wobr, atebodd Owens: "Mae Cymru wedi cael amser caled, fel ym mhobman gyda'r coronafeirws, felly byddwn i wrth fy modd yn rhoi rhywfaint ohono i rai elusennau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru."

'Syfrdanu'

Dywedodd Huw Stephens: "Rydyn ni wrth ein boddau 芒 Kelly Lee Owens. Cafodd y beirniaid i gyd eu syfrdanu gan yr albwm hwn.

"Mae Kelly Lee Owens wedi derbyn clod mor gymeradwy am y record hon, ac rydym mor hapus mai hi ydy enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021.

"Rydyn ni hefyd wrth ein bodd bod Cymru Creadigol yn rhoi'r wobr o 拢10,000 - mae hyn yn nodweddiadol o'r s卯n gerddoriaeth gynnes, gefnogol yng Nghymru.

"Mae cerddoriaeth o Gymru yn amrywiol, ac o ansawdd syfrdanol."

Gweddill rhestr fer 2021

  • Afro Cluster - The Reach

  • The Anchoress - The Art Of Losing

  • Carwyn Ellis & Rio 18 - Mas

  • Datblygu - Cwm Gwagle

  • El Goodo - Zombie

  • Gruff Rhys - Seeking New Gods

  • Gwenifer Raymond - Strange Lights Over Garth Mountain

  • Mace The Great - My Side Of The Bridge

  • Novo Amor - Cannot Be, Whatsoever

  • Private World - Aleph

  • Pys Melyn - Bywyd Llonydd

Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.

Dyma'r 11fed tro i'r wobr gael ei rhoi, a'r llynedd y rapiwr o Gaerdydd, Deyah enillodd gyda'r albwm Care City.

Doedd dim seremoni y llynedd oherwydd y pandemig, ond roedd modd i westeion ddod ynghyd a dathlu'r "ystod o dalent greadigol o bob cwr o Gymru" mewn digwyddiad yn The Gate, yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Pynciau cysylltiedig