'Dim gwesty yng Nghymru ar gael i'r Scarlets ynysu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud nad oes gwesty ar gael yng Nghymru i dderbyn chwaraewyr a staff timau rygbi sy'n teithio'n ôl o Dde Affrica.
Mae Rygbi Caerdydd a'r Scarlets wedi bod yn ceisio dychwelyd adref ers ddydd Gwener, ar ôl cael eu dal yn Ne Affrica wedi i'r wlad gael ei rhoi ar 'restr goch' y DU.
Daeth sylwadau Eluned Morgan fore Llun ar ôl i un o gyfarwyddwyr y Scarlets ddweud y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd a helpu.
"I fod yn hollol glir, dwi'n credu fod cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i ddod â nhw gartref i Gymru. Allen ni ddim gwneud mwy," meddai Ron Jones ar Dros Frecwast.
Ychwanegodd nad oedd hi'n "gofyn gormod" i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd bod y rhanbarth yn cael "rhyddid i hyfforddi" a pharatoi am y gemau nesaf.
"Mae'r Scarlets yn cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf ym myd chwaraeon," meddai.
Methu newid cyfraith 'dros nos'
Fe deithiodd y Scarlets ar awyren breifat o Cape Town i Ddulyn ddydd Sul, cyn cael eu trosglwyddo i westy ym Melffast ble mae disgwyl iddyn nhw hunan-ynysu.
Mae'n rhaid i unrhyw deithwyr sy'n cyrraedd o wlad 'goch' ar ôl 04:00 fore Sul dreulio 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty, yn hytrach nag adref, yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Dywedodd y Scarlets ddydd Sul fod y garfan "i gyd yn iach ac mewn hwyliau da gan ddilyn protocolau Covid".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond wrth ymateb i sylwadau Mr Jones, dywedodd Eluned Morgan, gweinidog iechyd Cymru, fod yn rhaid "dilyn y gyfraith".
"Wel does dim gwesty ar gael yng Nghymru a dyw hi ddim yn rhywbeth allwch chi droi 'mlaen dros nos," meddai ar Dros Frecwast.
"Hefyd fydde'n rhaid i'r gwesty gytuno, a ma' arna'i ofn y tebygrwydd yw na fyddwn ni'n gallu ffeindio gwesty fydde'n gallu cymryd tîm o Gymru yn y sefyllfa yma.
"Fydde'n rhaid iddyn nhw droi mewn i westy sydd yn unig yn cymryd pobl o wledydd [ar restr teithio] coch.
"Ma' gyda Iwerddon faes awyr sy'n dod â lot o awyrennau sy'n dod o wledydd tramor - dim dyna'r sefyllfa yma yng Nghymru. Pe bydde' gwesty o fath yna wrth gwrs fe fydde 'na gyfle.
"[Ond] er mwyn creu gwesty fe fydde'n rhaid newid y gyfraith. Dwi'n meddwl ein bod yn rhaid i ni ddilyn y gyfraith. Y peth ni'n trio gwneud yn fan hyn yw diogelu pobl Cymru."
Mae Rygbi Caerdydd hefyd wedi methu â dychwelyd o Dde Affrica oherwydd bod dau achos positif o Covid bellach wedi eu cadarnhau o fewn eu carfan.
Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad fod amheuaeth mai amrywiolyn newydd Omicron oedd un o'r achosion.
Oherwydd y ddau brawf PCR positif nos Sadwrn, yn wahanol i'r Scarlets, mae tîm a staff Caerdydd wedi gorfod aros yn eu gwesty yn Ne Affrica i hunan-ynysu.
Beth sydd wedi digwydd?
Cafodd De Affrica a nifer o wledydd eraill yn ne cyfandir Affrica eu rhoi ar y rhestr goch ddydd Gwener, a hynny tra bod Caerdydd a'r Scarlets yno'n paratoi ar gyfer gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe fethodd y ddau ranbarth â dychwelyd i Brydain cyn 04:00 fore Sul, fyddai wedi golygu osgoi gorfod treulio 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty.
Dywedodd Rygbi Caerdydd eu bod yn parhau i weithio gydag undebau rygbi De Affrica a Chymru, yn ogystal ag awdurdodau iechyd, er mwyn gweld beth fydd eu cam nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dros y penwythnos eu bod yn "ddrwg i glywed" am yr achosion positif yng ngrŵp teithio Caerdydd.
"Rydym yn dymuno gwellhad buan iddynt ac yn edrych ymlaen at weld y tîm a'r staff yn ôl yng Nghymru," meddai.
Toc wedi 14:30 brynhawn Sul fe wnaeth cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack drydar fod eu chwaraewyr a'r staff bellach wedi gadael Cape Town, ac ar eu ffordd yn ôl i Ewrop gyda charfan Zebre.
Roedd y clwb o'r Eidal hefyd yn Ne Affrica ar gyfer gemau yn yr un gystadleuaeth - yn ogystal â Munster o Iwerddon, sydd yn yr un sefyllfa â Chaerdydd wedi iddyn nhw hefyd gael achos Covid positif.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021