Lluniau gonest ffotograffydd o'r Rhondda

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Elijah Thomas

"Mae 'na gymeriad i'r lle 'ma. Mae'r hiwmor mor sych, mae'n wirion bost."

Mae Elijah Thomas yn ffotograffydd o'r Rhondda sydd yn dal y Cymoedd fel ag y mae. Trwy luniau amrwd pob dydd mae'n llwyddo i ddal cymeriad yr ardal yn ddiffuant.

Mae o hefyd yn dilyn rhai o fandiau mwyaf Cymru fel Boy Azooga a Buzzard Buzzard Buzzard ac yn ychwanegu at y talent o ffotograffwyr sydd yn bodoli yn y Cymoedd fel Dan Wood a Jon Poutney.

Dyma flas ar luniau a meddylfryd y dyn tu ôl i'r camera.

Bachgen o'r Rhondda

Ces i fy ngeni a fy magu yma yn y Rhondda. Ddes i ddim mewn i ffotograffiaeth tan ro'n i'n tua 24.

Nes i weld cwpwl o luniau'r ffotograffydd Larry Clark amser cinio yn y gwaith. Roeddwn yn caru'r cysylltiad oedd ganddo gyda'i bynciau.

Roedd yn fy atgoffa o'r amseroedd gwyllt rwyf wedi cael gyda fy ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, The Prince of Wales. "Dyma lle wnaeth e i gyd ddechrau i mi. Roedd 'na dîm pêl-droed oedd efo'r cefnogwyr mwyaf carismatig dw'i erioed wedi gweld. Wnaeth Mam yr arwr lleol (yn y canol) ofyn am brint o'r llun oherwydd roedd hi yn ei garu gymaint. O'r gyfrol Saturday Kids"

Er nad mor wyllt â'i waith o yn Tulsa... roedd o'n reit debyg mewn rhai ffyrdd!

Ro'n i eisiau dod i wybod mwy amdano a darganfod sut oedd e'n gwneud i'w waith e edrych mor cŵl.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Dog Shit. "Roedd hwn yn un o'r eiliadau euraidd 'na lle rydych yn cerdded mewn i lun wedi ei fframio yn berffaith"

Yn anffodus dydi fy ngwaith i ddim mor cŵl a'i rai e eto, ond dwi'n gweithio ar y peth.

'Ardal anarferol'

Nes i symud i Fanceinion i'r brifysgol. Dyna pryd nes i ddechrau bod o ddifri am dynnu lluniau o'r Cymoedd.

Pan oeddwn i ffwrdd wnaeth i fi sylweddoli pa mor arbennig oedd y lle yma. Nes i fagu mwy o ddiddordeb a nes i ddechrau meddwl pa mor anarferol ydy'r ardal.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, "I'll have a 99, please butt? Cafodd hon ei dynnu ar Fynydd y Bwlch. Un o'r eiliadau cerdyn post allet ti ddim adael fynd heibio. Mae 'na ddefaid wastad o gwmpas yr ardal. Dwi'n meddwl fod gan yr un penodol yma tab gyda'r fan hufen iâ!"

Es i hefyd i weld y Sleaford Mods yn chwarae yn The Full Moon yng Nghaerdydd.

Roedd e'n anhygoel. Y gig gorau i mi weld erioed. Y dynion 'ma yn eu 40au yn gweiddi ar y llwyfan yn cynhyrchu'r synau anhygoel 'ma.

Dwi'n meddwl mai eu gwaith nhw a Larry Clark sydd wedi gwneud fi eisiau tynnu lluniau "go iawn."

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, An Even Bigger Splash. "Cafodd hwn ei saethu yn ddiweddar pan es i a fy ffrindiau i heicio. Dyma un o fy ffrindiau hynaf, Winky, yn deifio mewn i bwll nes at ddiwedd y daith"

'Cymeriad'

Be wna'i ydy deffro yn y bore, cael brecwast a mynd allan trwy'r dydd gyda fy nghamera. Does gen i ddim cynllun penodol. A ti'n gallu cymryd dy amser.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Please Put Your Rubbish Outside Your Own Front Door

Mae pobl wastad yn agored i gael sgwrs. Mae'n sbesial.

Mae 'na gymeriad i'r lle 'ma. Mae'r hiwmor mor sych, mae'n wirion bost. Byddwn yn dweud rhai o'r jôcs ond dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw'n addas iawn…

Pan wyt ti'n mentro lan ymhellach trwy'r Cymoedd i lefydd fel Blaenrhondda mae e fel time-capsule fyny yno.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Trevor Ward. "Nes i gymryd hwn y diwrnod cyn iddo droi yn 104 oed. Mi fyddai'n mwynhau cerdded yn ddyddiol gyda'i ffrind Mervin (heb sôn am ddawnsio ar ddyddiau Sadwrn yn Workmen's Club Tonyrefail a Bingo bob dydd Mawrth). Bu farw yn 2018 ond dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfnod byr dreulion ni yn siarad. Dyn hyfryd"

Dyma ti'n cael mewn trefi bach. 'Na'i jest cael sgyrsiau gyda phobl hÅ·n pan dwi mas yn tynnu lluniau.

Mae'n neis clywed nhw yn siarad am eu bywydau a chael straeon ganddyn nhw.

Gonestrwydd

O ran dylanwadau... Mae gwaith Eugene Smith, yr hen ffotograffydd Americanaidd, yn grêt.

Fel arall mae gwaith Jon Poutney a hefyd Dan Wood wedi dylanwadu - mae llyfrau Dan yn anhygoel.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Carafan. "Nes i ddarganfod yr hen fferm yma yn Gelli"

Mae'r grefft i gyd ynglŷn â dy ddadansoddiad dy hun. Mae e ynglŷn â gonestrwydd hefyd. Trio creu rhywbeth gonest a thynnu'r holl falu awyr ohono fe… mae hwnna yn mynd â ni yn ôl at themâu Larry Clark a Sleaford Mods.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Tonypandy Mist. "Dwi'n cofio deffro yn fuan ar fore Sul ar ôl iddi fwrw eira nos Sadwrn. Es i lan drwy Glyncornel i dop y mynydd. Mae'n fy atgoffa o un o ddyluniadau'r ffotograffydd Raymond Briggs"

Cymreictod

Mae'r Cymreictod wastad yno yn y Rhondda trwy'r cymeriad.

Mae gen i hefyd luniau o gaffis Eidalaidd baroque wnaeth agor yma o gwmpas cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'n dangos y dylanwad Ewropeaidd ar y Cymoedd hefyd.

Ffynhonnell y llun, Elijah Thomas

Disgrifiad o'r llun, Carpanini's. "Tynnwyd hwn yn y caffi yn Nhreorci. Dw'i wir yn gobeithio bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd drosodd yn ei gadw union fel y mae e. Enghraifft brydferth o ddylanwad Ewrop ar y Cymoedd"

Ar y cyfan does dim llawer i wneud yma i gymharu â'r ddinas ond y lleiaf o bethau sydd yno yn gorfforol y mwyaf rwyt yn defnyddio dy ddychymyg.

Mae cariad yn gwneud i fyny am y pethau sydd yn y material world dwi'n meddwl.

Hefyd o ddiddordeb: