Cyngor i wisgo mygydau yn yr ystafell ddosbarth
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb wisgo mygydau mewn dosbarthiadau ysgol uwchradd, colegau a phrifysgolion ac ardaloedd cymunedol.
Mewn cyfweliad ar radio LBC, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai nawr yw'r amser i gyflwyno mesurau diogelwch pellach mewn ysgolion.
"Mae yna dair wythnos yn weddill o'r tymor ac mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r plant a staff yn ddiogel," meddai.
Dywedodd hefyd bod gweinidogion yn parhau i drafod yr awgrym o gau ysgolion yn gynt dros y Nadolig - mae'r trafodaethau hynny yn cael eu cynnal gydag undebau ac awdurdodau lleol.
Nos Lun dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae ymddangosiad yr amrywiad newydd hwn yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus.
"Rydym eisoes wedi cymryd camau cyflym ar deithio rhyngwladol, ochr yn ochr 芒 llywodraethau eraill y DU.
"Rydym nawr yn cyflwyno mesur ychwanegol, tra ein bod ni yn dod i ddeall mwy am y straen newydd hwn.
"Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol.
"Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hwn, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr drefniant cenedlaethol.
"Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o'r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted 芒 phosibl."
'Synhwyrol'
Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Dwi'n croesawu penderfyniad y Gweinidog heddiw i ail-gyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd.
"Mae'n ymateb synhwyrol a chymesur i'r sefyllfa pryderus sy'n datblygu, ac yn cael ei wneud er lles disgyblion a'r holl staff."
Mae angen i bobl fod yn ofalus wrth wneud eu cynlluniau Nadolig eleni, ychwanegodd y Prif Weinidog.
Daw sylwadau Mr Drakeford yn sgil pryderon am yr amrywiolyn newydd o coronafeirws - Omicron.
Dywedodd hefyd bod t卯m brechu Cymru yn bwrw ymlaen 芒 chynlluniau i roi brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn dri mis wedi iddyn nhw gael yr ail ddos.
'Nadolig yn well eleni'
Yn gynharach fe ddywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylai brechlynnau atgyfnerthu gael eu cynnig i bawb dros 18 er mwyn atal ton newydd o achosion yn sgil Omicron.
"Mae mwy o waith i'w wneud, wrth gwrs, gyda'n partneriaid yn y byrddau iechyd lleol ond ry'n am symud ymlaen cyn gynted 芒 phosib," dywedodd Mr Drakeford wrth y 大象传媒 yn gynharach.
Ychwanegodd: "Rhaid i bobl baratoi at y Nadolig yn y modd ry'n wedi'u cynghori gydol yr amser.
"Fe ddylai Nadolig fod yn wahanol eleni. Fe ddylai Nadolig fod yn well eleni.
"Ond dyw hynna ddim yn golygu y dylai pobl ddiystyru y pethau syml yna sy'n ein diogelu ni ac eraill.
"Meddyliwch am bobl fregus - os oes pobl yn eich teulu yn debygol o ddioddef o coronafeirws - ystyriwch yn ofalus a ydych yn ymweld 芒 nhw ac yn eu cynnwys yn eich cynlluniau.
"Gwnewch brawf llif unffordd os ydych yn mynd i rywle all fod yn risg i chi ac eraill a gwisgwch fwgwd mewn llefydd poblog cyhoeddus."
Dywed Mr Drakeford nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gau busnesau - er bod llythyr wedi cael ei anfon i'r Trysorlys yn gofyn am gymorth petai Llywodraeth Cymru yn dewis cymryd mesurau pellach.
"Pwynt y llythyr yw sicrhau na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a wnaethont llynedd.
"Pan ro'n i angen help, fe ddywedodd y Trysorlys 'na dyw hynna ddim yn bosib'.
"Ond bythefnos wedyn pan roedd pethau wedi newid yn Lloegr fe ddywedon nhw 'iawn', doedd hynna ddim yn deg i neb a dyna ddiben y llythyr," ychwanegodd.
Mae argymhellion newydd y JCVI yn nodi hefyd y dylid cwtogi'r bwlch rhwng cael yr ail frechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu i dri mis.
Nodwyd yn ogystal y dylai plant oed 12 i 15 gael eu gwahodd am ail ddos dri mis wedi cael y cyntaf.
Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y JCVI, nad yw'n rhagweld y bydd yr amrywiolyn newydd yn gafael yn y DU ond bod arbenigwyr eisiau bod yn y lle gorau posib petai mwy o achosion.
Mae'r JCVI yn rhoi cyngor i weinidogion ar draws y DU ond gwleidyddion sy'n dewis gweithredu'r argymhellion ai peidio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021