大象传媒

'Mae'n bwysig bod Archesgob Cymru yn rhugl yn y Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
EsgobionFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y rhai sydd yn y ras - June Osborne, Esgob Llandaf; Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi; John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu; Andy John, Esgob Bangor; Gregory Cameron, Esgob Llanelwy a Cherry Vann, Esgob Mynwy

Wrth i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru gyfarfod i ethol Archesgob nesaf Cymru dywed un offeiriad ei bod hi'n bwysig i "Archesgob Cymru fod yn rhugl eu Cymraeg".

"Dwi ddim yn gweld sut gall rywun di-Gymraeg 'neud e - heb gyfathrebu 芒'r byd Cymraeg yn uniongyrchol," medd y Parchedig Ganon Enid Morgan, oedd yn un o'r menywod cyntaf i gael eu hordeinio gan yr Eglwys yng Nghymru.

"Fydden i'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw fod yn rhugl eu Cymraeg - ond 'dan ni ddim wedi cael hynny yn ddiweddar."

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud gydol yr amser eu bod wedi "ymrwymo i hyrwyddo eglwys ddwyieithog".

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r broses o ddewis Archesgob wedi digwydd yn Llandrindod ers datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn 1920

O ddydd Llun ymlaen bydd aelodau y Coleg Etholiadol yn cael eu cloi yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandrindod am hyd at dridiau.

Mae chwech yn y ras, sef yr esgobion presennol - Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Gregory Cameron; Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy; Esgob Llandaf, June Osborne; Esgob Mynwy, Cherry Vann ac Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas.

Yr Archesgob newydd fydd y 14eg - cafodd y cyntaf ei ethol yn 1920 yn dilyn datgysylltu yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr.

Cofio cyfraniadau'r gorffennol

Wrth edrych yn 么l ar gyfraniad Archesgobion Cymru ar hyd y ganrif ychwanegodd y Parchedig Ganon Enid Morgan bod hi'n gwestiwn "a yw hi'n bosib i Gristion dwys addolgar, ysbrydol fod yn wleidydd hefyd".

Ond mae'n dweud bod cyfraniad rhai wedi aros yn y cof fwy nag eraill.

"Mae rhywun yn cofio am Glyn Simon a ddaeth yn Archesgob Cymru yn 1968 - cofio am ei gyfraniad yn ystod Aberfan ac fe aeth i weld Dafydd Iwan yn y carchar," meddai.

"Cyn iddo fod yn Archesgob ei hun roedd e wedi beirniadu'r Coleg Ethol yn hallt am benodi A E Morris yn Archesgob Cymru - yr Archesgob di-Gymraeg cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Parchedig Ganon Enid Morgan ei bod hi'n "bwysig bod Archesgob Cymru yn rhugl ei Gymraeg"

Roedd Gwilym O Williams, a fu'n Archesgob Cymru o 1971 i 1982, yn un o'r tri g诺r amlwg a aeth i weld William Whitelaw, yr Ysgrifennydd Cartref yn llywodraeth Margaret Thatcher, i'w berswadio i gadw at ei air a chreu sianel deledu Gymraeg.

Fe ddylanwadodd yn fawr hefyd ar y penderfyniad i ordeinio menywod yn offeiriaid.

"Wrth edrych yn 么l mae rhywun yn cofio am G O - o'dd e'n wleidydd ac yn deall beth oedd angen ei wneud," meddai'r Parchedig Ganon Enid Morgan.

"Un o'r pethau mawr 'nath e o'dd gorfodi'r Eglwys yng Nghymru i gyfieithu'r cyfansoddiad i'r Gymraeg a llunio Cymraeg cyfreithiol gyfoes sydd wedi bod yn sail i Gymraeg y Senedd bresennol.

"Fe wnaeth e hefyd agor drysau ecwmenaidd o'dd yn enbyd o ga毛edig o'i flaen e."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe lwyddodd y cyn-Archesgob Barry Morgan i "gyflwyno newidiadau mewn cyfnod anodd"

Ychwanegodd: "Ond o ran Cymreictod ac arweinyddiaeth yr Eglwys yng Nghymru mae'n werth cofio nad oes neb erioed wedi talu sylw i'r sawl sy'n Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys.

"Maen nhw'n ffigyrau pwysig a dylanwadol a does dim un wedi bod 芒'i wreiddiau yn y Gymru Gymraeg.

"Mae'n bwysig cofio cyfraniad eraill hefyd - fe fuodd Rowan Williams yn ffigwr o ddiwinydd a lwyddodd i drafod y bywyd ysbrydol mewn ffordd gwbl hynod ac fe lwyddodd Barry Morgan i newid strwythur yr eglwys mewn cyfnod llawer iawn mwy anodd."

Wrth ymateb i bryderon yngl欧n 芒 diffyg siaradwyr Cymraeg ymysg uwch glerigwyr yr Eglwys yng Nghymru yn y gorffennol dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod "yn sicrhau bod ein clerigwyr yn deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg" a'u bod yn eu hannog i ddysgu Cymraeg.

Dadansoddiad cyflwynydd Bwrw Golwg, John Roberts

Mae tuedd yn yr Eglwys yng Nghymru i'r Esgob mwyaf profiadol gael ei ethol yn Archesgob oherwydd mai'r Esgob hwnnw sydd yn cyflawni'r gwaith rhwng ymddeoliad neu ymddiswyddiad Archesgob ac ethol un newydd.

Fel mae'n digwydd fe etholwyd Esgob Bangor Andy John ac Esgob Llanelwy Gregory Cameron o fewn ychydig iawn i'w gilydd, ond o rai misoedd yn unig Andy John yw'r mwyaf profiadol. Felly ar un ystyr mae'r ddau yn agos yn y ras.

Mae tair menyw hefyd yn Esgobion, ond cymharol ddiweddar yw etholiad y tair - Joanna Penberthy, T欧 Ddewi, June Osborne, Llandaf a Cherry Vann, Mynwy - tra bod Esgob newydd Abertawe Aberhonddu John Lomas ddim ond wedi ei ethol ym mis Tachwedd, felly ar sail profiad yn unig byddai yn syndod petai un ohonynt yn cael ei ethol.

Ond wrth gwrs petai menyw yn cael ei hethol byddai yn ddigwyddiad hanesyddol, pwysig, fyddai'n torri tir newydd.

Dim ond Andy John sydd yn rhugl ei Gymraeg, ond nid oedd hynny yn ystyriaeth yn yr etholiad diwethaf nac ar sawl achlysur arall - mae hynny wedi bod yn asgwrn cynnen yn y gorffennol a bu ffrae fawr am y mater yn y 50au.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alfred George Edwards oedd Archesgob cyntaf Cymru - fe gafodd ei ethol yn 1920

Beth fydd y drefn ethol?

Ers 1920 mae pob Archesgob wedi cael ei ethol yn Llandrindod gan ei bod hi'n dref sy'n cael ei hystyried o fewn cyrraedd i bawb.

Mae'r etholiad yn cael ei gynnal wedi ymddeoliad John Davies, a fu'n Archesgob Cymru am bedair blynedd. Yr Esgob Andy John yw'r Uwch Esgob ac ef yw Llywydd y Coleg Etholiadol.

Bydd y rhai sy'n ethol yr Archesgob newydd yn cynrychioli eglwysi ledled Cymru. Mae pob un o'r chwe esgobaeth yn ethol tri chlerigwr a thri lleygwr i'r Coleg ac mae'r esgobion hefyd yn aelodau - gan wneud cyfanswm o 42 o bobl.

Wedi cyfnod o weddi a myfyrdod, bydd y Llywydd yn galw am enwebiadau. Bydd yr esgobion wedyn yn gadael y drafodaeth ac ond yn dychwelyd i bleidleisio.

Mae'n rhaid i'r sawl sy'n cael ei enwebu dderbyn dau-draean o bleidleisiau'r coleg er mwyn cael eu hethol yn Archesgob.

Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn y pleidleisiau angenrheidiol, mae'r broses yn ailddechrau gydag enwebiadau newydd - fe allai'r rhain gynnwys y rhai a enwebwyd yn y bleidlais flaenorol.

Gall y Coleg gymryd hyd at dridiau i ethol Archesgob. Os yw'n methu gwneud hynny ar 么l y cyfnod hwnnw, bydd y penderfyniad yn symud i'r Fainc Esgobion.

Pan fydd Archesgob wedi'i ethol bydd drysau'r eglwys yn agor ac fe fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud.

Bydd yr Archesgob newydd yn cael ei orseddu yn ei gadeirlan, neu chadeirlan, gartref maes o law.

Pynciau cysylltiedig