大象传媒

Penrhyncoch neu Penrhyn-coch? Argymhellion i symleiddio enwau lleoedd

  • Cyhoeddwyd
Blaen-plwyf, Ystradaeron, Llan-non a Tyn-y-graigFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Blaen-plwyf, Ystradaeron, Llan-non a Tyn-y-graig: Mae rhai pobl yn anghytuno gydag argymhelliad y Panel Cysoni Enwau Lleoedd ar gyfer sillafiad rhai pentrefi a threfi yng Ngheredigion

Mae erthygl mewn papur newydd lleol yngl欧n 芒 sillafiad enwau lleoedd wedi achosi cryn ddadlau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyhoeddodd Cambrian News fod Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn argymhellion gan Gomisiynydd y Gymraeg i safoni rhai o enwau lleoedd y sir.

Dyma ddarn o waith a , i osod yr egwyddorion tu 么l i sillafiadau enwau lleoedd ledled Cymru.

Mae argymhellion bod rhai enwau nawr yn cynnwys cysylltnod (hyphen), gyda Pontrhydygroes yn dod yn Pont-rhyd-y-groes, ac enwau sydd wedi bod yn draddodiadol yn ddau air yn dod yn un, fel Ystrad Aeron yn newid i Ystradaeron.

Ar Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru, cafodd Dylan Ebenezer sgwrs 芒'r Athro Dylan Foster Evans, sy'n aelod o'r Panel Cysoni Enwau Lleoedd, i holi pam argymell newidiadau newydd i enwau cyfarwydd?

"Symleiddio ydi'r nod," meddai'r Athro Foster Evans, "gwneud bywyd yn haws i bawb yn y pendraw."

Mae'n un sydd wedi bod yn gweithio ar safoni a chysoni enwau lleoedd Cymru, ac wedi gweld faint o amrywiadau sydd o fewn sillafiadau ledled Cymru, a hyd yn oed weithiau o fewn sir.

"Un o'r pethau oedd yn cael ei nodi oedd yr amrywiaeth o ffurfiau ry'n ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd; fod y cyngor sir weithiau yn defnyddio un ffurf, ffurf arall ar arwyddion, weithiau enw arall eto am yr un lle gan gyngor cymuned...

"Ac wrth gwrs, mae'r ansicrwydd yma yn arwain at drafod, gofyn am gyngor, ymholiadau gan y cyhoedd. Mae hyn i gyd yn costio amser, ac arian hefyd wrth gwrs."

Mae'n nodi fod y trafod yma weithiau ar draul pethau eraill yn ymwneud 芒'r Gymraeg, felly y gobaith yw, yn y pendraw, fod y gwaith safoni am wneud pethau'n fwy eglur, a bod arian ac ymdrech wedyn yn gallu cael ei roi tuag at broblemau mwy sy'n ymwneud 芒'r iaith.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae anghysonderau o fewn pentref Penrhyn-coch am sillafiad yr enw

Hen syniad newydd

Dydi addasu ychydig ar sillafiad enwau lleoedd ddim yn syniad newydd, meddai Dylan Foster Evans. Mae rhan helaeth o'r cynigion sillafu yn dyddio n么l ddegawdau:

"Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu cynnig o leia' 60 o flynyddoedd yn 么l. Mae 'na Restr o Enwau Lleoedd Cymru wedi ei gyhoeddi yn 1967, ac mae trwch y sillafiadau sydd yn cael eu cynnig yn mynd yn 么l o leia' i'r cyfnod yna.

"Felly does yna ddim byd newydd yn cael ei greu. Beth sy'n digwydd ydi dewis rhwng ffurfiau sy'n bodoli eisoes."

Cysylltnodau

Dechrau cynnwys cysylltnod mewn enwau sydd ddim fel arfer ag un yw beth sydd wedi corddi nifer, gyda rhai yn galw'r symbol yn 'salw'. Fodd bynnag, mae Dylan yn dweud fod gan y cysylltnod swyddogaeth bwysig i sicrhau fod y pwyslais yn cael ei roi ar y sillaf olaf ond un. Dyma sydd tu 么l i Cei Bach yn dod yn Cei-bach, eglurodd:

"Dwi'n gweld sillafu fel ffordd o ddiogelu ynganiad, felly mae'r cysylltnod yn helpu hynny. Nid CEIbach ydi o, ond Cei-BACH."

Dadl rhai yw fod pawb yn lleol yn gwybod sut i ynganu enwau'r lleoedd yma, ond mae Dylan yn pwysleisio fod rhai ynganiadau yn cael eu colli oherwydd nad yw'r sillafiad yn ei gwneud hi'n glir sut i wneud.

"Mae yna ambell i le yng Nghymru sy'n eitha' amwys. Meddyliwch chi am rywle o'r enw Pen-RHOS, neu PENrhos; mae'r ddau ynganiad i'w gael mewn llefydd gwahanol, ond 'dan ni angen cysylltnod i ddangos hynny.

"Mae 'na enghraifft ddiddorol ym Mro Morgannwg, Pen-COED. Gyda chysylltnod, mae hynny'n dangos yr ynganiad. Ond y duedd ydi i beidio defnyddio'r cysylltnod, a 'dan ni'n clywed fwyfwy, yr ynganiad PENcoed.

"Felly 'dan ni'n gallu gweld newid i ynganiad weithiau a'r ynganiad lleol yn diflannu."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y sillafiad safonol yn 么l cyngor Comisiynydd y Gymraeg ydi Pont-rhyd-y-groes, ond mae'n debyg nad y fersiwn yma sydd yn cael ei ddefnyddio gan bawb, gyda rhai yn ffafrio Pontrhydygroes

Un gair yn unig

Awgrym arall yn y broses safoni yw bod enwau lleoedd, gan amlaf, ddim yn fwy nag un gair. Ond beth felly yw'r rhesymeg tu 么l i sillafiadau newydd gwahanol i Ystradaeron ac Ystrad-fflur?

"Mae pob man unigol yn cael sylw," eglurodd Dylan. "Gydag Ystradaeron, mae'r acen yn syrthio lle 'sa chi'n disgwyl i'r acen syrthio yn y Gymraeg, y sillaf olaf ond un; YstraeAERon.

"Mae Ystrad-fflur yn wahanol. Dydyn ni ddim yn dweud YsTRADfflur, 'dan ni'n dweud Ystrad-FFLUR - felly 'dan ni'n dangos [gyda chysylltnod] fod y pwyslais yn mynd ar y sillaf olaf."

Ni fydd arwyddion newydd yn cael eu codi ar frys, meddai, gan fod "bodolaeth neu ddiffyg heiffen ddim yn argyfwng". Ond wrth i arwyddion gael eu diweddaru, bydd modd sicrhau fod y newidiadau yma yn cael eu hadlewyrchu.

Mae'n cydnabod y bydd ambell i sillafiad yn anghyfarwydd i rai, ac y bydd yna ambell i eithriad yn y sillafiadau newydd, ond cael "rhesymeg tu 么l i'r peth," sy'n bwysig meddai, "yn hytrach na bod pob enw yn cael ei sillafu ar fympwy."

Pynciau cysylltiedig