大象传媒

Mwy o ofal iechyd preifat yn 'peryglu dyfodol y GIG'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llawfeddyg yn gwneud llawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n prynu polis茂au iechyd preifat yn peryglu dyfodol y gwasanaeth iechyd, yn 么l economegydd iechyd amlwg.

Dywedodd Dr Mary Lynch o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor wrth raglen Newyddion S4C y gallai'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd oherwydd y pandemig greu system iechyd ddwy haen, lle'r rheiny sy'n gymharol gefnog sy'n derbyn y driniaeth orau.

Mae cwmni sy'n gwerthu yswiriant iechyd preifat yn dweud bod nifer y bobl sy'n eu prynu wedi cynyddu'n aruthrol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.

Dywedodd un dyn sy'n aros am lawdriniaeth i gael clun newydd ei fod wedi rhoi "cannoedd ar filoedd mewn i'r system" iechyd gyhoeddus, ond nawr, "pan dwi angen i'r GIG ddelifro i fi, dyw e ddim yna".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybuddiodd Dr Mary Lynch y gallai'r pwysau ar y GIG arwain at system iechyd ddwy haen

Dywedodd Dr Lynch wrth raglen Newyddion S4C fod "pwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i'r pandemig".

"Mae gan hynny'r potensial i gynyddu niferoedd sydd yn prynu polis茂au gofal iechyd preifat ymhellach, yn enwedig o gofio'r oedi i driniaethau.

"Gallai hynny olygu bod y rheiny sydd ag incwm uwch [yn gallu] fforddio prynu polis茂au a sicrhau canlyniadau iechyd gwell na'r rheiny sydd yn methu fforddio talu.

"Gallai hynny wedyn greu system lle mae pobl yn medru cael mynediad i driniaeth well yn seiliedig ar eu hincwm yn unig."

Fe gadarnhaodd cwmni ActiveQuote.com, sydd a'i phencadlys ym Mae Caerdydd, eu bod wedi gweld y niferoedd sydd yn prynu polis茂au iechyd preifat yn cynyddu'n aruthrol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.

Dywedodd eu pennaeth gwerthu a gweithredu, Rod Jones, wrth 大象传媒 Cymru iddyn nhw werthu 88% yn rhagor o bolis茂au ym mis Hydref eleni o'i gymharu 芒 llynedd.

Rhwng Ionawr a Hydref 2021, roedd cynnydd o 43% ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig mewn polis茂au a werthwyd. Yng Nghymru, roedd cynnydd uwch fyth o 48%.

Doedd y cwmni ddim yn barod i ddatgelu faint yn union o bolis茂au a werthwyd, ond fe gadarnhaon nhw eu bod yn uwch na 1,000 bob mis, gyda chwsmeriaid yn talu ymhell dros 拢1m bob mis am y polis茂au.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rod Jones fod mwy o bobl ifanc nawr yn prynu polis茂au iechyd preifat

Yn 么l Rod Jones, mae'r math o gwsmeriaid sydd yn prynu hefyd wedi newid ers dechrau'r pandemig.

"Yn draddodiadol, pobl hyn sydd wedi bod yn cymryd polis茂au fel hyn mas. Ond dros y 18 mis diwethaf, ni'n gweld mwy o bobl ifanc yn gwneud.

"Pan maen nhw'n darllen am amseroedd aros o fewn i'r Gwasanaeth Iechyd, mae elfen o banig.

"Dy'n nhw ddim eisiau aros a pan maen nhw'n clywed am deulu a ffrindiau sydd yn aros am driniaeth, dyw pobl ifanc ddim yn deall pam bod angen aros.

"Mae popeth yn instant. Dyw aros i weld doctor ddim yn rhywbeth mae pobl yn disgwyl gorfod gwneud."

Un dyn sydd yn deall awydd rhai i brynu polis茂au o'r fath yw Steve Dimmick, sydd yn wreiddiol o Flaenau ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Yn 46 oed, mae'n aros am lawdriniaeth i gael clun newydd.

"Mae fy mywyd nawr yn troi rownd lle alla'i barcio sydd agosaf at yr apwyntiad neu gyfarfod nesaf.

"Yn y gorffennol, byddwn i'n cerdded neu'n seiclo i lefydd, ond nawr mae popeth yn dibynnu ar ba mor bell fi'n gorfod cerdded mewn diwrnod. Mae'n broblem fawr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Penderfynodd Steve Dimmick, oedd mewn poen parhaol yn aros am glun newydd, i dalu am driniaeth breifat

Mae'n dweud iddo gael gwybod y byddai'n rhaid aros o leiaf 18-24 mis i gael llawdriniaeth drwy'r Gwasanaeth Iechyd. Gan ei fod mewn poen yn barhaus, mae'n dweud iddo gymryd y cam anodd, a chostus, i dalu am driniaeth breifat.

"Rwy' wedi gweithio am 30 blynedd, wedi talu cannoedd ar filoedd mewn i'r system. Nawr, pan rwy' ar y point of need, pan dwi angen i'r GIG ddelifro i fi, dyw e ddim yna."

"Mae'n boenus. Dwi'n ddiolchgar i'r GIG am beth mae'n gwneud. Ond rwy' mewn lle ble alla'i ddim cario ymlaen.

"Rwy' wedi bod yn ffodus i bigo tam' bach o waith ychwanegol lan fydd yn helpu gyda'r costau, a dyna beth dwi am wneud."

Pan ofynnwyd a fyddai nawr yn ystyried prynu polis茂au yswiriant iechyd o edrych yn 么l, dywedodd Mr Dimmick: "Byddwn. Ond mae hynny'n hawdd dweud nawr.

"Roeddwn i'n ddyn ffit ac iach. Roeddwn i'n chwarae rygbi, p锚l-droed, golff, rhedeg marathons. Ro'n i'n mwynhau bywyd. Ond byddai angen i bobl feddwl sut fydd eu cyrff yn ymdopi tair i bum mlynedd yn y dyfodol.

"Mae'n hawdd dweud nawr byddwn i'n prynu polisi, ond i fi, mae hynny'n dd诺r dan bont."