大象传媒

Pobl yn aml yn camgymryd Vaughan Gething am staff bwyty

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething ei bod yn anodd delio gyda rhagfarn ddiarwybod

Mae Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething yn dweud ei fod yn aml yn cael ei holi os yw'n aelod o staff mewn bwytai, a'i fod yn credu bod hynny oherwydd lliw ei groen.

"Pe bawn i'n ddyn gwyn wedi gwisgo'n eithaf smart yn mynd i le fel yna, fyddai pobl ddim yn gofyn hynny," meddai.

Mae'r gweinidog wedi cyfrannu at lyfr newydd, 100 Black Voices on Racism.

Dywedodd yr actores Suzanne Packer o Gaerdydd, wnaeth helpu i olygu'r llyfr, ei fod mewn ymateb i lofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Ychwanegodd Ms Packer, sydd wedi ymddangos mewn dram芒u fel Casualty, Doctor Who ac Un Bore Mercher, mai ei gobaith yw y bydd y llyfr yn arwain at bobl yn cael "sgyrsiau anghyffyrddus".

'Digwydd yn ddigon aml'

Yn trafod ei brofiadau ei hun, dywedodd Mr Gething wrth 大象传媒 Cymru fod "pobl yn cymryd 'mod i'n aelod o staff - nid rhywun sydd yno i fwyta mewn bwyty gyda fy ngwraig".

"Mae wedi digwydd yn ddigon aml," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Suzanne Packer ei bod yn gobeithio fod y llyfr yn dangos fod cyfranwyr wedi ffynnu er gwaethaf agweddau hiliol

Dywedodd y cyn-Weinidog Iechyd ei bod yn anodd delio gyda rhagfarn ddiarwybod.

"Mae 'na lot o bobl sy'n edrych fel fi fydd wedi cael amryw o ddigwyddiadau tebyg yn eu bywydau," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gorfod cael trafodaethau anodd gyda'i fab oherwydd lliw eu croen.

"Rydw i eisiau cael trafodaeth arferol gyda fy mab, ond y broblem yw nad yw'n sgwrs arferol i orfod dweud wrth eich plentyn nad yw'r byd yn deg oherwydd y ffordd ry'ch chi'n edrych," meddai.

Ffynnu er gwaethaf hiliaeth

Dywedodd Ms Packer ei bod yn gobeithio fod y llyfr yn dangos fod cyfranwyr wedi ffynnu er gwaethaf agweddau hiliol.

Mae hi hefyd yn ddarlithydd yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, ble mae hi'n gobeithio defnyddio ei phrofiadau i helpu myfyrwyr du, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig eraill.

"Fe wnes i adael i'n hun deimlo 'mod i ddim angen bod mor uchelgeisiol oherwydd nad oedd digon o rolau ar gyfer pobl oedd yn edrych fel fi," meddai.

"Pwy a 诺yr pa gyfleoedd y gallwn i fod wedi'u cael os na fydden i wedi cael y meddylfryd yna.

"Rwy'n gwybod sut beth yw hi i fod yr unig berson yn y cast sydd ddim yn wyn.

"Rwy'n agored iawn i fyfyrwyr sydd eisiau dod ata i ac egluro beth yw eu pryderon. O'r safbwynt hynny rwy'n credu bod gen i ran bwysig i'w chwarae."

Pynciau cysylltiedig