Angen 'gweithredu brys' ar geisiadau TGAU Ffrangeg ac Almaeneg
- Cyhoeddwyd
Gallai'r nifer sy'n astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU yng Nghymru ostwng i lai na 100 erbyn 2030, yn 么l adroddiad newydd.
Mae Adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2021 yn galw am strategaeth genedlaethol gyda cheisiadau TGAU Ffrangeg ac Almaeneg wedi bron 芒 haneru ers 2015.
Dywedodd y Cyngor Prydeinig bod angen "gweithredu brys" os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu targed o ehangu dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cwricwlwm newydd yn ehangu cyfleoedd i ddysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion.
Yn 么l yr ymchwil, fe ostyngodd nifer y ceisiadau TGAU ar gyfer Ffrangeg 11% rhwng 2020 a 2021, ac Almaeneg 12%.
Dywedodd un o bob pump o'r 52 ysgol a gyfrannodd at yr ymchwil nad oedd un disgybl yn dilyn cwrs ieithoedd rhyngwladol yn Mlwyddyn 10.
Yn 么l 79% o ysgolion a gyfrannodd at yr ymchwil, fe gafodd y pandemig effaith negyddol ar ddysgu ieithoedd, gan effeithio ar ardaloedd difreintiedig yn benodol.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr gwlad Cyngor Prydeinig Cymru: "Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol i bob ysgol.
"Wrth i addysg ddechrau adfer o'r pandemig, mae'r cwricwlwm newydd i Gymru ac adolygiad cymwysterau yn rhoi cyfle i adolygu ieithoedd rhyngwladol ar lefel uwchradd ac 么l-16 mewn colegau, i greu strategaeth genedlaethol i daclo'r niferoedd sy'n parhau i ostwng, a diogelu dyfodol darpariaeth ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru."
Dywedodd athrawon bod "opsiynau amserlenni, amser annigonol o fewn y cwricwlwm ac arholiadau anoddach o'i gymharu 芒 phynciau eraill" angen sylw hefyd.
Dywedodd Ian Collen, un o awduron adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2021 bod ieithoedd rhyngwladol yn wynebu "adeg dyngedfennol".
Ychwanegodd: "Mae'r gostyngiad o ran niferoedd ers 2015 yn ddychrynllyd a nawr mae'n amser gweithredu.
"Mae angen i weithlu Cymreig yfory gael ieithoedd rhyngwladol er mwyn cystadlu ar lwyfan y byd.
"Trwy gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru, mae angen cefnogaeth a chymorth ar ysgolion i sicrhau bod gan ieithoedd rhyngwladol ddigon o amser o fewn y cwricwlwm a bod hunaniaeth amlieithog yn cael ei ddathlu mewn dosbarthiadau ar hyd y genedl."
'Cynnydd nodedig yn niferoedd ceisiadau Sbaeneg'
Er gwaethaf y pandemig, mae darganfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod "nifer dda" wedi ymwneud 芒 phrosiectau ieithoedd modern mewn ysgolion.
Yn ogystal, fe welwyd "cynnydd nodedig" yn nifer ceisiadau TGAU Sbaeneg dros y cyfnod diweddaraf.
Ond mae canfyddiadau'r adroddiad yn nodi bod angen "sefydlogi'r niferoedd a sicrhau bod yr iaith yn hyfyw yn hir dymor".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd ein cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddatblygu amodau fydd yn gymorth i ehangu dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion.
"Mae dechrau dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd hefyd yn gam pwysig wrth sicrhau nod o ddatblygu dysgwyr y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019