大象传媒

Torri record dyddiol brechu Cymru gyda 47,800 dos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pobl yn ciwio i gael eu brechu yn Stadiwm Cwmbr芒n fore Sul
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pobl yn ciwio i gael eu brechu yn Stadiwm Cwmbr芒n fore Sul

Cafodd mwy o bobl eu brechu yng Nghymru ddydd Sul nag ar unrhyw ddiwrnod arall ers dechrau'r pandemig.

Yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhoddwyd cyfanswm o 47,800 dos ar 19 Rhagfyr - gyda 94% o'r rhain yn bigiadau atgyfnerthu.

Mae hyn yn curo'r record dyddiol blaenorol, sef 40,211 o frechiadau ar 12 Mawrth.

Mae'n golygu bod 49.4% o'r boblogaeth dros 12 oed wedi derbyn trydydd dos yng Nghymru erbyn hyn.

Yn y cyfamser, mae ICC wedi cofnodi wyth marwolaeth yn rhagor sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19.

Cafodd 6,796 o achosion newydd hefyd eu cofnodi yn y 48 awr hyd at 09:00 fore Sul.

Mae ICC hefyd wedi cadarnhau 163 yn rhagor o achosion o amrywiolyn Omicron, gan fynd 芒'r cyfanswm bellach i 435 achos.

Mae'r rhan fwyaf o'r achosion Omicron yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro (102), Cwm Taf Morgannwg (86) a Bae Abertawe (84).

6,516 o farwolaethau sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, a 559,959 o achosion, yn 么l dull ICC o gofnodi.

Mae'r gyfradd achosion saith diwrnod am bob 100,000 o bobl ar draws Cymru wedi cynyddu'n sylweddol o 503.4 i 548.4.

Ynys M么n (778.1) sy'n parhau 芒'r gyfradd achosion uchaf, gyda Sir y Fflint (629.7), Sir Ddinbych (614.4), Bro Morgannwg (609.3), Caerdydd (605.1) a Sir Fynwy (601.5) bellach wedi codi i gyfraddau dros 600.

Ceredigion (385.2) yw'r unig sir drwy Gymru sydd 芒 chyfradd dan 400.

Mae 2,482,756 o bobl wedi cael un brechiad, 2,289,735 wedi cael dau ddos, a 1,311,804 wedi cael pigiad atgyfnerthu.