´óÏó´«Ã½

Lleihau cynllun fferm wynt Awel y Môr wedi pryderon

  • Cyhoeddwyd
Safle Fferm Awel y Môr
Disgrifiad o’r llun,

Y safle ar gyfer cynllun fferm Awel y Môr

Mae cynllun i sefydlu bron i 100 o dyrbinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd wedi cael ei leihau'n sylweddol ar ôl ymgynghoriad lleol.

Gobaith y datblygwyr, RWE Renewables, oedd cyflwyno cais i godi tua 91 o dyrbinau gwynt ar safle newydd o'r enw Awel y Môr, rhwng glannau Llandudno a Llanfairfechan.

Ond fe gyhoeddodd y cwmni y byddan nhw'n lleihau'r nifer yna i "35-50" wedi pryderon yn lleol am effaith y datblygiad ar y golygfeydd.

Ym mis Hydref eleni fe bleidleisiodd un o bwyllgorau cynllunio Cyngor Sir Conwy yn erbyn y cynlluniau oherwydd pryderon ynglŷn â maint y datblygiad a'r effaith posib ar dwristiaeth.

Fe fyddai cynllun gwreiddiol Awel y Môr wedi gorwedd i'r chwith o'r fferm wynt bresennol, Gwynt y Môr, sydd 14 cilomedr oddi ar lannau'r gogledd.

Gobaith RWE oedd y byddai Awel y Môr yn gorchuddio ardal o tua 88 cilomedr sgwâr (34 milltir sgwâr).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl RWE Renewables mae safle Gwynt y Môr gerllaw yn cyfrannu £8m i fusnesau Cymru bob blwyddyn

Ond wedi wythnosau o ymgynghori'n lleol, wnaeth ennyn dros 300 o ymatebion ffurfiol a 3,500 o ymwelwyr digidol i'r wefan, mae RWE wedi cyhoeddi eu bwriad i leihau maint y cynllun o 26%.

Tra bydd maint y tyrbinau yn cael effaith ar faint o ynni all gael ei greu mae RWE yn dweud eu bod nhw'n credu y bydd dal modd cynhyrchu digon o drydan i ddarparu "hanner miliwn o gartrefi bob blwyddyn".

Mae hyn yn golygu y bydd yn un o'r safleoedd mwyaf o'i fath drwy Ewrop gyfan.

Fe achosodd y cynlluniau gwreiddiol bryderon yn lleol fod polisïau ynni gwyrdd gan Lywodraethau Cymru a Phrydain yn cael eu gorfodi ar gymunedau heb drafodaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd sir Trystan Lewis bod angen trafodaeth leol a chenedlaethol

Un o'r cynghorwyr a wrthododd y cynllun oedd Trystan Lewis o Blaid Cymru.

"Y broblem ydy'r diffyg deialog," meddai. "Ni sy'n trio fel cynghorwyr i gael y gorau'n lleol felly mae angen trafodaeth, nid gorfodaeth.

"'Dan ni'n deall yr argyfwng sydd ohoni ond 'dan ni angen trafodaeth i gael y gorau yn lleol, ac yn genedlaethol."

Ychwanegodd y byddai trafodaethau ac ymgynghori'n lleol yn eithriadol o bwysig dros y degawdau sydd i ddod er mwyn i gynlluniau ynni gwyrdd weithio mewn cymunedau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tamsyn Rowe fod yr adborth yn lleol wedi bod yn "eithriadol o ddefnyddiol"

Yn ôl y datblygwyr RWE maen nhw wedi gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud yn lleol.

"Roedd yr adborth yn eithriadol o ddefnyddiol," meddai Tamsyn Rowe, rheolwr Awel y Môr.

"Mi fyddwn ni'n parhau i fireinio'n cynlluniau wrth symud ymlaen at gyflwyno ein cais yn y flwyddyn newydd."

Mae taro cydbwysedd rhwng mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd ac effaith hynny ar gymunedau yn anodd, ac yn anochel fe all arwain at densiwn.

Ond dywed mudiad Gwrthryfel Difodiant bod angen i gymunedau edrych ar fanteision datblygiadau wrth gyrraedd cyfaddawd.

Disgrifiad o’r llun,

"Cydbwysedd ydy'r peth a thrio gwneud iddo weithio," meddai Morris Owen

"Does neb eisiau hyn yn eu 'gardd nhw' os liciwch chi," meddai Morris Owen o XR Bangor.

"Mae'n bell i ffwrdd ond mae'n rhaid cael pobl leol ar ein hochr ni.

"Ond fedran nhw ddim rhoi veto ar bethau, mae 'na rywun am fod yn erbyn hyn dio'm ots be, ond cydbwysedd ydy'r peth a thrio gwneud iddo weithio."

Ychwanegodd Mr Owen y byddai ymgynghoriadau lleol yn eithriadol o bwysig mewn degawdau i ddod er mwyn sicrhau datblygiadau tebyg.

Yn ôl RWE Renewables fe wnaeth fferm wynt Gwynt y Môr gyfrannu £90m i fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu, ac mae'n parhau i gyfrannu £8m bob blwyddyn ers hynny.

Bydd y datblygwyr rŵan yn cyflwyno eu cais ffurfiol i lywodraethau Prydain a Chymru yng ngwanwyn 2022.

Pynciau cysylltiedig