大象传媒

Tlodi mislif yn dal yn 'broblem enfawr' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Nwyddau mislif
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r broblem wedi gwaethygu yn ystod y pandemig yn 么l un ymgyrchydd

Mae tlodi mislif yn parhau yn "broblem enfawr" yng Nghymru, meddai ymgyrchydd, ac yn un sydd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.

Yn 么l y Cynghorydd Elyn Stephens o Gyngor Rhondda Cynon Taf, mae'n cael effaith "anferth" ar addysg merched, gyda rhai yn penderfynu aros adref yn lle mynd i'r ysgol.

Mae tlodi mislif yn cyfeirio ar ferched sy'n ei chael hi'n anodd talu am gynnyrch mislif.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i leihau'r pwysau ariannol ar deuluoedd ac i helpu gyda'u costau byw.

Ers 2018 mae gweinidogion wedi darparu bron i 拢9m i fynd i'r afael 芒 thlodi mislif.

Am bron i ddwy flynedd, mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi gallu defnyddio'r arian i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i ddysgwyr yn yr ysgol.

Mae 'na gynlluniau ar y gweill hefyd i ddarparu'r eitemau hynny mewn cymunedau ac mewn ysbytai.

Ond yn 么l ymgyrchwyr dydy'r cynlluniau heb ddatrys y sefyllfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elyn Stephens, sy'n cynrychioli Plaid Cymru, yn ymgyrchu dros dlodi mislif

"Mae'n broblem enfawr," meddai Ms Stephens, sy'n cynrychioli Plaid Cymru.

"Oedd e'n broblem cyn y pandemig yn bendant. Lot o bobol yn dod aton ni, lot o ferched ifanc yn dweud dydyn nhw ddim yn mynychu'r ysgol oherwydd mislif a methu fforddio'r cynnyrch.

"Mae hynny'n cael effaith anferth ar eu haddysg nhw a lot ohonyn nhw'n disgwyl adref yn hytrach na mynd i'r ysgol."

Ychwanegodd bod angen "polisi cenedlaethol" i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sarah Henton, mam i sengl i dri o blant, wedi derbyn cymorth gyda nwyddau mislif i'w phlant

Yn Sir Benfro, mae Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn rhedeg cynllun cymunedol sy'n cefnogi pobol i gael deunyddiau hylendid am ddim.

Fe dderbyniodd Sarah Henton, mam sengl i dri o blant, fag llawn cynnyrch mislif ar ddechrau'r pandemig ac roedd hi'n falch iawn o'r cymorth.

"Gyda chostau popeth yn codi, mae'n braf gwybod bod yna un peth yn llai sy'n rhaid poeni amdano," meddai.

"Mae sicrhau bod ganddom ni ddigon o fwyd, gwres, trydan ac yna deunyddiau hylendid, yn enwedig i ferched, yn rhywbeth sy'n rhaid i ni feddwl amdano."

'Argyfwng costau byw'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod pobol yn wynebu heriau "digynsail" a bod 'na "argyfwng" costau byw.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i leihau'r pwysau ariannol ac i helpu aelwydydd gyda'u costau byw," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod bod darparwyr bwyd yn y gymuned, fel banciau bwyd, yn darparu eitem hylendid, gan gynnwys sebon, siamp诺 a diaroglyddion ar y cyd gyda pharseli bwyd brys.

"Ry'n ni'n cefnogi'r sefydliadau yma ac wedi darparu 拢500,000 yn ychwanegol fel rhan o Gronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth 拢51m i ateb y galw dros gyfnod y gaeaf."

Pynciau cysylltiedig