Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Huw Clarke
Y cynorthwyydd cymorth Huw Clarke sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Heulwen Beasley Park yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Aberteifi, mae nawr yn byw gyda'i deulu yn y Barri. Sylfaenydd yw Huw ar gyfer y gr诺p METALIDADS, sef gr诺p cymorth a rhwydwaith cyfeillgarwch Cymreig i dadau dros Gymru i gyd.
Maent yn trafod roc a heavy metal ac yn rhannu cymorth ar sut i ddelio efo dyletswyddau tadol, heriau bywyd a iechyd meddwl.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Parcio o flaen y t欧 gyda Dad yn y car oedd heb do.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn 17 mlwydd oed yn gwylio Judas Priest a The Scorpions yn y rheng flaen yn yr NEC yn Birmingham y diwrnod wnaeth t卯m rygbi dynion Cymru ennill y gamp lawn yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Fel y boi.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr hen caffi Penguin ar Pier Street yn Aberystwyth.
Mae gen i atgofion melys o fynd yma gyda Mam a fy chwaer fel plentyn i gwrdd 芒 fy mamgu am ysgytlaeth mefus, rolyn caws a winwns a fy hoff beth yn y byd sef custard slice. Mae'r llun o fi a fy ngwraig yn mynd n么l i'r caffi am y tro cyntaf ers roeddwn yn 8 neu 9 mlwydd oedd, a roeddwn yn 30 yn y llun yma.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ceisio rhedeg i ffwrdd o adref yn 9 mlwydd oed.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Ddydd Sul diwethaf tra mod i'n gwylio'r ffilm Hook ar y teledu gyda'r teulu ar y soffa. Mae cerddoriaeth John Williams yn angerddol iawn ac yn gallu symud fi i ddagrau yn gyflym.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Clywed pobl yn siarad ond ddim yn gwrando ac yn gofyn nhw i ailadrodd.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Ddim yn ddarllenwr mawr y dyddiau yma, ond dwi'n dwli ar ffilmiau arswyd.
Mae o rhwng Jaws neu John Carpenter's The Thing. Mae ffilmiau arswyd yn llai dychrynllyd na'r newyddion ar y teledu yn fy llygaid i.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Gyrru o gwmpas y dref Grahamstown yn Ne Affrica gyda'r heddlu a chymryd cwrw oddi wrth y myfyrwyr lleol ac yfed y stoc gyda'n gilydd yn y car fel yn y ffilm Superbad.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Nelson Mandela, dim dwywaith amdani.
Hoffwn ffeindio allan sut wnaeth o gadw ei iechyd meddwl yn bositif gyda gymaint o bwysau trwm a heriau anferthol o'i gwmpas.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ffrindiau gyda'r esgob a wnaeth ddarllen y teyrnged swyddogol yn angladd Nelson Mandela ar 么l i Barack Obama siarad.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwylio'r ffilmiau dwi wedi safio ar Sky Q.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun fy ngwraig gyda fy merch yn cael ei sgidiau cyntaf.
Y dyn sy'n roi y sgidiau mlaen yw perchennog siop Sgidie Teifi yn Aberteifi, a'r un dyn wnaeth roi sgidiau cyntaf arna i pan roeddwn yn blentyn, yn yr un siop n么l yn 1988.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Menyw anabl, hoyw a chroen du i brofi heriau bywyd yn eu sefyllfaoedd nhw.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Catrin Jones