大象传媒

Wynford Ellis Owen: Y p诺er i ddweud Na

  • Cyhoeddwyd
wynford

Cyfnod o ddathlu a llawenydd yw'r Nadolig i nifer ond mae'n gallu bod yn 诺yl anodd i'r rhai sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau.

Un sy' wedi profi hyn ei hun yw Wynford Ellis Owen sy' wedi bod yn sobor ers 1992 ar 么l cuddio ei alcoholiaeth am flynyddoedd.

Ac mae Wynford bellach yn treulio'i amser yn helpu pobl eraill sy'n gaeth trwy ei waith gyda Cynnal ac hefyd drwy sesiynau grwpiau ac enciliadau i bobl sy'n byw gyda dibyniaeth.

Drwy ei alcoholiaeth ei hun a'i flynyddoedd yn helpu eraill, mae Wynford wedi dysgu am y feddylfryd sy'n arwain at ddibyniaeth ac mae'n rhannu ei brofiad gyda Cymru Fyw:

Meddai Wynford: "Os fedra'i gael rhywun i dderbyn y ffordd maen nhw'n meddwl a'r ffordd maen nhw'n teimlo, fedra'i gael rhywun i dderbyn y ffordd ydy nhw - y da a'r drwg.

"Ac felly gewn nhw byth unrhyw broblem o gwbl gyda unrhyw ddibyniaeth.

P诺er Na

"Doedd gan fy alcoholiaeth ddim i'w wneud 芒 grym ewyllys - roedd gen i ormodedd o hwnnw. Yr hyn nad oedd gen i oedd y p诺er i ddweud Na.

"Derbyn nad oedd gen i y p诺er i ddweud Na oedd yr allwedd agorodd y drws i mi i fywyd newydd, tu hwnt i'm holl freuddwydion.

"Mae dechrau'r daith i adferiad mor syml 芒 hynny."

Mae'r cyn actor, sy'n arwr i genedlaethau o blant fel y cymeriad chwedlonol Syr Wynff ap Concord y Bos, yn gredwr cryf mewn siwrne o hunan-adnabyddiaeth, sy'n cynnwys elfen o ddioddefaint, er mwyn cyrraedd man mewn bywyd lle mae'n bosib delio efo'r ddibyniaeth.

Mae'n disgrifio ei "foment Ddamascaidd" ei hun yn 1992 yn Aberystwyth: "Mae dioddefaint yn ran bwysig o'r hafaliad.

"Pan 'da ni wedi dioddef digon yn aml 'newn ni newid ein ffyrdd.

"I mi 'nes i godi yn y bore ar 么l bod ar y stryd y noson gynt. O'n i wedi sylweddoli fy nghyflwr ac 'oedd nifer o bethau wedi digwydd i mi ar y stryd ar y nos Sul yna yn Aberystwyth.

"Es i i'r fflat yma ac roedd genna'i dri doctor yn cyflenwi cyffuriau i mi. 'Nes i gymryd y cyffuriau fel Smarties.

"Pan 'nes i ddeffro y bore wedyn o'n i'n meddwl mod i wedi cael str么c ac methu agor fy ngheg na llygaid, methu neud dim byd.

"Dwi erioed wedi bod mor ofnus yn fy mywyd - hwnna oedd y foment 'nes i ildio. Wedyn ddoth 'na ferch ifanc oedd wedi rhoi llety i fi i'r stafell.

"'Oedd DTs (Delirium tremens) gen i, o'n i'n crynu o'r top i'r gwaelod a 'naeth hi gydio yn fy llaw i a dyna pryd 'nes i ofyn am help. A 'nes i ildio yn gyfan gwbl.

"'Nath rhywbeth arall ddigwydd i fi yr un pryd - roedd rhywbeth gwahanol am y ferch ifanc yma i bawb arall oedd wedi siarad 芒 fi, roedd gen hi dosturi anghyffredin yn ei llygaid ac yn y foment yna o'n i'n gwybod mae'r ateb i bob addiction ydy hynna - cariad.

"Beth maen nhw'n chwilio amdano yw hynna, sef dyhead y galon dynol i gael ei charu amdani hi ei hun."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wynford yn agor Y Stafell Fyw yn swyddogol yn 2011

Ac ym mhrofiad Wynford, mae angen hunan-adnabyddiaeth fel sail i ymladd dibyniaeth: "Taith o adnabyddiaeth ydy hi - mae pawb sy'n dod i'n ngweld i gyda un peth yn gyffredin, does gynna nhw ddim syniad pwy na be' ydy nhw.

"Mae'n rhaid i ni ddechrau caru'r pethau 'da ni ddim yn hoffi amdan ein hunain.

"Mae'n rhaid i ni gofleidio ochr ddu yr enaid, y pethau sydd yn gwneud ni'n ddynol.

"Fedrith ddim alcoholig wella nes fod e'n derbyn fod e'n alcoholig. Mae hynny'n wir am bob cyflwr dynol arall."

Unwaith mae'r person dibynnol wedi dod i adnabod eu hunain yn well, mae'r p诺er i ddweud Na yn sail ar gyfer y dyfodol ond yn rhywbeth sy' angen ei ymarfer bob dydd, yn 么l Wynford: "Y p诺er i ddweud Na ydy derbyn peidio gofyn am ddim byd, peidio disgwyl dim byd a derbyn popeth sy'n dod.

"Os ti'n cynnig unrhyw wrthwynebiad i unrhyw beth sy'n digwydd, ti'n cryfhau'r teimladau neu'r meddyliau hynny.

"Er enghraifft, os wyt ti'n teimlo'n isel ti'n dweud wrth dy hun dwi ddim isho teimlo'n isel. Ond beth ti'n gwneud yw cryfhau'r teimlad yna o fod yn isel, mae'n hongian o gwmpas am amser hir.

"Y ffordd i feddwl efo popeth ydy rhoi caniat芒d i dy hun i deimlo beth bynnag ti'n teimlo a meddwl beth bynnag ti'n meddwl - ti'n cynnig dim gwrthwynebiad iddo fo.

"Ti'n gwneud mewn gwirionedd beth wyt ti'n gwneud mewn d诺r - pan wyt ti mewn d诺r a ddim yn cynnig unrhyw wrthwynebiad i'r d诺r mae hynny'n golygu fedri di arnofio.

"Ond os ti'n gwrthwynebu, ti'n suddo. Mae hwn yr un fath.

"Os wyt ti'n rhoi caniat芒d i dy hun i deimlo'n drist a chynnig dim gwrthwynebiad mi wneith y teimlad ddiflannu a ddim para mwy na 90 eiliad.

"Unwaith ti'n ildio a cyfaddef bod ti'n ddi-rym dros bopeth, yn baradocsaidd mae gen ti rym drosto fo.

"Dydy meddwl ddim yn diffinio pwy wyt ti. Dydy teimlad ddim yn diffinio pwy wyt ti. Nid ti ydy dy feddyliau. Nid ti ydy dy emosiynau.

"Felly sut wyt ti'n delio efo euogrwydd a chywilydd? Ti'n rhoi caniat芒d i dy hun i deimlo'n euog a bydd y teimlad yn mynd yn syth.

"Derbyniad ydy'r ateb i'r holl broblemau - ti'n cynnig dim gwrthwynebiad. A dyma yw'r p诺er i ddweud na."