大象传媒

Mwy o bobl nag erioed yn aros am driniaeth yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar eu lefelau gwaethaf eto.

Ym mis Hydref, roedd 679,276 o bobl yn aros am driniaethau wedi eu trefnu, y ffigwr mwyaf erioed i gael ei gofnodi a dros 10,000 yn fwy o bobl na'r mis blaenorol.

Mae'r ffigwr yn cyfateb 芒 mwy na 21% o boblogaeth Cymru a 50% yn fwy nag ar ddechrau'r pandemig.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros mwy na naw mis am driniaeth, gyda 242,101 yn aros yn hirach na hyn ym mis Hydref.

Yn y cyfamser, mae perfformiadau adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans wedi gwella yn y cyfnod diweddaraf.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 67.63% o'r cleifion mewn adrannau brys wedi treulio llai na phedair awr yno ar 么l cyrraedd, cael eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn yn well na'r ffigwr o 64.9% ym mis Hydref.

Ond mae'r darlun cyflawn yn adlewyrchu'r pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd dros y gaeaf.

Daw'r ffigyrau wrth i Brif Weithredwr newydd y GIG yng Nghymru rybuddio y gallai hyd at un ym mhob pump aelod o staff fod yn absennol o'u gwaith yn ystod brig ton Omicron.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb i'r ffigyrau, dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes bod "heriau anferthol i ddod".

Dywedodd: "Dan gysgod Covid-19 mae'r sector iechyd a gofal i gyd yn gweithio'n ddiflino i ddod o hyd i ddatrysiadau hir-dymor a byr-dymor i'r heriau mae'n wynebu.

"Mae hyn ar yr un pryd ag y ry'n ni'n gweld cynnydd mewn salwch staff a staff yn gorfod hunan-ynysu, tra'n gweithredu'r cynllun brechu mwyaf i'r byd erioed ei weld," ychwanegodd.

"Mae'r perfformiad mewn rhai meysydd, er enghraifft mewn gofal brys, yn gwella o fis i fis ond mae dal heriau anferthol i ddod."

Ychwanegodd Mr Hughes eu bod yn croesawu'r buddsoddiad o 拢34m gan Lywodraeth Cymru i wasanaethau ambiwlans dros y gaeaf, gan annog pobl i wneud "dewisiadau synhwyrol" er mwyn lleddfu'r pwysau ar y gwasanaeth.

'Siomedig ond nid annisgwyl'

Wrth gyhoeddi'r swm ychwanegol o arian, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "heriau cynyddol yn sgil pwysau Covid yn golygu fod amseroedd aros wedi cynyddu ac yn parhau i gynyddu".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y ffigyrau "yn siomedig ond ddim yn annisgwyl".

"Ry'n ni yn gwybod bod y sefyllfa wedi gwella rhywfaint ers y mis diwetha' ond ry'n ni'n gwybod bod ni ar fin mynd mewn i gyfnod rili anodd lle fyddwn ni'n gweld ein ysbytai ni yn llenwi gyda pobl sydd wedi dioddef efo Covid unwaith eto.

"Dwi'n ymwybodol iawn fod 'na gannoedd o filoedd yng Nghymru yn diodde' ar hyn o bryd, a lot ohonyn nhw yn diodde' mewn poen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae arna i ofn bydd rhaid i bobl aros tamaid bach yn hirach," meddai Eluned Morgan

"Yn amlwg ry'n ni'n awyddus iawn i wneud beth yr allwn ni i gyflymu'r broses hynny fel eu bod nhw'n gallu cael eu gweld cyn gynted ag sy'n bosibl ond mae Omicron wedi newid y sefyllfa," ychwanegodd.

"Ry'n ni yn gwybod y bydd pwysau aruthrol ar yr NHS yn mis Ionawr a falle mis Chwefror ac felly mae arna i ofn bydd rhaid i bobl aros tamaid bach yn hirach.

"Dwi yn meddwl bod e'n bwysig hefyd i danlinellu'r ffaith bod tua 220,000 o bobl wedi cael eu gweld mewn outpatients yn ystod Medi felly mae cannoedd o filoedd yn dal i gael eu gweld."

'Angen sgwrs genedlaethol'

Mae Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George wedi dweud bod yn "rhaid i bwynt ddod lle fydd pethau'n gwella".

"Wrth symud ymlaen, mae angen i ni leddfu pwysau ar adrannau brys mewn tair ffordd: annog defnydd o wasanaethau eraill fel unedau man anafiadau a fferyllfeydd cymunedol, sefydlu hybiau llawfeddygol cymunedol i ddelio gyda rhestrau aros a gwneud hi'n haws i gael mynediad i wasanaethau meddyg teulu.

"Mae'n rhaid i ni gael sgwrs genedlaethol ar sut ry'n ni'n byw gyda'r feirws hwn a'r gofynion cynyddol ry'n ni, fel cenedl, yn rhoi ar ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod "mynydd i'w ddringo" er mwyn adfer y GIG yng Nghymru.

"Mae'n bwysig i gofio, fodd bynnag, nad yw'r rhain yn broblemau sydd wedi eu creu gan y pandemig - maen nhw'n broblemau sydd eisoes yn bodoli ac wedi'u gwaethygu gan y pandemig," ychwanegodd.

"Mae'n dangos faint mae'r GIG wedi gorfod troedio ar erchwyn y dibyn ers blynyddoedd cyn i ni glywed am y feirws."