大象传媒

'Blwyddyn gr锚t' ar 么l cael trawsblaniad aren

  • Cyhoeddwyd
Mali Elwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mali wedi byw gydag ond un aren ers ei bod hi'n blentyn ifanc

"Mae 'na ran ohona fo dal heb sincio mewn - mae'n lot i gymryd fewn, y ffaith bod hynny wedi digwydd."

Flwyddyn yn 么l roedd Mali Elwy adref yn Llansannan, Sir Conwy yn adfer, ar 么l derbyn y trawsblaniad aren y bu hi'n aros amdano ers blynyddoedd.

Gan ei brawd Morgan y cafodd hi yr aren - ac ers hynny mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i'r ddau ohonyn nhw.

"Dwi jyst wedi dechrau teimlo'n well ac yn well dros y flwyddyn i gyd," meddai Mali, wrth siarad ar raglen Dros Ginio am ei phrofiad.

"'Chydig o setbacks, ambell waith yn mynd i'r ysbyty efo infections a 'ballu - ond 'di o'm byd i gymharu efo sut o'n i'n teimlo cynt, mae jyst 'di bod yn flwyddyn gr锚t."

'Ofnadwy o lwcus'

Mae Mali wedi byw gydag ond un aren ers ei bod hi'n blentyn ifanc, ar 么l gorfod tynnu un oherwydd tiwmor oedd wedi datblygu.

Ond o ganlyniad i hynny cafodd hynny effaith ar ei aren arall, ac wrth i hwnnw ddirywio hefyd dros y blynyddoedd roedd angen trawsblaniad ar Mali erbyn ei bod hi'n 16 oed.

Wedi i'w mam geisio yn aflwyddiannus gyntaf i weld a oedd hi'n gymwys i roi aren, fe wnaeth Morgan gynnig - ac roedd yn llwyddiannus.

Ond bu hynny'n broses o flynyddoedd, gyda llawdriniaethau'n cael eu gohirio a'r pandemig yn cael effaith hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ei theulu wedi bod yn agos iawn iddi, meddai Mali - yn enwedig ei mam Sioned, sydd wedi bod yn "graig"

"Oedd fy aren yn dechrau cau lawr yn iawn erbyn hynny, oedd o'n mynd rhwng 5-7% [o'i gapasiti] ac o'n i'n teimlo'n wael ofnadwy," meddai Mali.

"Be' fysa fo'n golygu i fi fysa dialysis bedair gwaith y diwrnod, bob dydd, ac unwaith 'dach chi'n dechrau, does na'm diwrnod o fr锚c, mae'n gorfod digwydd.

"A dwi'n meddwl i rywun ifanc, mae'r realiti yna'n reit frawychus - ond dwi'n un o'r rhai lwcus, nes i'm gorfod.

"Mae 'na gymaint o bobl yn gorfod mynd ar dialysis a dioddef hynny, a rhai pobl heb match na dim byd felly, a gorfod aros tair, bedair mlynedd i gael aren gan rywun oddi ar y list - pethau fel 'na.

"Dwi'n cyfri' fy hun yn ofnadwy, ofnadwy o lwcus."

Teulu agos

O'r diwedd digwyddodd y trawsblaniad ychydig cyn y Nadolig llynedd, dair blynedd ers i'r meddygon ddweud bod angen un arni.

Roedd adfer adref dros yr 糯yl yn deimlad "rhyfedd", meddai, ond roedd gallu bod o gwmpas ei theulu wrth wella yn "arbennig".

Bu'n ynysu'n llym ar 么l y driniaeth, gan osgoi gweld pobl nes fis Ebrill ond yn mynd am dro fesul tipyn i adfer ei chryfder.

"Ym mis Mawrth nes i ddringo fyny Moel Siabod - oedd hynna fatha rhyw garreg filltir arall eto," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mali Elwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mali a'i brawd Morgan - mae'r ddau wedi cael blwyddyn i'w gofio eleni

Ddeufis yn ddiweddarach roedd gan y teulu clos reswm arall i ddathlu, wrth i Morgan ddangos ei ddoniau cerddorol a chipio tlws C芒n i Gymru 2021 gyda 'Bach o Hwnne'.

"O'n i in awe, methu credu'r peth!" meddai Mali. "Allai'm deutha chi faint o ddagrau oedd yn t欧 ni noson yna.

"Dwi'n edrych arno fo weithiau, yn enwedig pan mae'n bod yn wirion, neu'n canu neu rywbeth, a meddwl 'waw, mae'r boi 'ma wedi rhoi organ i fi'.

"Mae 'na ran ohona fo dal heb sincio mewn, mae'n lot i gymryd fewn, y ffaith bod hynny wedi digwydd. 'Di diolch byth yn mynd i fod yn ddigon, rili."

Edrych i'r dyfodol

Ar hyn o bryd mae Mali hanner ffordd drwy ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae actio, perfformio a chanu ymhlith ei diddordebau.

Ond dydy hi ddim am wneud cynlluniau cadarn am ei dyfodol ar 么l graddio eto - ac mae'n gwybod hefyd y bydd trawsblaniad aren arall hefyd yn gorfod digwydd eto ryw ddydd.

"Mi fydd 'na ryw ddiwrnod, 20 mlynedd, 30 mlynedd o r诺an... ond mae hynna'n bell yn y dyfodol. Mae'r aren yma'n 'neud yn gr锚t ar y funud," meddai.

"Mae pethau'n edrych i fyny a dwi jyst yn teimlo'n lwcus ar ddiwedd y flwyddyn hon bod 'na flwyddyn 'di mynd heibio a bo' fi dal yn iach."

Pynciau cysylltiedig