大象传媒

Drakeford: 'Rhaid i rai ysgolion baratoi i ddysgu o adref'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
bachgen yn dysgu o adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd yn rhaid i rai ysgolion ddechrau cynllunio bod plant yn dychwelyd i ddysgu o adref, yn 么l y Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford bod salwch athrawon a staff yn golygu y byddai penderfyniadau'n gorfod cael eu gwneud yn lleol.

Mae gan ysgolion Cymru ddau ddiwrnod ychwanegol yr wythnos nesaf i baratoi ar gyfer y tymor newydd yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.

Rhybuddiodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles hefyd y byddai'n bosib na fyddai pob ysgol yn gallu agor yn llawn ar 么l y Nadolig oherwydd effaith yr amrywiolyn Omicron.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth 大象传媒 Cymru: "Rydyn ni wedi gofyn i ysgolion gymryd dau ddiwrnod cyntaf y tymor nesaf i gynllunio a pharatoi ar gyfer beth sydd i ddod ac mae'n well gwneud pethau ar lefel yr ysgol oherwydd mae ysgolion gwahanol yn wynebu heriau gwahanol.

"Rydyn ni wedi gofyn i ysgolion baratoi ar gyfer sut maen nhw'n gallu ailagor a chael plant 'n么l yn yr ystafell ddosbarth - pa lefel o fesurau diogelwch sydd angen eu hystyried ar gyfer hynny?

"Ond mewn rhai llefydd, achos bod athrawon yn s芒l a dyw staff arall ysgolion ddim yn gallu bod yna, bydd rhaid iddyn nhw gynllunio am gyfnod lle bydd rhai plant yn gorfod dysgu o adref eto.

"Ond mae hwnna'n benderfyniad sydd well i'w wneud yn y cyd-destun lleol iawn yna, gan bobl sydd mor agos at y sefyllfa ag sy'n bosib."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan ysgolion ar draws Cymru deuddydd i gynllunio ar ddechrau'r tymor newydd

Ar hyn o bryd, mae holl ddisgyblion ysgol Cymru fod n么l erbyn 10 Ionawr, ond cyhoeddodd rhai cynghorau cyn y Nadolig eu bod nhw'n cynllunio agor yn gynt.

Dywedodd awdurdodau lleol yn cynnwys Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Casnewydd, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Thorfaen y byddai'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod 'n么l ddydd Iau, 6 Ionawr, ar 么l dyddiau cynllunio ar 4 a 5 Ionawr.

Mae disgyblion yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, ac Ynys M么n fod 'n么l yn y dosbarth erbyn 10 Ionawr ar hyn o bryd.

Mae disgyblion Ceredigion fod i ddychwelyd ar 7 Ionawr, a dywedodd cyngor Sir Benfro y byddai ysgolion unigol yn diweddaru rhieni.

Powys yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi cadarnhau y bydd ysgolion yn dysgu o adref ar ddechrau'r tymor ar 么l iddyn nhw ddweud y byddai disgyblion yn cael eu dysgu ar-lein ar ddydd Gwener, 7 Ionawr.

Bydd dyddiau cynllunio ar 5 a 6 Ionawr cyn dychwelyd i ddysgu yn y dosbarth o 10 Ionawr "yn dibynnu ar lefelau coronafeirws".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, bydd unrhyw benderfyniad yn gorfod digwydd ar y funud olaf

Yn 么l un pennaeth, bydd y penderfyniad i agor ysgolion yn llawn wedi gwyliau'r Nadolig neu symud at ddysgu ar lein yn gorfod digwydd ar y "funud olaf".

Dywedodd Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, ei bod yn "paratoi at gyfer y gwaethaf gan obeithio ar gyfer y gorau".

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i bob disgybl ddychwelyd i'r ysgol ddydd Iau 6 Ionawr.

Ansicrwydd dros lefelau staffio yw'r "her fwya'", yn 么l Dr Jones wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C.

"Byddwn ni ddim yn gw'bod yn aml iawn tan y bore hwnnw [faint o staff sy'n gorfod hunan-ynysu] sy'n ei gwneud hi'n fwy anodd," meddai.

"Yr hyn byddwn i'n gofyn amdano yw cydweithrediad pawb - y staff, disgyblion a rhieni achos bydd rhai o'r penderfyniadau yma yn gorfod bod yn rhai funud olaf."

Cynllunio ar gyfer pob math o fesurau

Tra bod y sefyllfa'n rhoi "pwysau mawr ar 'sgwyddau'r penaethiaid", dywedodd Dr Jones ei bod yn deall yr angen i wneud penderfyniadau'n lleol iawn ar y pwynt hwn yn y pandemig.

"Fe fyddwn ni'n disgwyl cryn dipyn o arweiniad gan ein awdurdodau addysg lleol a'r t卯m profi, olrhain a diogelu - oherwydd nhw fydd 芒'r atebion i ni i ni allu edrych ar ein hasesiadau risg i weld a yw hi mynd i fod yn ddiogel i agor yr ysgol," dywedodd.

"[Byddwn yn] cynllunio ar gyfer pob math - naill ai dysgu wyneb yn wyneb, neu ddysgu ar-lein, neu ddysgu ar-lein ar gyfer rhai blynyddoedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybuddiodd Jeremy Miles y byddai'n rhaid i rai ysgolion newid i ddysgu o adref wedi'r Nadolig

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi rhybuddio o'r blaen y gall staffio fod yn her fawr i ysgolion wrth ystyried cynnydd annisgwyl yn yr achosion Covid.

Yn nhymor yr hydref fe wnaeth rhai ysgolion symud dosbarthiadau neu flynyddoedd ar-lein am gyfnodau byr oherwydd prinderau staff, a newidiodd sawl awdurdod lleol i ddysgu o adref ar gyfer dyddiau olaf y tymor cyn y Nadolig.

Mae disgyblion ysgol uwchradd a holl staff ysgolion wedi cael eu hannog i gymryd profion tair gwaith yr wythnos yn y tymor newydd, trwy ddefnyddio profion llif unffordd.

Mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn atgoffa disgyblion o'r cyngor i brofi tair gwaith yr wythnos cyn dychwelyd i'r ysgol.

Mae disgwyl i'r canllawiau gael eu diweddaru cyn dechrau'r tymor newydd.