T卯m achub mynydd prysuraf y DU yn torri record eto
- Cyhoeddwyd
Mae T卯m Achub Mynydd Llanberis yn dweud eu bod wedi cael eu blwyddyn brysuraf eto wrth i bobl heidio i Eryri yn ystod y pandemig.
Fe gafodd y t卯m o wirfoddolwyr 237 o alwadau yn ystod 2021, y nifer fwyaf maen nhw wedi'i dderbyn erioed, a'r uchaf o unrhyw d卯m achub mynydd drwy Brydain.
Dywedodd Barry Davies cadeirydd T卯m Achub Mynydd Llanberis ar y Post Prynhawn ddydd Llun ei bod "'di bod yn flwyddyn eithriadol - y flwyddyn brysuraf mae T卯m Achub Mynydd Llanberis wedi'i gael o'r cychwyn cyntaf".
Yn 么l Mr Davies fe wnaeth t卯m yn ei gyfanrwydd - rhyw 40 o bobl - gyfrannu dros 5,500 o oriau o'u hamser yn wirfoddol i achub cerddwyr mewn trafferthion ar lethrau'r Wyddfa a bryniau cyfagos yn 2021.
Ychwanegodd fod y ffaith fod llawer yn fwy o bobl wedi penderfynu cymryd eu gwyliau yn y DU yn hytrach na mynd dramor oherwydd cyfyngiadau'r pandemig yn bendant wedi cyfrannu at y niferoedd.
Dywedodd hefyd ei bod yn braf gweld cymaint o bobl yn mwynhau'r awyr iach yng Nghymru, ond ei bod yn debygol mai cynyddu ymhellach fydd y niferoedd sydd yn ymweld 芒'r ardal.
Dywedodd Mr Davies fod rhai pobl sydd angen eu cymorth yn amlwg yn amharod i ddringo mynydd uchaf Cymru, ond eu bod "yna i helpu pawb".
"Mae 'na reswm tu cefn i bob achub 'dan ni'n ei wneud. Wrth gwrs, diffyg dealltwriaeth ydy lot ohono fo," meddai.
"'Da chi'n mynd fyny o lefel y m么r i 3,500 o droedfeddi a dydy pobl ddim yn sylweddoli ar adegau bod y tymheredd a'r tywydd yn newid wrth wneud hynny.
"Mi fyddai'n braf tasa 'na fwy o ymgyrchoedd efallai i dynnu sylw at be' i'w ddisgwyl ar y mynydd, be' i'w wisgo ar y mynydd, ac mi fyddai hynny'n helpu timau achub ar hyd a lled Prydain.
"Ond y prif fater i ni ydy cynorthwyo pobl sydd angen ein cymorth ni ar yr Wyddfa a'r bryniau cyfagos."
Ychwanegodd fod ceisio codi arian i'r t卯m achub mynydd wedi bod yn "anodd iawn" yn ddiweddar
"Mi oedden ni cyn y pandemig efo tuniau bach mewn tai bwyta a thafarndai ac ati, ond wrth gwrs mae'r rheiny i gyd wedi mynd r诺an," meddai Mr Davies.
"Mi ydan ni'n cael ychydig o bobl yn rhoi rhodd i ni - rhai reit sylweddol ar adegau, ond adegau prin ydy'r rheiny.
"Ond o'r rhai 'dan ni yn cynorthwyo, mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn rhoi cyfraniad i ni.
"Be sy'n eich synnu chi hefyd ydy eu bod nhw i gyd yn meddwl ein bod ni'n broffesiynol, mai dyma ydy ein gwaith ni.
"'Dan ni'n gorfod egluro iddyn nhw bo' ni wedi gorfod cymryd hanner diwrnod neu ddiwrnod o wyliau i fynd i'w cynorthwyo nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021