Cymru'n wynebu effaith 'ddifrifol' Omicron wedi rhybuddion
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n gweld effaith "ddifrifol" yr amrywiolyn Omicron, yn dilyn rhybuddion ar ddiwedd 2021, yn 么l Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Dywedodd Dr Chris Jones bod cyfraddau achosion Covid-19 yn cynyddu'n fwy a mwy cyflym, gyda'r gyfradd uchaf o achosion fesul bob 100,000 o'r boblogaeth ers dechrau'r pandemig yn cael ei chofnodi ddydd Sul.
Ychwanegodd prif weithredwr GIG Cymru fod effaith absenoldeb staff oherwydd Covid yn rhoi straen ar "bob adran" o'r gwasanaeth iechyd, yn 么l y prif weithredwr.
Daw wrth i wasanaethau cyhoeddus eraill weld pwysau'n cynyddu, fel Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sydd 芒 10% o'i staff rheng flaen yn absennol oherwydd Covid.
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Dr Chris Jones: "Roedden ni'n gwybod bod Omicron yn lledaenu'n hynod o gyflym ac y byddai'n symud yn gyflym o fewn ein cymunedau.
"Ry'n ni'n wir wedi gweld cyflymiad wrth i gyfradd yr achosion gynyddu yn ystod y ddwy neu dair wythnos diwethaf wrth i Omicron ddod yn fwy amlwg.
"Felly'r hyn sydd gyda ni nawr yw'r gyfradd uchaf o achosion yng Nghymru i ni erioed ei weld, gan dipyn o bellter, ac maen nhw'n cynyddu'n fwy a mwy cyflym."
Dywedodd Dr Jones bod y gyfradd ar ei huchaf ymysg oedolion ifanc, ond bod y cyfraddau'n "dechrau cynyddu yn y boblogaeth h欧n a mwy bregus hefyd".
"Gyda hynny, ry'n ni'n dechrau gweld cynnydd yn y nifer sy'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty - mae cynnydd o tua 50% mewn achosion positif Covid-19 wedi eu cadarnhau mewn ysbytai dros y 10 diwrnod diwethaf.
Ychwanegodd ei bod yn "amser i wneud gwir ymdrech i wneud popeth y gallwn i arafu lledaeniad y feirws" gan annog pob oedolyn cymwys i gael eu trydydd brechlyn.
Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget wrth 大象传媒 Cymru brynhawn Mawrth fod lefelau absenoldeb staff yn amrywio o 8.5% i 15% ar draws byrddau iechyd Cymru.
Ychwanegodd y bydd byrddau iechyd yn addasu eu gwasanaethau er mwyn canolbwyntio ar y blaenoriaethau mwyaf brys.
Dywedodd Ms Paget mai diffyg argaeledd staff yw'r "prif bryder ar hyn o bryd" ond bod byrddau iechyd yn "addasu cystal ag y gallan nhw".
"Rwy'n credu y bydd absenoldeb staff yn golygu bod yn rhaid i fyrddau iechyd addasu ac oedi rhai o'u gwasanaethau. Maen nhw wedi gwneud hynny eisoes, a byddant yn parhau i wneud hynny," meddai.
"Y peth pwysicaf y byddwn yn ei wneud yw sicrhau y bydd pobl sydd angen gofal brys ac argyfwng neu ofal critigol yn parhau i'w gael."
Gyda'r nifer o bobl yn yr ysbyty gyda Covid yn codi, dywedodd Ms Paget fod ysbytai yng Nghymru yn gweld "nifer sylweddol o gleifion" yn cyrraedd am resymau heblaw Covid, heb wybod bod ganddyn nhw'r feirws hefyd.
Er efallai na fydd y cleifion hynny yn ddifrifol wael gyda'r feirws, mae eu presenoldeb yn yr ysbyty yn dal i ychwanegu at y pwysau," meddai.
Ond dywedodd Ms Paget fod y data sy'n dod o Lundain, ble mae'n ymddangos bod y sefyllfa'n gwella, yn "llygedyn" o obaith ac yn rheswm dros fod yn obeithiol.
"Byddwn yn cynllunio ar gyfer y gwaethaf ac yn gobeithio am y gorau," meddai.
Covid yn effeithio 10% o staff ambiwlans
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar hyd Cymru'n cael eu heffeithio gan lefelau staffio is oherwydd lledaeniad y feirws.
Mae 346 o weithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Ambiwlans yn absennol o'r gwaith oherwydd Covid, meddai'r cyfarwyddwr gweithredol Lee Brooks.
Mae hynny'n 10% o'r gweithlu, a dywedodd Mr Brooks bod y nifer wedi bod yn "cynyddu'n gyson" yn ddiweddar.
Ar 么l ychwanegu absenoldebau arferol, dywedodd bod tua 16% o staff i ffwrdd o'r gwaith ar hyn o bryd.
Mae awdurdodau lleol Sir G芒r, Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot a Phenfro ymhlith y rhai sy'n dweud eu bod yn "disgwyl i lefelau staffio effeithio ar wasanaethau" dros yr wythnosau nesaf.
Mae gan Cyngor Sir Powys "lefel uwch na'r arfer o staff i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch" ond nid yw gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu heffeithio ar hyn o bryd, yn 么l yr awdurdod lleol.
Yn 么l Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, mae darparu gwasanaeth yn "heriol" oherwydd absenoldebau staff.
Dywedodd y Prif Swyddog T芒n Cynorthwyol, Richard Fairhead: "O ganlyniad i don ddiweddaraf Covid, ry'n ni fel ein GIG, awdurdod lleol a phartneriaid brys yn ei chael hi'n fwy heriol i ddarparu gwasanaethau oherwydd cynnydd mewn absenoldebau staff oherwydd y feirws.
"Mae'r sefyllfa wedi gwella rhywfaint o'i gymharu ag wythnos diwethaf pan oedd tua 12% o'n staff yn absennol oherwydd Covid - mae hynny'n 10% bellach.
"Ond, ry'n ni'n ymwybodol iawn bod cyfradd achosion yn uchel ac ry'n ni'n parhau i baratoi ar gyfer absenoldebau a chydweithio gyda'n gorsafoedd t芒n i gynnal criwiau."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth T芒n ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu bod wedi cael "clystyrau bach o achosion positif o'r feirws ar draws eu gwasanaethau", ond nad yw hyn wedi effeithio ar eu gwasanaeth i'r cyhoedd.
Yn 么l cwmni bysiau Stagecoach De Cymru, mae lefelau staffio is yn golygu efallai y bydd yn rhaid cwtogi ar wasanaethau.
Dywedodd llefarydd: "Fel gyda gweithredwyr trafnidiaeth eraill a sawl sefydliad arall, ry'n ni'n gweld effaith barhaol ar ein lefelau staffio oherwydd y pandemig.
"Mae ein timau'n gweithio'n galed iawn i barhau gyda'n gwasanaethau i gwsmeriaid," ychwanegodd.
"Ond, oherwydd cynnydd yn nifer ein gweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y feirws, mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu rhedeg pob gwasanaeth fel ry'n ni wedi cynllunio ac efallai bydd rhai newidiadau i wasanaethau".
Dywedodd y llefarydd y bydd unrhyw newidiadau'n cael eu diweddaru cyn gynted 芒 phosib.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2021