大象传媒

'Angen arian a llacio cyfyngiadau Covid i achub lletygarwch'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Stryd WomanbyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn llawer tawelach na nos Wener arferol ar Nos Galan

Mae corff sy'n cynrychioli'r sector lletygarwch wedi rhybuddio y bydd busnesau'n cau yng Nghymru heb ragor o gefnogaeth ariannol a llacio ar gyfyngiadau Covid.

Yn 么l UKHospitality Cymru roedd y Nadolig yn "fflop yn ein tafarndai, bwytai, gwestai a lletygarwch yn ehangach".

Dywedodd y corff yr wythnos ddiwethaf fod tafarndai a bwytai ar draws Cymru ar drothwy'r "cyfnod mwyaf peryglus" ers dechrau'r pandemig o ran ymdrechu i sicrhau eu dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod y mesurau presennol "yn cael effaith ar fusnesau", gan ychwanegu fod cronfa gwerth 拢120m ar gael i helpu'r sector.

'Grant yn llai na noson brysur'

"Mae Nadolig a Blwyddyn Newydd trychinebus dan y cyfyngiadau diweddaraf wedi gadael nifer yn wynebu sefyllfa ariannol enbyd, gyda grantiau yn llawer rhy fach o'i gymharu 芒'r hyn sydd ei angen," meddai cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru, David Chapman.

"Yn benodol, mae ceisio cadw staff yn anghynaladwy gyda'r lefel bresennol o gefnogaeth gan y llywodraeth.

"Mae clybiau nos Cymru ynghau ond mae disgwyl iddynt gadw rota lawn o ran staff, efallai am hyd at ddeufis, gyda grant sydd yn llai o arian na'r hyn fyddai'n cael ei wneud ar noson brysur."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwech o bobl sy'n cael eistedd o amgylch bwrdd mewn tafarn neu fwyty ers 26 Rhagfyr

Ers 26 Rhagfyr mae clybiau nos wedi bod ynghau yng Nghymru, ac mae'r 'rheol chwe pherson' wedi dychwelyd mewn llefydd fel tafarndai a bwytai.

Mae mesurau ychwanegol mewn lle ar gyfer tafarndai a bwytai hefyd, fel gwasanaeth bwrdd, mygydau, a chasglu manylion cyswllt.

Yn 么l Mr Chapman roedd y sector lletygarwch eisoes yn dioddef heb y cyfyngiadau a ddaeth i rym yng Nghymru ar Ddydd San Steffan.

Dywedodd fod busnesau yn Lloegr yn dweud eu bod wedi gwneud 25% yn llai o arian dros y Nadolig o'i gymharu 芒'r arfer, a hynny heb unrhyw gyfyngiadau mewn lle.

"Heb gefnogaeth ariannol ar frys bydd canlyniadau masnachol difrifol yn anorfod, fydd yn ergyd enfawr i gymunedau ledled Cymru," meddai.

Cyfraddau uchaf erioed

Mae cyfraddau Covid Cymru ar ei lefel uchaf erioed ar hyn o bryd yn sgil amrywiolyn Omicron.

Yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fe gofnodwyd 22,317 o achosion newydd o fewn 48 awr, ac mae dros 50% o'r holl brofion PCR sy'n cael eu gwneud yma ar hyn o bryd yn rhai positif.

Daw rhybudd UKHospitality Cymru ddyddiau'n unig wedi i berchennog bar ddweud fod yn rhaid i grantiau gael eu talu "llawer yn gyflymach" nag yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhesi o fyrddau a chadeiriau gwag tu allan i fariau Caerdydd ar Nos Galan

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa gwerth 拢120m ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau diweddaraf.

Bydd modd ymgeisio am y grantiau gwerth rhwng 拢2,500 a 拢25,000 dros gyfnod o bythefnos o 17 Ionawr.

Fe fydd maint y grant yn dibynnu ar faint y busnes a'r nifer o weithwyr, ond fe all ymgeiswyr wirio ar-lein a ydyn nhw'n gymwys am grant.

Bydd cynllun ar wah芒n gan awdurdodau lleol yn cynnig taliadau o 拢2,000, 拢4,000, neu 拢6,000 i fusnesau, ar sail eu gwerth trethiannol.

Cydnabod effaith ar fusnesau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "O ganlyniad i'r amrywiolyn Omicron sy'n lledaenu'n gyflym, mae Cymru ar lefel rhybudd dau ar hyn o bryd.

"Mae hyn yn golygu bod mwyafrif y busnesau ar agor ar hyn o bryd ac yn gallu masnachu, ond rydym yn gwerthfawrogi fod y mesurau sydd ar waith i amddiffyn y cyhoedd a staff yn cael effaith ar fusnesau."

Ychwanegodd: "Mae'r cabinet yn adolygu'r sefyllfa yn wythnosol a bydd yn parhau i ystyried a oes angen cyllid cymorth busnes brys ychwanegol."