大象传媒

Ateb y Galw: Hana Medi

  • Cyhoeddwyd
Hana'n cyflwynoFfynhonnell y llun, Hana Medi

Y gyflwynwraig ac ymchwilydd teledu Hana Medi sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Catrin Jones yr wythnos ddiwethaf.

Yn wreiddiol o bentref Drefach, Felindre, mae hi nawr yn gweithio fel cyflwynwraig ac ymchwilydd i gwmni Teledu Tinopolis yn Llanelli.

Mae Hana yn cyflwyno rhaglen Prynhawn Da a Ralio ac wedi bod yn gweithio ar nifer o gynyrchiadau fel ymchwilydd, yn cynnwys Heno, Prynhawn Da, Pawb a'i Farn, Dathlu Dewrder, Oci Oci Oci a G锚m Gartre.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Tan o'n i'n 17 mlwydd oed, roedd Dad yn rhedeg garej ceir ac yn gwneud tipyn o ralio ceir ei hun.

Roedd o wastad yn paratoi ceir pobl arall felly fe ges i'n magu ynghanol y byd moduro. Mi oedd ein t欧 ni yn llythrennol ar iard y garej, felly rwy'n cofio yn ifanc iawn cael fy neffro gan s诺n ceir yn rhuo ac yna bod ynghanol yr olew a'r petrol yn fy overalls yn helpu. Wrth fy modd!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson/bore i ddweud y gwir!

Yn 2016 fe fues i'n lwcus i deithio i Bali gyda dwy ffrind arall, i gwrdd 芒 dwy arall o'n ffrindie oedd yn teithio'r byd ar y pryd. Ar un noson, fe adawon ni'r gwesty lle o'n ni'n aros yn hwyr iawn yn y nos/bore cynnar er mwyn cerdded i fyny Mynydd Batur ar gyfer y wawr!

Ffynhonnell y llun, Hana Medi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hana a'i ffrindiau yn Bali

'Oedd hi'n daith sawl awr i fyny heb fawr o gwsg yn y tywyllwch ond yn brofiad bythgofiadwy wrth i ni weld yr haul yn codi gyda'n gilydd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Perffeithydd, penderfynol a gonest.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn 么l?

Fe fues i'n lwcus iawn i fod yn rhan o enedigaeth fy ail nith, Mia yn 2019.

O'n i'n teimlo braint cael bod yno i weld hi'n cyrraedd y byd ac mi oedd hi'n brofiad arallfydol 'na i fyth anghofio. Roedd gweld Efa ei chwaer fawr yn cwrdd 芒 hi am y tro cynta' mor mor sbeshal!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ym mlynyddoedd ola' yn yr Ysgol Uwchradd yn Ysgol Dyffryn Teifi, fe wnes i benderfynu mod i'n mynd i gymryd rhan yng Ngwobr Aur Dug Caeredin.

Un o'r prif bethau sy'n rhaid i chi wneud ar gyfer cwblhau'r wobr yw mynd ar daith gerdded pedwar neu pum diwrnod. Fe benderfynes i, yn dwp iawn, mod i'n mynd i fynd i barti pen-blwydd noson cyn y daith, a joio bach gormod!!

Y bore canlynol, mi oedd rhaid i'r bws mini aros i fi tra bo fi'n chwydu cyn gadael, fe lwyddais i gerdded un diwrnod o'r daith cyn ffonio Mam i gasglu fi, 'oedd yr hangover yn ormod!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw traeth Penbryn, yn enwedig pan does 'na ddim gwyliau!

Ffynhonnell y llun, Hana Medi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Penbryn

Mae mor dawel a llonydd, mae bron yn teimlo fel lle cyfrinachol gan bod 'na daith gerdded hir i'r gwaelod i gyrraedd y traeth, a phan does 'na ddim lot o bobl yno, mae'n le arbennig iawn i glirio'r meddwl ac i fynd am w芒c.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Ym mhriodas fy ffrindiau Catrin ac Osian ym mis Rhagfyr, fe wnes i gr茂o sawl gwaith ond un foment yn arbennig wrth i Catrin gerdded at Osian i g芒n White Christmas! Ro'dd hi'n ddiwrnod arbennig iawn.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi a phigo fy ewinedd yn ofnadwy! Dwi'n trial popeth i beidio, ond dwi methu helpu fy hun!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Un adduned blwyddyn newydd sy' gyda fi yw darllen mwy o lyfrau, dwi'n treulio gormod o amser ar y ff么n! Ond os oedd rhaid fi ddewis un llyfr, Naw Mis gan Caryl Lewis yw hi. Fe ddarllenes i hi blynydde n么l ac mae dal yn aros yn y cof.

O ran ffilm, dwi ddim yn berson ffilm, ddim llawer o amynedd i eistedd yn llonydd i wylio, ond dwi'n caru ffilmiau Harry Potter, mae'r Goblet of Fire yn ffefryn.

Mae podlediadau wedi dod yn rhan bwysig o'm mywyd, fi'n treulio dwy awr yn y car bob dydd yn teithio i'r gwaith a n么l. Mae un penodol - The Law of Attraction Changed My Life. Mae'n s么n am ein ffordd ni o feddwl, i fod yn bositif ac yn ddiolchgar am beth sy' gyda ni mewn bywyd, dwi'n edrych 'mlaen at bennod newydd bob ddydd Gwener.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Ffynhonnell y llun, Hana Medi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hana ac Elfyn mewn car ralio

Gyrrwr Rali'r Byd - Elfyn Evans, i brofi gwefr ac adrenaline y cyflymder ac i weld cymaint o sgil mae'n cymryd i yrru car rali yn gyflym a chywir ar lefel ucha'r byd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Michelle Obama. Mae'n berson ysbrydoledig a fydden i'n dwli siarad gyda hi i weld beth oedd hi fel i fod yn First Lady a byw yn y T欧 Gwyn.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Er mod i wedi fy ngeni ynghanol y petrol a'r enjins, ac yn cyflwyno rhaglen Ralio - wnes i basio fy mhrawf gyrru ar y bedwaredd tro!!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Fe fydden i'n mynd am dro i draeth Penbryn yn y bore a chael brecwast ar y traeth cyn mynd i'r m么r i nofio.

Wedyn fydden i'n mynd a fy nwy nith fach i'r parc yn y pentref i chwarae ac yna i orffen y diwrnod, fydden i'n gwahodd fy ffrindiau agos a theulu am swper a chael cogydd i goginio fy hoff bryd bwyd sef madarch mewn saws garlleg i ddechrau, stecen filet, tato dauphinoise, pys a saws gwin coch fel prif gwrs ac yna pwdin o darten lemwn gyda mafon a hufen.

I yfed, gwin coch a'n hoff cocktail - Pornstar Martini. Ac yna parti mawr gyda'n hoff gerddoriaeth i'n chwarae!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ffynhonnell y llun, Hana Medi

Mae pob llun ohono fi gyda fy ddwy nith fach, Efa a Mia, yn werth y byd i gyd felly dyma'r llun diweddara' - Diwrnod 'Dolig 2021.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Huw Edwards

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw