大象传媒

Llafur: Johnson 'ddim yn ffit' i fod yn Brif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed tystion fod Boris Johnson yn bresennol yn y parti "dewch 芒'ch diodydd eich hun"

Mae Prif Weinidog y DU yn wynebu galwadau i ymddiswyddo ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod hyd at 100 o bobl wedi'u gwahodd i barti yng ngardd Downing Street yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Mae tystion wedi dweud wrth y 大象传媒 bod Boris Johnson a'i wraig ymhlith tua 30 o bobl a fynychodd y cyfarfod ar 20 Mai 2020.

Ond mae Mr Johnson wedi gwrthod dweud a oedd ymhlith y rhai oedd yno.

Dywedodd Heddlu'r Metropolitan eu bod mewn cysylltiad 芒'r llywodraeth "yn ymwneud 芒 thoriadau honedig" o reolau Covid.

Fore Mawrth, dywedodd Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, nad yw Mr Johnson "yn ffit" i fod yn Brif Weinidog.

'Cywilyddus'

"Dwi ddim yn gallu credu bod nhw wedi gwahodd 100 o bobl i'r ardd pan oedden ni i gyd yn ein gerddi ein hunain a methu cael cymdogion draw," meddai'r AS Llafur ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.

"Pan 'dych chi'n gweld gwahoddiad i gymaint i un ardd a ni ddim yn cael, mae'n anghredadwy. A bod yn onest mae'n gywilyddus.

"Fe ddylai'r llywodraeth ac unrhyw un sy'n gallu deall y sefyllfa fynd. Dyw [Boris Johnson] ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog.

"Mater i ASau Ceidwadol [yw hynny] gan mai nhw sy'n gallu newid eu harweinydd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau lygad dyst wedi dweud wrth y 大象传媒 fod Boris Johnson a'i wraig Carrie yn bresennol yn y parti

Ddydd Llun, gwrthododd Downing Street 芒 gwneud sylw gan ddweud bod y mater bellach yn rhan o ymchwiliad annibynnol parhaus gan yr uwch was sifil Sue Gray.

Yr un oedd y neges gan Mr Johnson ei hun pan holwyd yntau ar ymweliad i ganolfan frechu - fod y cyfan, meddai, "yn destun ymchwiliad iawn" gan Ms Gray.

Mewn cyfarfod briffio gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth, fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan mai mis Mai 2020 oedd y "cyfnod mwyaf llym yn ystod y pandemig".

"Dwi'n meddwl am yr hyn y gwnaeth cymaint o bobl Cymru ei aberthu bryd hynny," meddai.

"Mae ystyried hynny ochr yn ochr 芒 sefyllfa lle mae parti yn cael ei gynnal yn Downing Street yn wirioneddol anghredadwy.

"Mae gen i ofn ein bod wedi gweld eto, bod y Prif Weinidog wedi methu rhoi atebion clir i gwestiynau syml."

'Dilyn ei reolau ei hun'

Fe ychwanegodd Ms Morgan fod y mater yn tanseilio awdurdod Mr Johnson.

Mae'n bosib, meddai, nad ydy Mr Johnson yn dilyn y math o gyngor sydd wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran cyfyngiadau newydd, gan fod pobl "yn amlwg yn debygol o fod yn llai parod i ddilyn yr esiampl sydd wedi ei gosod gan Brif Weinidog sydd yn syml ddim yn dilyn ei reolau ei hun".

Mae 'na feirniadaeth llym eisoes wedi bod yngl欧n 芒 chyhuddiadau o bart茂on eraill ymysg staff Llywodraeth y DU.

Fe alwodd Ll欧r Gruffydd, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, ar i Mr Johnson ymddiswyddo.

"Mae'n gywilyddus yn tydi," meddai ar 大象传媒 Radio Wales Breakfast. "I bwynt lle - ydyn ni'n synnu mwyach gan y mathau hyn o achosion?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Boris Johnson a'i brif ysgrifennydd preifat, Martin Reynolds, a anfonodd y gwahoddiad i'r parti

"Ar adeg y clo dyfnaf lle nad oedden ni ond yn cael cyfarfod ag un person yn yr awyr agored, roedd Downing Street yn gwahodd 100 o bobl i un parti yn yr awyr agored. Allech chi ddim ei wneud i fyny.

"Rwy'n cofio Aelod Seneddol Tor茂aidd blaenllaw yn dweud cyn y Nadolig fod Boris wedi cael dwy streic, ac un arall ac mae e allan. Wel dyma hwnna. Mae wedi gorffen.

"Allwch chi ddim mynd ymlaen i anwybyddu'r cyfreithiau rydych chi'n eu gwneud. Mae'n hollol wirion. Mae'n rhaid iddo ymddiswyddo."

'Digon yw digon'

Mae Leanne Lewis, a oedd yn gweithio fel nyrs yn ystod y pandemig, wedi dioddef o Covid hir ers 15 mis.

Dywedodd wrth 大象传媒 Radio Wales Breakfast mai "digon yw digon - mae'n rhaid iddo fynd".

"Faint yn fwy y mae'n rhaid inni ei gymryd cyn i'r llywodraeth hon gael ei dwyn i gyfrif?"

Ar y diwrnod dan sylw ym mis Mai 2020, dywedodd ei bod wedi cael shifft "ofnadwy".

"Roedd gennym ni gleifion mor wael ac roedd perthnasau yn ffonio oherwydd allen nhw ddim dod i mewn i eistedd gyda'u hanwyliaid," meddai.

"[Ar yr un pryd], maen nhw'n dweud fod y Prif Weinidog - gyda channoedd o'i gydweithwyr - mewn parti 'dewch 芒'ch diod eich hun'. Does dim geiriau. Dwi mor grac."