Ffilm yn adrodd brwydr i achub theatr y Lyric yn Sir G芒r

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o actorion blaenllaw o Gymru ymhlith cast y ffilm
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Fe fydd ffilm newydd am frwydr menyw o Gaerfyrddin i ddiogelu dyfodol theatr a sinema'r dref yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar sianeli Sky - ac yn y theatr y gwnaeth hi ei hachub.

Yn ystod y 1980au a'r 90au cynnar, roedd Liz Evans yn benderfynol o sicrhau cartref a chyfleusterau gwell i'w gr诺p, Opera Ieuenctid Caerfyrddin.

Llwyddodd i argyhoeddi perchennog theatr y Lyric ar y pryd i ganiat谩u iddi gynnal sioe yn yr adeilad, ac yn ystod y blynyddoedd wedyn fe drawsnewidiwyd yr adeilad gyda chymorth miliynau o bunnoedd mewn grantiau.

Mae'r hanes wedi ei ddramateiddio ar gyfer y sgrin fawr gan Sky, gyda Samantha Morton yn chwarae rhan Ms Evans.

Yn y ffilm, mae yna fygythiad y bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel i greu siopau newydd. Daw cynllun i ddangos y ffilm Jurassic Park fel ffordd o "achub y sinema".

Mae nifer o actorion blaenllaw o Gymru yn cymryd rhan yn y ffilm, yn eu plith mae Jonathan Pryce, Erin Richards, Owain Yeoman a Rhod Gilbert.

'Premiere' Spielberg yng Nghaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Y diweddar Liz Evans "oedd yr ysbrydoliaeth i adfer y Lyric," meddai'r Cynghorydd Alun Lenny

Yn 么l y Cynghorydd Alun Lenny, oedd yn ohebydd newyddion ar y pryd, doedd yna ddim bygythiad y byddai'r adeilad yn cael ei ddinistrio, ond mae'n cofio dycnwch Ms Evans wrth frwydro i sicrhau dyfodol y Lyric.

"Dwi ddim yn credu bod yna gynllun wedi bod i ddymchwel y Lyric erioed... mae'n adeilad cofrestredig", meddai.

"Fe fuodd e ar gau am ryw flwyddyn neu ddwy ac yna fe aeth Liz a Dai Evans, gyda chymorth Cwmni Opera Ieuenctid Caerfyrddin, ati i lanhau'r lle lan ac i'w ailagor e.

Ffynhonnell y llun, Save the Cinema - Sky Original

Disgrifiad o'r llun, Jonathan Pryce a Samantha Morton yn y ffilm 'Save the Cinema'

"Roedd Liz yn gymeriad cryf iawn ac yn cael pethau wedi eu gwneud ac roedd hi'n ysbrydoli pobl, yn enwedig oherwydd ei diddordeb ysol hi mewn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc i ganu. Mae dau o'i phlant hi wrth gwrs, Wynne a Mark, yn gantorion opera o fri.

"Liz oedd yr ysbrydoliaeth i adfer y Lyric. Roedd e'n dipyn o fleapit chi'n gwybod!"

'Digwyddiad anhygoel'

Yn 1993, fe ddaeth hi'n amlwg na fyddai sinema'r Lyric yn cael copi o'r ffilm newydd sbon Jurassic Park. Aeth Ms Evans at Faer y Dref, Richard Goodridge, a phwyso arno i ysgrifennu at y cyfarwyddwr, Steven Spielberg.

Mewn byr o dro, fe aeth neges ffacs at gwmni Spielberg, a daeth yr ateb yn 么l y byddai Caerfyrddin yn cael copi o'r ffilm ar gyfer cynnal premiere o Jurassic Park.

Disgrifiad o'r llun, Un oedd yno ar gyfer dangos Jurassic Park yn y Lyric oedd Ioan Dyer

Roedd Ioan Dyer yn gweithio fel gwirfoddolwr yn y Lyric ac mae'n cofio'r noson yn glir.

"Roedd tocynnau wedi mynd mewn chwinciad i fod yn onest. Wna'i fyth anghofio'r bobl yn aros tu fas y Lyric ar y noson. Dwi'n cofio criwiau teledu newyddion yn dod yma.

"Dyma'r tro cyntaf i'r Lyric gael ffilm ar y noson agoriadol. Roedd e'n ddigwyddiad anhygoel am nifer o resymau."

Buodd Mr Dyer yn gwirfoddoli yn y Lyric am tua 20 mlynedd, a dywed na fyddai'r theatr yn "dal i fodoli heb Liz Evans".

Ffynhonnell y llun, Save the Cinema - Sky Original

Disgrifiad o'r llun, Dywed cyfarwyddwr y ffilm ei bod yn teimlo'n "freintiedig iawn" i gael dweud hanes Ms Evans

Yn 么l y canwr Wynne Evans, un o feibion Ms Evans, mae ganddo "deimladau cymysg" am y cyfnod pan oedd ei fam yn weithgar yn y Lyric am ei bod hi mor brysur ym merw'r frwydr.

"Pan oedd fy rhieni yn rhedeg y Lyric, doedd dim arian o'r awdurdod lleol. Roedd y sinema yn talu am y theatr byw. Dyna pam roedd Jurassic Park mor bwysig er mwyn talu am y theatr byw."

Cafodd Save the Cinema ei ffilmio llynedd pan oedd cyfyngiadau Covid llym mewn grym.

Yn 么l y cyngor lleol, fe wnaeth y ffilmio gyfrannu 拢750,000 at yr economi leol, wrth i'r criw ffilmio yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, Talacharn a Llandeilo.

Yn 么l cyfarwyddwr y ffilm Sara Sugarman, sydd yn wreiddiol o'r Rhyl, roedd hi'n fraint i gael adrodd hanes y diweddar Liz Evans.

"Fe wnes i'r ffilm gydag ymdeimlad o hiraeth yn fy nghalon, ac rwy'n freintiedig iawn fy mod i yn cael dweud stori Liz. Roedd hi'n arwres ac rwy'n falch iawn fy mod i yn gallu adrodd yr hanes."

Mae'r ffilm yn cael ei dangos ar Sky Cinema o ddydd Gwener, ac yn theatr y Lyric am bythefnos. Mae modd archebu tocynnau trwy wefan Theatrau Sir G芒r.