Atgofion Wynne Evans am ymdrechion ei fam i achub theatr Y Lyric
- Cyhoeddwyd
Nos Iau, 15 Gorffennaf 1993, roedd gohebwyr a ffotograffwyr papurau newydd Prydain wedi heidio i Leicester Square yn Llundain ac i Heol y Brenin yng Nghaerfyrddin.
Y rheswm am hynny oedd mai dyma'r unig ddau le, ble oedd modd gwylio ffilm ddiweddara'r cyfarwyddwr, Steven Spielberg, Jurassic Park am y tro cyntaf.
Mam y cyflwynydd Wynne Evans - Liz Evans - a Maer Caerfyrddin, Richard Goodridge, oedd yn bennaf gyfrifol am ymgyrchu a sicrhau fod ffilm lwyddodd i gipio tair gwobr yn yr Oscars yn cael ei dangos yn theatr y Lyric yn y dref.
Yn y blynyddoedd cyn hynny roedd y Lyric yn "disgyn yn ddarnau" yn 么l yr adolygydd ffilm, sy'n wreiddiol o Lambed, Gary Slaymaker.
Ond, diolch i ddyfalbarhad arweinydd Gr诺p Opera Ieuenctid Caerfyrddin, Liz Evans, mae drysau'r Lyric yn parhau ar agor hyd heddiw. Dyma hanes sut gwnaeth ymdrechion i gael ffilm am ddinosoriaid achub sinema rhag diflannu.
"I mi yn byw a thyfu lan yn Llambed, roedd dewis gen i o ran sinem芒u, unai mynd i'r Commodore yn Aberystwyth neu'r Lyric yng Nghaerfyrddin," meddai Gary Slaymaker.
"Dwi'n cofio roedd 'na griw ohonom ni yn mynd ar y Crossville lawr i'r hen Lyric yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn a chofio cymaint o flea pit oedd hi, roedd hi bach o tip i fod yn onest.
"Un tro tra'n gwylio ffilm Viva Kneivell ac yn eistedd ar y balconi a dwi'n cofio'n glir, gweld llygoden ffyrnig yn rhedeg ar hyd y balconi ble oedden ni'n eistedd.
"Felly mae hi'n deg dweud fod y 'sgrifen ar y mur bryd hynny o ran y Lyric, doedd dim llawer o si芒p arni."
Gyda'r adeilad yn pydru a chynlluniau i'w ddymchwel, pam fod Liz Evans wedi mynd i'r fath drafferth i geisio achub y sinema?
Roedd Ms Evans yn berson hynod o weithgar yn ei chymuned, yn arwain gr诺p opera ieuenctid yn lleol ac yn gweithio mewn salon yn trin gwalltiau.
Roedd tref Caerfyrddin yn bwysig iddi hi, ac i ddweud ffarwel wrth y Lyric, fe waeth Liz berswadio perchennog y Lyric i adael iddi i lwyfannu cynhyrchiad o Jesus Christ Superstar yno am y tro olaf.
Mae ei mab Wynne yn cofio helpu i lanhau'r theatr ac i adnewyddu ambell i sedd er mwyn gwneud y lle i edrych yn l芒n cyn y perfformiad olaf.
"Dyna pryd sylweddolodd fy mam fod potensial i'r lle ac adnodd mor bwysig oedd y theatr i'r ardal leol," medd Wynne Evans.
Mae'r gweddill yn hanes, i'r pwynt ble mae ffilm yn cael ei rhyddhau heddiw yn y sinem芒u ac ar Sky, Save The Cinema, sy'n cynnwys actorion fel Jonathan Pryce, Samantha Morton a Tom Felton.
Mae'r ffilm yn dogfennu ymdrech arwrol Liz Evans i berswadio perchennog y Lyric i gadw'r lle'n agored a sicrhau miloedd o grantiau i adnewyddu'r adeilad rhag cael ei ddymchwel.
Roedd y syniad o ysgrifennu llythyr at Steven Spielberg yn gofyn caniat芒d i ddangos Jurassic Park yno ym 1993 yn "drobwynt pwysig" yn hanes y Lyric, medd Wynne Evans.
Yn 么l Gary Slaymaker, roedd gallu perswadio cyfarwyddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes sinema ar ddechrau'r 90au i ddangos ffilm yng Nghaerfyrddin yn beth mawr iawn.
"Ar ddechrau'r 90au Spielberg oedd y cyfarwyddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes sinema," meddai. "Roedd popeth oedd e'n gwneud yn troi'n aur.
"Ro'n i'n gyfarwydd 芒 Jurassic Park achos roeddwn wedi darllen y llyfr gan Michael Crichton, a meddwl wedyn 'nawn nhw byth ffilm o hon, dyw'r dechnoleg ddim yn bodoli.
"Ond ar 么l clywed mai Spielberg oedd yn mynd i gyfarwyddo, roedd 'na gyffro.
"Ar 么l gweld y trailer, roeddet ti'n gwybod fod hi am fod yn ffilm sbesial, a ma' hi'n saff dweud mai yn 1993, Jurassic Park oedd y ffilm oedd pawb eisiau ei gweld."
Ar 么l dangos y ffilm roedd 'na drobwynt amlwg a brwdfrydedd yn lleol i gadw'r Lyric yn agored, gyda chynlluniau i lwyfannu cynyrchiadau newydd a gwahodd perfformwyr yno, gyda Liz Evans ar flaen y gad gyda'i hymdrechion.
Person arbennig
Mewn amser daeth grantiau ar gael ac roedd y Lyric ychydig mwy sefydlog, gyda dyfodol ychydig mwy disglair na'r hyn oedd yn wynebu'r lle ar ddiwedd yr 1980au.
"Roedd dangos y ffilm yno yn hynod o bwysig, cofiwch doedd y theatr ar y pryd yn derbyn dim arian na grantiau gan y cyngor lleol, felly fe allwch chi ddychmygu'r holl sylw gafodd y theatr yn sgil dangos ffilm Jurassic Park yno, ar yr un noson 芒'r 辫谤别尘颈猫谤e swyddogol yn Llundain.
"Roedd hi'n gyfnod anhygoel. Roedd mam yn berson arbennig oedd byth yn cymryd 'na' fel ateb.
"Roedd hi'n fenyw oedd o flaen ei hamser mewn ffordd. Rydyn ni'n s么n am gyfnod ble roedd Prydain wedi gweld merched dylanwadol yn arwain fel Margaret Thatcher, doedd dim llawer yn bodoli ar y pryd.
"Ond roedd Mam yn un o'r menywod cryf hynny, ar 么l perfformiad Jurassic Park daeth cyfnod o weithio'n galed i lwyfannu pethau'n gyson i sicrhau fod y theatr a'r sinema yn cael ei ddefnyddio."
Bu farw Liz Evans yn 2004 ac mae Wynne Evans yn hynod o falch fod y cyfnod ar ddechrau'r 90au yn cael ei ddogfennu ar ffurf ffilm.
Mae Wynne ei hun yn ymddangos yn y ffilm gafodd ei ffilmio yn Sir Gaerfyrddin y llynedd, profiad meddai oedd yn "gyfle hyfryd i dreulio amser ar y set."
"Mae'n amlwg fod Jurassic Park wedi cael dylanwad enfawr yng Nghaerfyrddin," meddai. "Mae 'na sinema fawr arall wedi agor yn y dref yn y degawd diwethaf ond mae'r Lyric yn dal i fynd o nerth i nerth.
"Mae 'na rywbeth braf am gael sinema fach drefol. Dwi'n gweld eisiau mwy o sinem芒u bach ar brydiau. Ydi mae hi'n braf cael mynd i'r multiplexes mawr yma ond mae 'na deimlad o agosatrwydd ar gael yn y sinem芒u traddodiadol mewn tref neu ddinas ac mae'r Lyric yn cyfleu'r teimlad yna'n berffaith."
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022