大象传媒

'Rhoi'r gwres ymlaen am awr pan mae'r wyrion yn dod'

  • Cyhoeddwyd
medrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif bod traean o deuluoedd Cymru yn cwtogi ar eu defnydd o ynni tra bod eraill yn bwyta llai o fwyd yn sgil costau byw uwch.

Dywed ymgyrchwyr eu bod yn poeni y bydd safonau byw ac iechyd nifer yn gostwng.

Mae'r elusen yn credu y bydd effaith Covid yn achosi i 40,000 o aelwydydd wynebu tlodi.

"Roedd yna chwarter o deuluoedd Cymru yn byw mewn tlodi cyn y pandemig," medd Dr Steffan Evans, pennaeth polisi Sefydliad Bevan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Judith Criddle yn siopa unwaith yr wythnos mewn siop fwyd sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned leol

Dywed Judith Criddle, sy'n fam-gu, ei bod yn anodd iddi gael dau ben llinyn ynghyd ac mae hi ond yn defnyddio gwres pan mae ei hwyrion yn ymweld er bod hi'n dywydd oer.

Ond hyd yn oed yr adeg honno mae Judith ond yn gallu fforddio rhoi'r gwres ymlaen am ryw awr ac mae'n gorchuddio eu hwyrion 芒 blanced ac yn rhoi poteli d诺r twym iddyn nhw.

"Iddyn nhw noson ffilm yw eistedd ar y soffa mewn blancedi ond i fi mae'n ffordd o arbed pres," medd Ms Criddle sy'n 51 oed.

Mae costau byw yn cynyddu'n gynt ar hyn o bryd nag ar unrhyw adeg yn ystod y ddegawd ddiwethaf ac mae un melin drafod yn rhybuddio y gallai teuluoedd fod yn gorfod talu hyd at 拢1,200 y flwyddyn yn fwy tuag at gostau byw wrth i filiau ynni a bwyd gynyddu.

Mae Judith Criddle yn derbyn credyd cynhwysol a dywed ei bod yn ceisio cwtogi ar ynni cymaint ag y gall ond os yw prisiau yn cynyddu ymhellach dywed na fydd hi'n gallu "fforddio byw".

Dywed nad yw hi'n gallu fforddio torri ei gwallt na mynd am ddiod allan gyda'i ffrindiau yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Judith nad yw hi'n gallu fforddio mynd i dorri ei gwallt yn sgil y cynnydd mewn costau byw

Mae un o bob pedwar teulu yng Nghymru yn wynebu tlodi, medd Sefydliad Bevan.

Dywed Ms Criddle ei bod yn poeni am y mis nesaf heb s么n am y flwyddyn nesaf.

Mae Judith yn gwneud ei siopa mewn canolfan fwyd gymunedol sy'n cael ei rhedeg gan elusen leol yng ardal Caerau o'r brifddinas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y siop gymunedol mae modd cael gwerth 拢20 o fwyd am 拢5

Mae'r Pantri Lleol - sy'n helpu teuluoedd yn ardaloedd Trel谩i a Chaerau yn ddibynnol ar roddion o fwyd a chynlluniau bwyd er mwyn cadw'r prisiau'n isel.

Mae'r siopa wythnosol yn costio 拢5 ond mae'r 132 aelod sy'n rhan o'r cynllun yn cael gwerth pedair gwaith gymaint 芒 hynny.

Dywed Alex Withey, sy'n gwirfoddoli yn y Pantri, ei fod ef fel Judith yn cael credyd cynhwysol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Pantri yng Nghaerdydd yn cael ei rhedeg gan elusen leol

"Yn 2022 bydd yn rhaid i bobl ddewis rhwng rhoi'r gwres ymlaen neu gael bwyd," meddai.

"Bob mis dwi'n gorfod meddwl faint i wario ar fwyd a faint ar danwydd. Wrth i brisiau godi bydd yn rhaid i fi wario llai ar fwyd.

"Dyw hynna ddim yn iawn - pobl dlawd sy'n cael eu taro waethaf bob tro."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Alex y bydd yn rhaid iddo dorri yn 么l ar fwyd yn sgil cynnydd mewn prisiau nwy a thrydan

Mae arbenigwyr yn darogan y gall biliau ynni teuluoedd a oedd yn talu 拢850 y llynedd godi i dros 拢1,700.

Mae elusen National Energy Action yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi cefnogaeth ariannol "ystyrlon" i gwsmeriaid bregus.

"Fe allai hynny olygu cynyddu y disgownt cartref cynnes, ymestyn taliadau tanwydd y gaeaf i bobl na sy'n gymwys amdanynt ar hyn o bryd," medd Ben Saltmarsh o'r elusen.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol bod cartrefi yng Nghymru yn wynebu gwasgfa ariannol yn sgil costau byw uwch, a phenderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared o'r 拢20 ychwanegol a roddwyd am gyfnod fel cyfraniad ychwanegol i'r Credyd Cynhwysol.

Dywed y Trysorlys ei fod wedi darparu mwy na 拢4.2bn o gefnogaeth i deuluoedd y flwyddyn - a hynny ar ben cefnogaeth arall at gynnal safonau byw.

"Rydym yn ymwybodol bod pobl yn wynebu pwysau gyda chostau byw - dyna pam ein bod yn gwario biliynau o bunnau i gynnig help," medd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.

"Mae'n cymorth yn cynnwys cynyddu isafswm cyflog a chefnogi cartrefi gyda'u biliau - yn ogystal rydym wedi rhewi pris treth alcohol a thanwydd."