大象传媒

Dydd Santes Dwynwen: Ymweld 芒 ffynhonnau cariad

  • Cyhoeddwyd
CariadonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae sefyll yn ymyl ffynnon yn gallu bod yn brofiad gwefreiddiol oherwydd - yn 么l y gwybodusion - bod ymbelydredd naturiol yn uchel yno a hynny'n rhoi teimlad o iwfforia i rywun.

Does ryfedd felly fod pobl ifanc ers talwm yn heidio at y ffynhonnau ar ddyddiau gwyliau i fwynhau eu hunain, oedd yn cael ei feirniadu gan yr arweinwyr crefyddol.

Mae yna rhai ffynhonnau sy'n nodedig am eu cysylltiad gyda serch a rhamant. Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, Eirlys Gruffydd sy'n edrych ar hen arferion y Cymry o heidio yno i ddarogan eu dyfodol rhamantus.

Mae'n si诺r mai'r mwyaf enwog ohonynt yw Ffynnon Dwynwen yn Llanddwyn, M么n.

Byddai pobl yn dod yno i geisio rhagweld pwy fyddent yn ei briodi. Ers talwm, i gynorthwyo'r cariadon i ddarogan y dyfodol arferai gwraig o Niwbwrch eu cyfarfod wrth y ffynnon.

Roedd pysgod yn nofio yn y ffynnon a rhaid oedd taenu hances ar wyneb y d诺r a gwylio at ba ochr i'r hances y byddai'r pysgod yn nofio.

Aeth merch at y ffynnon i gael gwybod pwy fyddai'n ei briodi. Taenwyd yr hances a daeth y pysgodyn allan i ochr ogleddol y ffynnon. Yna daeth pysgodyn arall allan o'r ochr ddeheuol ac fe gyfarfu'r ddau ar waelod y ffynnon.

Dywedodd y wraig wrth y ferch mai dieithryn o barthau gogleddol Sir Gaernarfon fyddai ei phriod. Yn fuan wedyn daeth tri brawd o'r rhan honno o'r wlad i fyw i'r gymdogaeth lle trigai'r ferch a phriododd ag un ohonynt.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffynnon Dwynwen ar Ynys Llanddwyn yw un o'r ffynhonnau caru mwyaf enwog a phoblogaidd

Ysgrifennodd Ceiriog gerdd i'r ffynnon, sy'n s么n am ddawn y d诺r i wella'r sawl oedd yn glaf o gariad. Dyma ddwy bennill ohoni:

Mi eis i Landdwynwen ar ddiwrnod o h芒f,

Yn isel fy meddwl, o gariad yn gl芒f:

Mi yfais o'r ffynnon, ond trois yn ddi-oed

I garu fy nghariad yn well nag erioed.

Gofynais am gyngor, a d'wedai hen 诺r

Y dylwn ymdrochi yn nghanol y d诺r;

Mi neidiais i'r ffynnon a suddais fel maen,

Ond codais mewn cariad dau fwy nag o'r blaen.

Disgrifiad,

Y diweddar John Owen Huws, ar safle ffynnon Beris, Nant Peris, yn egluro rhai o arferion caru eraill ffynhonnau Cymru.

Roedd Ffynnon Saethon, Llanfihangel Bachellaeth, Gwynedd, yn ffynnon iach谩u a darogan.

Os oedd person eisiau gwybod a oedd y cariad yn ffyddlon byddent yn taflu pin neu bigau drain duon i'r d诺r. Pe byddai'r pin neu'r drain yn arnofio roedd popeth yn dda ond pe suddent roedd amheuaeth a ddeuai unrhyw ddaioni o'r berthynas.

Digwyddai'r un peth yn Ffynnon Arian yn Llanbleddian, ger y Bontfaen, Bro Morgannwg.

Ffordd arall o ddarganfod pwy fyddai'r darpar briod oedd y ddefod a arferid ei dilyn wrth Ffynnon y Wrach ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Maldwyn.

Llyffant Melyn

Rhaid oedd mynd at y ffynnon am hanner nos gan gario llyffant melyn. Wrth adrodd y swyn canlynol byddai naw o binnau yn cael eu gwthio i gorff y creadur anffodus.

Os daw fy nghariad yma'n union,

Caf ei (g)weled yn y ffynnon.

Pan yn rhoi y pin diwaetha

Caf ei (g)weled mi waranta.

Rhagor o ffynhonnau cariad

Yn Ffynnon Caradog ger Hwlffordd, Sir Benfro byddai'n arferiad i ferch fynd at y ffynnon ar fore Llun y Pasg a thaflu tri phin i'r ffynnon.

Wrth edrych i'r d诺r byddai'n gweld wyneb ei darpar briod. Aeth un ferch yno a gweld wyneb hyll, blewog yn edrych arni ac aeth adre wedi dychryn am ei bywyd!

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n dipyn o her i gyrraedd Ffynnon Fair, Aberdaron a mentro i fyny'r grisiau gyda cheg llawn o dd诺r

Defnyddid d诺r o Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron i geisio sicrhau fod dymuniad yn cael ei wireddu. Byddai pobl ifanc yn cerdded i lawr at y ffynnon a chario'r d诺r oddi yno yn eu cegau. Yna, heb golli diferyn na llyncu, rhaid oedd dringo i fyny'r llwybr serth o'r ffynnon a cherdded o amgylch Capel Mair.

O gyflawni'r gamp honno byddai'r person yn cael priodi'r un a garai. Roedd defod debyg iawn yn cael ei dilyn ger Ffynnon Lochwyd, Caergybi, M么n.

Rhaid oedd i'r bobl ifanc fynd i lawr at y ffynnon ger y m么r a chymryd llond cegiad i dd诺r a llond dwy law o'r graean o waelod y ffynnon a dringo'n 么l i fyny i Gapel Golochwyd.

Llw ffyddlondeb

Credid y byddai pwy bynnag a allai gyrraedd y capel heb golli'r graean na'r d诺r a'u taflu ar yr allor yn si诺r o briodi'r un a garent cyn y lleuad lawn nesaf.

Deuai pobl ifanc at Ffynnon Antwn, islaw'r castell yn Llansteffan, ger Caerfyrddin i offrymu pin gan ddymuno y byddai'r sawl roeddent yn eu caru yn cytuno i'w priodi.

Mae Ffynnon Maen Du ar gyrion Aberhonddu ac roedd yn arferiad i ferched oedd yn glaf o gariad i offrymu pinnau yn y ffynnon gan ddymuno i'r sawl a garent eu caru yn 么l.

Yma hefyd y deuai cariadon i offrymu pinnau a thyngu llw o ffyddlondeb i'w gilydd.

Tybed a fydd yna rywrai yn ymweld 芒 ffynhonnau'r cariadon eleni er mwyn gallu darogan y dyfodol? Byddai'n dda clywed a fu'r antur yn llwyddiant - neu beidio!

Pynciau cysylltiedig