Y 'darn jig-so coll' i adfer bywyd gwyllt Cwm Penmachno
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd ar y gweill yng Nghwm Penmachno gyda'r gobaith o hybu bywyd gwyllt a threftadaeth chwarelyddol yr ardal.
Wedi'i arwain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y nod hefyd yw adfer y mawnogydd yno, gyda'r potensial i amsugno miloedd o dunelli o garbon ar 么l ei adfer.
Lle tawel ydy Cwm Penmachno, a dros y blynyddoedd mae'r ardal wedi gweld newidiadau mawr yn gymdeithasol ac o ran diwydiant, gyda thro ar fyd pan gaeodd y chwareli llechi.
Mae safle anghysbell y Foel, sy'n cwmpasu 1,600 erw yn gorwedd i'r de o Gonwy ac yn cynnwys tair chwarel, hefyd yn gartref i ffrydiau yn llifo lawr llethrau'r mynydd gyda golygfeydd ar draws y Parc Cenedlaethol.
Ond gyda'r safle a'r t欧 fferm wedi'i brynu gan yr ymddiriedolaeth, fydd yr elusen yn gweithio gyda chymunedau a ffermwyr er mwyn gwella mynediad ac ymchwilio i'w dreftadaeth llechi a'i sicrhau ar gyfer y dyfodol.
Yn y dyfodol, y bwriad yw rheoli tir ychwanegol cyfagos hefyd gan ddatblygu pob math o gynlluniau amgylcheddol sy'n cynnwys adfer y fawnog ar yr ucheldir i gysylltu hefo cynlluniau tebyg.
Er fod disgwyl iddi gymryd blynyddoedd i wireddu'r holl gynlluniau, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am reolwr i fferm Y Foel ac i gynorthwyo hefo'r gwaith cadwraeth.
'Daeth y Cymry ddim yn 么l'
Mae Anwen Naylor yn byw yng Nghwm Penmachno, a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Erbyn heddiw faswn i ddim yn galw hi yn ardal Gymraeg, mi gaeodd y chwareli yn 1962 a diflannodd y Cymry o 'ma i chwilio am waith... y tai yn wag a daeth y Cymry ddim yn 么l.
"Mae'r Saeson wedi dod i Cwm ond mae genom ni un peth pwysig ofnadwy yma sef cymdeithas. Mae genom ni gymdeithas gref ofnadwy... pawb yn edrych ar 么l eu gilydd... cyfarfod yn y Seilo a pobl yn gweithio'n galed i gadw'r gymdeithas i fynd a mae genom ni lot fawr o ddysgwyr a mae hynny yn beth calonogol ofnadwy."
Mi fydd y gymdeithas leol yn ganolog i gynlluniau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac un sy'n croesawu hynny ydy Mary Twomey, un arall o drigolion Cwm Penmachno.
"Mae'n bwysig bod y gymuned yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd 'efo'r ardal, 'efo'r fferm, 'efo'r dyffryn achos mae'r gymuned yn teimlo yn gryf am yr ardal hwn," meddai.
"De ni ddim isio i'r lle fynd i gwmni arall... cwmni sy'n mynd i blannu llawer o goed... de ni wedi gweithio 'efo'r trust ers blynyddoedd r诺an."
'Gwarchod treftadaeth gyfoethog'
"Mae'r Foel yn le trawiadol iawn, yn gyfoeth mewn hanes ac mae ganddo botensial enfawr i natur ffynnu - rydym yn falch iawn o fod yn geidwaid ar hynny," dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
"Mewn sawl ffordd, dyma'r darn jig-so coll a fydd yn ein galluogi ni i ymuno 芒 sawl safle gwahanol a gweithio gyda phartneriaid yn eang ar draws y tirlun.
"Bydd mwy o le ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys rhwydwaith o berthi newydd, a'r gallu i storio symiau enfawr o dd诺r a charbon yn ddwfn yn y tir mawn.
"Mae'r haenau o ryngweithiad dynol gyda'r tirlun yn rhyfeddol, o'r hen ffordd Rufeinig i'r tair chwarel lechi a fu'n gymorth i'r wlad ennill cydnabyddiaeth fyd-eang.
"Mae gennym gyfle go iawn yma i wella mynediad at y lleoliad hanesyddol hwn a gweithio gyda'r gymuned leol i ddehongli a gwarchod ei threftadaeth gyfoethog."
Bydd cynefinoedd sydd wedi dirywio, gan gynnwys ehangder o dir mawn o arwyddoc芒d cenedlaethol, yn cael eu hadfer er mwyn iddynt amsugno symiau mawr o garbon a d诺r, gan gynorthwyo'r tirlun i amsugno effeithiau tywydd eithafol a lleihau llifogydd yn y dyffryn.
Amcangyfrifir y gallai'r safle amsugno dros 350,000 o dunelli o garbon ar 么l ei adfer, sy'n gyfwerth 芒 thynnu bron i 80,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.
Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi gweithio'n agos 芒'r Ymddiriedolaeth ar adfer mawndiroedd, coetiroedd ac i greu cynefinoedd eraill, ac adfer afonydd yn nalgylch Conwy, gan gefnogi'r cyfle i weithio ar y raddfa mae'r Foel yn ei chynnig.
"Mae'r amseru yn hollbwysig, mae angen i ni gyflawni newidiadau i'r modd y rheolir y tir, a hynny'n gyflym iawn mewn ardaloedd allweddol.
"Mae'r Foel yn cynnig carreg gamu i'r Ymddiriedolaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar y tirlun o bersbectif llawer ehangach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2016