大象传媒

Cleifion canser 'yn aros yn hirach nag erioed'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Guto Prys ap Gwynfor: 'Fydde tri mis yn mynd heb glywed dim byd'

"Mae lot o ofid. Mae'r ansicrwydd yn difa ac mae angen cyngor a chyfarwyddyd reit ar y dechrau."

Dyna brofiad Guto Prys ap Gwynfor o Landysul, sy'n derbyn triniaeth canser am yr eildro mewn dwy flynedd.

Mae cleifion yn aros yn hirach nag erioed wrth i dargedau fod ar eu hisaf, meddai pennaeth gwasanaethau canser Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod miliynau yn cael ei wario ar gyfleusterau a chyfarpar newydd.

'Lot o ofid'

Fe wynebodd Guto gyfnodau hir o aros ac oedi ar 么l derbyn ei ddiagnosis cyntaf cyn dechrau'r pandemig.

"Mae lot o ofid wrth gwrs gan nad ydw i'n feddyg a roeddwn i'n cael cyngor i beidio edrych ar-lein a hunan-analeiddio," meddai.

Mae'r sefyllfa wedi gwella tipyn i Guto erbyn hyn wrth iddo gael apwyntiadau am brofion a thriniaeth yn syth, ond mae'n cydymdeimlo 芒 phobl sy'n gorfod aros misoedd am apwyntiadau.

"Mae pobl sydd yn gorfod aros, dwi'n uniaethu gyda nhw yn llwyr.

"Dyle fe ddim digwydd, dyle fe ddim digwydd. Dyle fod yna drefniadau i bobl cael eu gweld yn syth", ychwanegodd.

Angen mwy o fuddsoddiad

Mae ei fab Mabon ap Gwynfor, aelod senedd Plaid Cymru, wedi bod yn dyst i'r cyfnodau heriol mae Guto wedi'i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ac er fod y teulu yn ddiolchgar iawn i ddoctoriaid a nyrsys y GIG, mae Mabon ap Gwynfor hefyd yn dweud fod angen fwy o buddsoddiad gan y llywodraeth i lefelau staffio.

"Dydy o ddim yn syndod ein bod ni'n gweld y niferoedd yma," dywedodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Mabon ap Gwynfor AS, mae angen mwy o fuddsoddiad

"Yr hyn sy'n drist ydy dydan ni ddim yn gweld y buddsoddiad angenrheidiol yn y lefeloedd staffio er mwyn mynd i'r afael 芒 hyn.

"Ar ddiwedd y dydd rydyn ni'n gwybod bod angen fwy o staff ar bob lefel yn y sector iechyd canser er mwyn medru delio efo'r nifer o gleifion a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mor gynnar a phosib i gael y driniaeth angenrheidiol yma,"

'Angen mwy o staff'

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, sy'n arwain gwasanaethau canser Cymru, bod mwy o gleifion yn cael eu trin yn yr adrannau brys hefyd oherwydd fod eu salwch wedi gwaethygu.

Ychwanegodd fod angen mwy o staff a safleoedd lleol er mwyn darparu triniaeth yn haws.

"Yn ystod dyddiau cynnar y pandemig doedd cleifion ddim yn symud trwy'r system fel y bydden ni'n disgwyl," meddai.

"Roedd 4,500 yn llai o ddiagnoses yn cael eu gwneud na'r arfer. Ond yn ystod y chwe mis diwethaf mae cyfradd y cleifion sydd angen triniaeth yn uwch nag erioed a does ddim digon o le yn y system er mwyn ymateb i'r galw."

Yn Nhachwedd y llynedd fe dderbyniodd 1,762 o gleifion newydd triniaeth canser am y tro gyntaf - y nifer fwyaf ers i ffigyrau cymharol eu casglu ym Mehefin 2019.

Ond o'r rheiny ond 57.9% ddechreuodd eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod - 75% oedd y nod - y canran isaf ers 2019.

Galw cynyddol

Aeth yr Athro Crosby ymlaen i ddweud, "Roedd y galw ar wasanaethau yn cynyddu tua 10% pob blwyddyn cyn y pandemig.

"Mae cleifion yn aros yn hirach erbyn hyn oherwydd diffyg lle o fewn y system a mesurau Covid-19."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen cynllun gweithlu cenedlaethol i ddatrys y problemau, meddai'r Athro Tom Crosby

Er bod 66.6% o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, 45.3% oedd y ffigwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf.

"Rydyn ni'n ymwybodol bod gwahaniaeth arwyddocaol - ac annerbyniol - rhwng safleoedd canser a byrddau iechyd gwahanol o ran mynediad i wasanaethau diagnostig a thriniaeth."

Fe ychwanegodd fod yr oedi hefyd yn dibynnu ar y math o ganser - gyda amserau aros canser y coluddyn, prostad a gynecoleg yn "llawer hirach."

Dywedodd hefyd fod angen cynllun gweithlu cenedlaethol i ddatrys y problemau.

"Mae'n amlwg dyw'r sefyllfa ddim am wella dros nos. Mae angen gweithlu ychwanegol sydd ddim hyd yn oed yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae hyn am gymryd blynyddoedd i ddatblygu gweithlu sydd angen er mwyn darparu gwasanaethau canser yng Nghymru.

"Nid yn unig fuddsoddiad tymor byr sydd angen i ddatrys y broblem, ond ariannu sy'n digwydd tro ar 么l tro ac sy'n targedu ailstrwythuro'r system sydd gyda ni," meddai.

'Wedi dirywio'

Dyw Rhodri Davies o Ymchwil Canser Cymru ddim yn synnu ar y darlun mae'r athro Crosby yn ei gyflwyno ac yn dweud fod problemau hanesyddol gyda gofal canser yng Nghymru a phroblemau yn sgil y pandemig.

"Er bod rhywfaint o adferiad yn yr haf llynedd, roedd pethau wedi dirywio yn y gaeaf.

"A fydd e ddim yn syndod os bydd hyn yn disgyn ymhellach - o gymharu gyda'r targed sydd wedi cael ei gosod gan y llywodraeth.

"Ond dwi'n credu bod hwn yn cuddio problemau fwy o ran ardaloedd a byrddau iechyd.

"I fynd o lle ma' fe nawr ni'n disgwyl gweld iddo godi eto yn y deufis nesaf a mae hyn yn mynd i greu problemau mawr hwyrach ymlaen wedyn yn y flwyddyn i ddod a blynyddoedd i ddod - gyda mwy o bobl eto yn dod mewn i'r system."

Mae nhw ac elusennau eraill yn dweud fod angen cynllun adfer yn dilyn y pandemig sy'n sicrhau "ni ddim jyst yn ymateb i'r problem, ni'n datrys y problem".

Galw'r gwrthbleidiau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jane Dodds AS wedi galw ar lywodraeth Cymru i ymateb ar frys

Dywedodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb ar frys i sicrhau bod gofal canser yn ymateb i'r galw.

"Rydw i'n eu hannog i gefnogi'r cynllun chwe cham 'Catch-up with Cancer' a fydd yn rhoi hwb i wasanaethau radiotherapi er mwyn clirio'r rhestr aros estynedig."

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Russell George MS: "Rydym yn cytuno ag elusennau canser sy'n dweud nad yw'r Datganiad Ansawdd Canser gyfystyr 芒 strategaeth genedlaethol. Mae diffyg uchelgais gan y llywodraeth.

"Hyd yn oed cyn Covid roedd Cymru eisoes y tu 么l i wledydd eraill y DU o ran cyfraddau goroesi canser.

"Ers hynny cafodd miloedd gamddiagnosis, gyda gostyngiad o 40,000 o bobl yn mynd i'r ysbyty i gael triniaeth canser ym mlwyddyn gyntaf y pandemig.

"Dyma pam rydym yn cynnal dadl yn y Senedd wythnos nesaf lle byddwn yn annog Llywodraeth Lafur i gyhoeddi ar frys gynllun recriwtio a chadw gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser a strategaeth ganser lawn, yn ogystal 芒 chefnogi cleifion canser trwy eu triniaeth, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi."

Ond mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru ac fe gyhoeddwyd ein cynllun cenedlaethol ym Mawrth 2021.

"Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi cynllun adfer ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gofal canser, gyda buddsoddiad gwerth 拢250 miliwn o arian ychwanegol.

"Rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau a chyfarpar newydd ar draws Cymru, gan gynnwys cyfarpar cynllunio triniaeth a radiotherapi yn Abertawe, sganiwr PET-CT newydd yng Nghaerdydd, uned newydd canser y fron yng Ngwent, yn ogystal ag agor Canolfannau Diagnostig Cyflym yng ngogledd Cymru."

Pynciau cysylltiedig