Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Effaith acne ar iechyd meddwl ddim yn cael ei gymryd o ddifrif'
Dyw ysgolion a brandiau ddim yn gwneud digon i ofalu am iechyd meddwl pobl ifanc sy'n byw ag acne, yn ôl un dylanwadwr sy'n codi ymwybyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe adawodd Scott McGlynn 34, o Gaerffili, yr ysgol ar ôl cael ei fwlio am gyflwr ei groen a'i rhywioldeb.
Dywedodd bod cyflwr acne wedi effeithio ar ei iechyd meddwl a bod angen gwneud mwy i gefnogi pobl ifanc a chwalu'r stigma ynghylch y cyflwr.
Dywedodd Cymraes ifanc arall nad oedd yn teimlo bod modd gofyn am gymorth pan yn yr ysgol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "wedi ymrwymo i herio agweddau ac ymddygiad negatif all fod yn sail i fwlio".
Mae acne'n gyflwr cyffredin ymysg pobl ifanc, gyda tua 95% o bobl rhwng 11 a 30 oed yn cael eu heffeithio i ryw raddau.
Yn aml, mae'n cael ei achosi gan newidiadau mewn hormonau - fel yn ystod y glasoed neu feichiogrwydd - a gall y cyflwr gael ei etifeddu.
Mae croen nifer yn clirio wedi rhai blynyddoedd, ond mae tua 3% o oedolion dros 35 yn byw â'r cyflwr yn hir dymor.
'Byth yn gallu siarad'
Dechreuodd acne Megan Sawyer, 23 o Gaerdydd, pan yn yr ysgol gynradd, ac mae'n dweud ei fod ond wedi clirio'n llwyr yn ddiweddar.
Dywedodd ei bod wedi teimlo effaith y cyflwr yn fawr pan yn yr ysgol, ond bod y cymorth yn "annigonol".
Dywedodd bod acne yn "cael ei weld fel peth eithaf arwynebol i fod yn cael ti lawr" mewn ysgolion.
"Doeddwn i byth yn teimlo fel o'n i'n gallu mynd i'r ysgol a dweud, 'dwi really'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd - achos bod gen i spots,' achos y general consensus yw bod gan bob arddegwr spots, get a grip.
"O'n i byth yn teimlo y gallen i eistedd lawr [yn yr ysgol] a dweud 'dwi'n teimlo'n drist heddi… achos bod acne gen i a s'dim byd galla i 'neud i'w drwsio fe, dwi just yn gorfod byw gyda fe - byw gyda'r boen a'r insecurity a phobl yn gwneud hwyl ar ben fi'."
Mae Megan wedi defnyddio meddyginiaeth cryf yn y gorffennol, sy'n gallu achosi sgil-effeithiau eraill.
"Mae iselder yn aml yn side-effect, a 'nes i ddiodde' gyda fy iechyd meddwl pan o'n i yn fy arddegau.
"Sai'n gwybod os taw dyna oedd y rheswm, achos dwi'n dal i brofi ambell beth gyda fy iechyd meddwl, ond mae'n sicr yn cyd-fynd gyda phryd dechreuodd hynny."
Mae Scott, sy'n byw yn Ystrad Mynach, wedi defnyddio'r platfformau ar-lein i drafod ei groen.
Mae ei gyfres Instagram 'Celebrity Skin Talk' wedi rhoi llwyfan i westeion enwog fel Rebekah Vardy, Keisha Buchanan o fand y Sugarbabes a Laura Anderson o'r gyfres Love Island.
Dywedodd: "Dwi wir ddim yn meddwl y bydden i wedi stryglo gymaint gyda gorbryder ac iselder os y bydden i wedi cael cefnogaeth yn yr ysgol.
"Dwi'n meddwl y byddai wedi bod yn fuddiol i fi ond hefyd wedi helpu'r bobl oedd yn fy mwlio i ddeall y sefyllfa ac efallai peidio fy mwlio cynddrwg."
'Eisiau teimlo'n hyderus ac yn bwerus'
Ychwanegodd Scott "na allai feddwl na siarad am unrhyw beth arall" heblaw am ei groen ar y pryd, a'i fod wedi methu ei arholiadau gan "nad oedd ganddo'r nerth" i ddelio â nhw ochr yn ochr â'r bwlio.
Dywedodd: "Ro'n i angen yr help a'r gefnogaeth yn yr ysgol. Ro'n ni angen teimlo'n hyderus ac yn bwerus, ond yn lle, ro'n i'n teimlo fel bod pobl yn ymosod arnaf.
"Dwi'n drist oherwydd petawn ni wedi cael cefnogaeth, efallai y byddai pethau wedi bod yn wahanol."
Dywedodd Scott ei fod eisiau gweld grwpiau o gefnogaeth mewn ysgolion er mwyn ceisio normaleiddio'r sgwrs ynghylch acne.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i herio agweddau ac ymddygiad negatif all fod yn sail i fwlio".
Ychwanegodd llefarydd fod hyfforddiant gorfodol mewn lle sy'n "canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o'r corff, gan gynnwys teimladau pobl tuag at eu cyrff... a'r newidiadau sylweddol mae pobl yn profi tra'n aeddfedu, allai gynnwys acne."
"Wrth i ddysgwyr ddatblygu, mae addysg yn canolbwyntio ar sut all newidiadau corfforol gael effaith ar les a pherthnasau, gan sicrhau cynrychiolaeth o brofiadau a bywydau LHDT+," meddai.