大象传媒

Guto Harri - y Cymro yn Rhif 10

  • Cyhoeddwyd
guto harriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri yn cyrraedd ei waith ar fore Llun, 7 Chwefror, yn rhif 10 Downing Street

Wrth drafod derbyn swydd yn Rhif 10 Downing Street lai na phythefnos yn 么l, fe wnaeth Guto Harri gwestiynu pwy fyddai eisiau ymuno gyda llong os oedd yn suddo, gan ychwanegu mai difyr fyddai achub llong o'r fath.

Nawr ar 么l derbyn swydd fel cyfarwyddwr cyfathrebu newydd Boris Johnson mae'n dechrau ar y fordaith honno, pa bynnag ffordd mae'n mynd.

Mae'n wyneb cyfarwydd - ond pwy ydi Guto Harri a sut wnaeth y Cymro gyrraedd un o swyddi pwysicaf Rhif 10 Downing Street?

Hogyn pwy ydi o?

Y cwestiwn cyntaf wrth geisio dod o hyd i gefndir unrhyw Gymro - ei achau. Mae'n rhannu ei gyfenw gydag enw cyntaf ei dad, yr awdur a'r seicolegydd y diweddar Harri Pritchard Jones, a fagwyd ar Ynys M么n, cyn symud i dde Cymru i weithio. Fe wnaeth o a'i wraig Lenna fagu tri o blant yng Nghaerdydd: Guto, Illtud a Nia, fu farw yn 2020.

Aeth Guto Harri i ysgolion Tonyrefail a Bryntaf, cyn mynd yn ei flaen i Ysgol Gyfun Llanhari - a bu'n swog i'r Urdd yn Llangrannog.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Guto Harri

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Guto Harri

Gwleidyddiaeth yn y gwaed?

Mae'n bosib mai gan ei dad daeth y diddordeb mewn gwleidyddiaeth, er mai cysylltiad cryf gyda Phlaid Cymru oedd ganddo fo ac nid y Ceidwadwyr.

Ar 么l gadael Llanhari, fe astudiodd Guto Harri wleidyddiaeth, economeg ac athronyddiaeth yng Ngholeg Queen's, Rhydychen, cyn gwneud blwyddyn mewn newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.

Dechreuodd ei yrfa ar ddiwedd yr 1980au drwy weithio ar raglen barn y gwylwyr, Carreg Ateb i S4C, a rhaglenni newyddion Radio Cymru. Yn 1990 aeth i Lundain fel gohebydd cyffredinol 大象传媒 Cymru, gan ohebu o Saudi Arabia yn ystod Rhyfel y Gwlff, cyn ei benodi yn ohebydd seneddol 大象传媒 Cymru yn 1992.

Yn 2002 dechreuodd fel prif ohebydd gwleidyddol y 大象传媒.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri yn 2007, pan oedd yn ohebydd gwleidyddol y 大象传媒

PR a Boris

Ar 么l cyfnod fel gohebydd y 大象传媒 yn Rhufain a Gogledd America gadawodd newyddiaduraeth yn 2007 i ddechrau ar yrfa yn y byd cysylltiadau cyhoeddus. Ar ei ail ddiwrnod yn ei swydd newydd, cafodd ei ddanfon i Affrica i gynghori'r gwleidydd Morgan Tsvangiari, oedd yn aros mewn t欧 diogel yno gan fod Robert Mugabe yn gwrthod ildio arweinyddiaeth Zimbabwe iddo.

Yn ystod y cyfnod yma roedd David Cameron wedi ei ystyried ar gyfer r么l pennaeth cysylltiadau cyhoeddus y Ceidwadwyr, ond penodwyd cyn-olygydd y News of the World, Andy Coulson, yn lle. Roedd hyn yn golygu ei fod yn rhydd yn 2008 i weithio gyda Maer Llundain ar y pryd - Boris Johnson, oedd wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod yr un cyfnod, er bod y ddau mewn colegau gwahanol.

Mae wedi disgrifio'r swydd pedair blynedd fel y "swydd anoddaf i fi ei gwneud erioed, a'r un anoddaf y byddaf erioed yn ei gwneud gobeithio, ond roedd hi'n un o'r swyddi y gwnes i ei mwynhau fwyaf."

Llundain ydi cartref Guto Harri a'i wraig, ac mae ganddyn nhw dri o blant.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri oedd cyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson pan oedd y Prif Weinidog yn Faer Llundain

Hacio ffonau

Mae ei swydd newydd yn dipyn o sialens, ond nid dyma'r tro cyntaf i Guto Harri godi aeliau drwy dderbyn swydd o'r fath.

Ddegawd yn 么l roedd News International o dan y lach o bob cyfeiriad yn sgil y sgandal hacio ffonau - a'r un dderbyniodd y swydd fel cyfarwyddwr cyfathrebu'r cwmni oedd Guto Harri.

Mewn blog am y cyfnod dywedodd: "Fe wnaeth y newyddiadurwyr oedd yn gweithio yno eu gwaith yn wych, ddydd ar 么l dydd, yn rhesymu'r byd; yn herio'r cyfoethog a'r pwerus; ac yn rhannu'r wybodaeth 芒'r gweddill ohonom ac yn ein diddanu ar yr un pryd. Rwy'n falch o'r r么l a gymerais yn galluogi'r bobl hynny i fod yn newyddiadurwyr unwaith eto, nid yn cael eu gweld fel hacwyr a llygrwyr bywyd cyhoeddus."

Disgrifiad,

Pwy ydi Guto Harri?

S4C a Chymru

Ers gadael News International yn 2015, mae wedi derbyn sawl r么l yn cynnwys aelod o fwrdd Awdurdod S4C a chyfarwyddwr cwmni Hydro Industries yn Llanelli.

Mis Mai 2021 fe ddechreuodd fel cyflwynydd ar y sianel newydd GB News, cyn creu'r penawdau ddeufis yn ddiweddarach drwy benlinio i ddangos cefnogaeth i b锚l-droedwyr t卯m Lloegr. Cafodd ei gyhuddo gan reolwyr y sianel o dorri safonau golygyddol a'i atal o'r gwaith, ac ymddiswyddodd yn fuan wedyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Guto Harri yn penlinio ar GB News wrth feirniadu hiliaeth yn erbyn p锚l-droedwyr Lloegr

Tan iddo gael ei benodi i weithio yn Rhif 10, Guto Harri oedd cyflwynydd rhaglen materion cyfoes y Byd yn ei Le ar S4C.

Brexit a Boris

Ers cael ei benodi mae sawl un wedi tynnu sylw at sylwadau beirniadol wnaeth Guto Harri am Boris Johnson yn y gorffennol, am ei ymgyrch i dynnu Prydain allan o Ewrop er enghraifft, a'i rybudd y gallai fod yn brif weinidog 'rhanedig'.

Wrth gyflwyno rhaglen ddiweddar o Y Byd yn ei Le, fe ofynnodd i'r Ceidwadwr Alun Cairns a fyddai'n bosib i Boris Johnson barhau fel Prif Weinidog os oedd wedi torri'r gyfraith.

Yn fwy diweddar mae wedi bod yn gefnogol o'r Prif Weinidog yn sgil y feirniadaeth am y digwyddiadau cymdeithasol yn Downing Street dros y cyfnodau clo. Ei dasg nawr, ers cael yr alwad i weithio eto gyda chyn-Faer Llundain, ydi perswadio'r cyhoedd i gyd-fynd 芒'r farn honno.