大象传媒

Argyfwng costau byw: Degau o brotestwyr yn uno ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth pobl ynghyd yng nghanol Bangor wrth i'r argyfwng costau byw beri pryder

Daeth degau o bobl ynghyd ym Mangor ddydd Sadwrn mewn protest wrth i bryderon gynyddu am yr argyfwng costau byw.

Galw am dreth arbennig ar elw ychwanegol cwmn茂au olew a nwy oedd y protestwyr wrth i gostau ynni a bwyd gynyddu.

Yn 么l Jessica Kleczka oedd yn rhan o'r digwyddiad, mae'n "annerbyniol eu bod [cwmnn茂au olew a nwy] yn gwneud cymaint o elw ar adeg pan fo gymaint o bobl yn ei chael hi'n anodd gyda chostau byw".

Dywedodd cwmni olew BP y byddai treth o'r fath yn torri buddsoddiad yn nwy y DU.

Fe gyhoeddodd y corff sy'n goruchwylio'r diwydiant ynni, Ofgem, gynnydd o 54% i'r cap ar brisiau.

O fis Ebrill ymlaen, bydd pris cyfartalog biliau ynni yn cynyddu o bron i 拢700 i filiynau o gartrefi ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

'Methu fforddio biliau uwch'

Yn 么l un dyn ifanc oedd yn rhan o'r digwyddiad, Shane Parsons, dyw pobl ifanc "ddim yn gallu fforddio talu dros 拢900 y flwyddyn [yn ychwanegol] ar filiau".

"Mae pethau'n anodd i bawb ar y funud gyda coronafeirws, felly mae'n bwysig bod ni'n brwydro dros ein hawliau," dywedodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Christine Hardacre yn codi pryderon am blant yn gorfod mynd i'r ysgol heb gael brecwast oherwydd yr argyfwng costau byw

Yn rhan o'r dorf oedd Christine Hardacre. Cododd bryderon am sut fydd yr argyfwng yn effeithio ar blant yn benodol.

"Mae Cymru yn dlotach na gweddill Prydain ac felly mae hyn wir am gael effaith ar bobl Cymru. Bydd pobl wir yn gorfod meddwl am allai yfed, neu allai cadw'n dwym, ac mae hwnna'n warthus," dywedodd.

"Mae economi chweched mwyaf y byd gyda ni, ac eto i gyd mae plant yn mynd i'r ysgol heb gael brecwast, mae plant yn mynd heb bethau - ma' fe'n warthus."

Pynciau cysylltiedig