Brondanw yn helpu Cymry Cymraeg ifanc i aros yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae stad sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl leol wrth osod tai, a hynny am bris llai na'r farchnad agored, yn "enghraifft" y gellid ei dilyn.
Dyna farn Seran Dolma, ymddiriedolwr stad Brondanw ger Llanfrothen, ar ran Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis.
Mae cymuned stad Brondanw, sydd 芒 golygfeydd o'r Wyddfa, wedi'i gwneud yn bosibl gan gynllun tai radical, y gosodwyd ei seiliau gan y pensaer y tu 么l i Bortmeirion.
Roedd Syr Clough Williams-Ellis eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i adael ei stad o 50 eiddo hanesyddol i ddisgynyddion ac felly sefydlodd ymddiriedolaeth elusennol yn y 1970au.
Mae'r ymddiriedolaeth bellach yn helpu teuluoedd lleol i ddod o hyd i gartrefi fforddiadwy i'w rhentu.
"Rydyn ni'n ceisio gosod y rhent rhywle rhwng cyfradd y farchnad a thai cymdeithasol," eglura Seran Dolma, sydd hefyd yn or-wyres i Syr Clough.
"Mae'n golygu bod gennym ni gymuned wirioneddol ffyniannus - llawer o bobl ifanc, llawer o blant. Mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd."
Mae gan y stad restr aros hir o ymgeiswyr, ond rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sydd 芒 chysylltiad 芒'r ardal, sy'n siarad Cymraeg ac sydd 芒'r gallu i gyfrannu i'r gymuned.
"Dwi'n meddwl bod o'n braf i bobl aros yn eu hardal enedigol a gallu fforddio i fyw yma," meddai Ms Dolma.
"Rydym yn rhoi blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg mewn rhai achosion - ond dim dyna'r unig beth 'da ni'n cymryd i ystyriaeth."
'Rhywbeth arbennig am y lle'
Symudodd Silvia Rose, 29, i mewn i un o fythynnod y cyn-arddwr ddwy flynedd yn 么l.
"Mae gennych chi fynyddoedd o'ch cwmpas, a golygfeydd godidog iawn," meddai.
"Mae yna lawer o goed, coetir hen iawn, caeau ac afonydd hardd hefyd, rhaeadrau hardd y gallwch nofio ynddynt trwy gydol y flwyddyn."
Er iddi dreulio ei phlentyndod mewn t欧 gwahanol ar y stad, dywed Silvia nad oedd hi'n gwerthfawrogi pa mor wahanol oedd ei chymuned tan iddi wynebu costau byw ei hun.
"Yr hyn sy'n unigryw yw fy mod i a fy mhartner Jack yn gallu rhentu t欧 tair ystafell wely gyda'n gilydd mewn lle mor brydferth. Rwy'n meddwl y byddai fel arall yn sicr yn Airbnb erbyn hyn," meddai.
"Mae'n debyg fy mod bob amser yn ymwybodol bod rhywbeth arbennig am y lle hwn, ond efallai nad oeddwn yn ei ddeall yn iawn."
Dywed Silvia fod yr ardal wedi bod ag enw da erioed am ddenu pobl "ychydig yn amgen", a bod y gymuned bresennol, sy'n cynnwys nifer o artistiaid a phobl greadigol, wedi aros yn driw i weledigaeth wreiddiol Syr Clough.
'Cwm arbennig'
Mae Steffan Smith a'i bartner Lowri wedi rhentu'r hen felin wl芒n ers tua dwy flynedd.
"Dwi ddim yn meddwl fy mod i wastad wedi bwriadu dod yn 么l - ond roedd wastad rhywbeth am y cwm arbennig yma oedd yn eich denu chi n么l i mewn," eglura Steffan, 31, sydd fel Silvia, wedi ei fagu ar y stad.
Dywed fod teulu ifanc fel ei deulu ef wedi gallu fforddio eiddo o'r fath 50 mlynedd yn 么l, ond heddiw mae'r farchnad dai yn gwneud hynny'n "amhosib".
"Fe wnaethon ni elwa o'r stad fel plant ac rydyn ni'n elwa eto fel oedolion," meddai.
"Mae gennych chi'r afonydd i nofio ynddynt a'r mynyddoedd i'w dringo.
"Mae'r cyfan ar gael am ddim ac yn hygyrch i'r gymuned."
'Camau cadarnhaol'
Mae llawer o gymunedau gwledig yn teimlo o dan fygythiad gan ail gartrefi a llety gwyliau yn gwthio prisiau'r farchnad i fyny.
Fodd bynnag, mae llawer o berchnogion ail gartrefi yn dweud eu bod yn teimlo'n fwch dihangol oherwydd materion ehangach y stoc dai.
Dywed Ms Dolma y byddai'r stad yn hoffi gwneud mwy i helpu, ac mae'n ceisio prynu eiddo newydd gerllaw, ond mae adnoddau'n gyfyngedig.
"Rwy'n meddwl bod y stad yn enghraifft o le sydd wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio aros a byw yma," meddai.
Gallwch weld mwy am y stori hon ar Wales Live ar 大象传媒 iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021