Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Profion Covid am ddim: 'Nid mater i Loegr yn unig' medd gweinidog
Ni all "Lloegr yn unig" benderfynu cwtogi na rhoi terfyn ar brofion llif unffordd rhad ac am ddim ar gyfer Covid, meddai gweinidog iechyd Cymru.
Rhybuddiodd Eluned Morgan y byddai cam o'r fath ar gyfer Lloegr, gan weinidogion y DU, yn effeithio ar Gymru, a oedd wedi "talu am lawer" eisoes.
Roedd Cymru, a'r llywodraethau datganoledig eraill, wedi anfon "negeseuon clir" i Lywodraeth y DU ar hyn, meddai.
Yn gynharach, dywedodd gweinidog yn Llywodraeth y DU mai dod 芒 phrofion am ddim i ben oedd y "cyfeiriad", gyda chyhoeddiad "yn fuan".
'Byw gyda Covid'
Defnyddir niferoedd enfawr o brofion llif unffordd (LFTs) bob dydd ar draws y DU, er enghraifft gan bobl sy'n gweithio ym myd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chan y rheini sy'n ymweld 芒 ffrindiau a pherthnasau sy'n agored i niwed.
Ond mae adroddiadau niferus wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf bod Llywodraeth y DU yn adolygu'r profion rhad ac am ddim, o dan gynlluniau i "fyw gyda Covid" yn Lloegr, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.
Dywedir bod Trysorlys y DU yn ceisio arbed biliynau o bunnoedd drwy gwtogi ar brofion rhad ac am ddim.
Dywedodd Ms Morgan wrth 大象传媒 Cymru: "Mae yna negeseuon clir iawn wedi eu rhoi i Lywodraeth y DU ar hyn, oddi wrthym ni yma yng Nghymru, ond hefyd oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig eraill.
"Mae cyfarfod arall yr wythnos hon i drafod yr union fater hwn, i wneud yn si诺r eu bod yn deall na all Lloegr yn unig wneud yr holl benderfyniadau, bod yna effaith arnom ni a hefyd ein bod wedi talu, mewn gwirionedd, am lawer o'r darpariaethau eisoes."
Yn gynharach, wrth siarad ar Sky News, gofynnwyd i Weinidog y Lluoedd Arfog James Heappey a oedd profion llif unffordd rhad ac am ddim yn mynd i gael eu hatal.
Atebodd: "Rwy'n meddwl mai dyna'r cyfeiriad, ond bydd y prif weinidog yn cyhoeddi ei gasgliadau ar hynny yn fuan.
"Rwy'n deall y pryder, mae gen i berthnasau bregus ac mae yna sicrwydd o gymryd prawf i wybod nad oes gennych chi Covid cyn i chi fynd i ymweld 芒 nhw. Ac am y tro mae profion yn parhau i fod ar gael."
Ychwanegodd: "Y gwir amdani yw ein bod ni'n symud i gyfnod gwahanol nawr, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n debyg ei bod hi'n bryd ailystyried a oes angen i rai o'r mesurau sydd wedi bod ar waith dros y 18 mis diwethaf barhau ai peidio."