Adolygiad ar sut i wella Llwybr yr Arfordir
- Cyhoeddwyd
Gyda Llwybr Arfordir Cymru yn ddeg oed eleni, bydd adolygiad o'r llwybr yn cael ei gynnal i edrych ar sut y gall pobl leol elwa mwy ohono.
Yn 870 milltir, o gyrion Caer yn y gogledd i Gasgwent yn y de, fe ddenodd y llwybr bron i dair miliwn o ymwelwyr yn ei flwyddyn gyntaf a chyfrannu 拢32 miliwn i'r economi, yn 么l astudiaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Aelod Senedd Ogwr, Huw Irranca-Davies, arwain adolygiad i geisio asesu beth yw cyfraniad y llwybr erbyn hyn a beth yw ei botensial.
Un o'r busnesau sydd wedi elwa o'r llwybr ydy gwesty Lastra ger Amlwch ar Ynys M么n.
Yn 么l y perchennog, Adrian Parry, mae'r llwybr yn "fusnes mawr" gyda chwmn茂au wedi'u creu i drefnu gwyliau cerdded ar gyfer y llwybr.
"Y flwyddyn cyn Covid roedd y cwmn茂au wedi bwcio 350 o nosweithiau yn y gwesty," dywedodd.
"Wrth gwrs mae'r spend yn bedrooms, ond mae 'na fwy o spend, up-sell, efo bwyd a diod. 'Den ni'n 'neud packed lunches iddyn nhw hefyd a mae hwnna'n up-sell arall. Mae o'n fusnes mawr 'de."
"'Dan ni ddim ond un gwesty. Mae 'na tua 25 o lefydd aros ar yr ynys yn elwa o hyn i gyd. Mae o werth lot i'r economi lleol 'de."
Er hynny mae'n teimlo bod lle i wella yn arbennig o ran trafnidiaeth.
"Os ydy pobl yn dod yn unigol - a ddim drwy'r cwmn茂au - dwedwch bod nhw'n cerdded o Amlwch i Moelfre heddiw, mae nhw isio rhyw fath o drafnidiaeth i ddod 'n么l i fa'ma.
"Dydy bysiau ddim yn rhedeg, mae angen mwy o fysiau ac infrastructure i'r bobl sy'n cerdded bob dydd. Ac mae 'na gannoedd yn cerdded yn yr haf. Dyna'r peth mwyaf."
'Pwysig edrych yn ffres ar bethau'
Yn 么l Huw Irranca-Davies AS, mae'n "bwysig edrych ar yr economi ymwelwyr ond hefyd pethau fel iechyd meddwl, a'r argyfwng hinsawdd.
"Mae llawer o bethau ar y degfed penblwydd, mae'n bwysig edrych yn ffres ar y pethau hyn achos mae potensial enfawr gyda'r llwybr wrth edrych ymlaen."
Cyn y pandemig, fe gerddodd Lucy O'Donnell, 50, o Gaerdydd, y llwybr gyda'i chyfaill Eirlys Thomas, 71, hefyd o Gaerdydd.
Doedden nhw ddim wedi bwriadu cerdded y llwybr cyfan, dim ond rhannau i gadw'n heini, ond yn 么l Lucy fe ddaeth yn un o "anturiaethau gorau" ei bywyd.
"Mae'r bobl gwrddon ni yn gr锚t... i siarad am bethau Cymraeg. Dwi'n dysgu Cymraeg felly dwi'n ymarfer yn cerdded ar y llwybr. Mae'n amser gwych."
Mae Lucy ac Eirlys bellach wedi cyhoeddi llyfr am eu teithiau 'Slow Walking the Wales Coastal Path'.
Hoff ran Lucy o'r llwybr oedd Sir Benfro.
"Mae'r llwybr yno yn hen. Mae'r olygfa yn hyfryd ac mae'r challenge yn galed, i gerdded i fyny ac i lawr. Mae'r olygfa yn hyfryd."
Dechreuodd y gwaith ar y llwybr yn 2007, gyda'r bwriad o adeiladu ar lwyddiant y llwybr yn Sir Benfro ac ar Ynys M么n.
Mae'n amgylchynu dau Barc Cenedlaethol, 11 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a dwsinau o Fannau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Swyddog Llwybr yr Arfordir yn y gogledd ydy Gruff Owen sy'n hanu o Sir y Fflint.
Er bod golygfeydd godidog mewn rhannau eraill o Gymru, mae'n dweud mai ei hoff rannau ydy'r rheiny yn ardaloedd diwydiannol y dwyrain.
"O'n i'n arfer osgoi'r ardaloedd yna. Ond ers i ni greu Llwybr yr Arfordir, 'den ni wedi newid y tirwedd rywsut,2 meddai.
"Mae pobl yn teimlo bod 'na groeso iddyn nhw yna r诺an. Mae nhw'n gallu mwynhau yr Afon Dyfrdwy, mwynhau'r byd natur sydd yna.
"Mae'r llwybr, dwi'n teimlo - ac o siarad efo pobl leol, wedi agor i fyny lle o'r blaen doedd na ddim yr un mynediad at fyd natur.
"Felly os dwi isio ysbrydoli fy hun, os ydw i eisiau gweld faint o wahaniaeth mae Llwybr yr Arfordir wedi ei wneud, af i draw i'r ardal yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2017
- Cyhoeddwyd20 Awst 2016
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2014