Cyn-AS 'wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru sawl tro'

Mae cyn-aelod o'r Senedd wedi cael cais i ad-dalu 拢3,450 ar 么l iddo ddefnyddio adnoddau trethdalwyr yn anghywir ar gyfer ymgyrch yn ymwneud 芒 Chyngor Caerdydd.

Mae'n un o bedwar ymchwiliad lle cafwyd bod Neil McEvoy wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru.

Maen nhw wedi canfod ei fod hefyd wedi dwyn anfri ar y Senedd pan wnaeth recordiadau cyfrinachol ynghylch ymchwiliad i'w ymddygiad.

Dywedodd Mr McEvoy: "Does dim byd gen i i'w ad-dalu" a disgrifiodd y broses fel un "bwdr".

Cwblhawyd canfyddiadau pwyllgor safonau'r Senedd, ynghyd 芒 manylion ymchwiliadau gan y comisiynydd safonau Douglas Bain, ym mis Chwefror 2021.

Ond dim ond nawr maen nhw wedi eu cyhoeddi, wyth mis ers i Mr McEvoy golli ei sedd yn etholiadau mis Mai diwethaf.

Fe gafon nhw'u gohirio ar 么l i Mr McEvoy wneud ap锚l, a ddaeth i'r casgliad fod Mr McEvoy wedi cael "gwrandawiad teg" ym mhob un o'r pedwar ymchwiliad.

Roedd yn golygu na chafodd y sancsiynau gafodd eu hargymell, i wahardd Mr McEvoy o'r Senedd am gyfanswm o 42 diwrnod, byth eu gweithredu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd un o'r adroddiadau yn ymwneud 芒 sut y defnyddiwyd ei swyddfa yng Nghaerdydd

Roedd yr adroddiadau a ganfu fod Mr McEvoy wedi torri'r rheolau yn ymwneud 芒'r materion canlynol:

  • Camddefnyddio adnoddau'r Senedd, sef defnyddio adnoddau'r Senedd at ddibenion plaid wleidyddol ac etholiadol mewn perthynas ag isetholiad ward Grangetown Cyngor Caerdydd ym mis Tachwedd 2016 ac etholiadau lleol Cyngor Caerdydd ym mis Mawrth 2017;
  • Methu 芒 datgan budd perthnasol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Deisebau;
  • Torri'r egwyddorion uniondeb, gonestrwydd ac arweinyddiaeth yn y Cod Ymddygiad trwy gynnal recordiadau cudd ar yst芒d y Senedd;
  • Camddefnyddio adnoddau'r Senedd, sef defnyddio cyfeiriad e-bost y Senedd i ddelio 芒 materion sy'n ymwneud yn benodol 芒 Chyngor Sir Caerdydd.

Cafodd Neil McEvoy ei ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ganol De Cymru yn 2016, ond cafodd ei wahardd dros dro ym Mawrth 2017 wedi i dribiwnlys ei gael yn euog o ymddygiad oedd yn bwlio aelod o staff Cyngor Caerdydd.

Cafodd ei adfer i'w safle cyn iddo gael ei wahardd yn barhaol am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood fel "ymddygiad oedd yn tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".

Fe ffurfiodd blaid o'r enw Propel ond methodd 芒 chael ei ail-ethol i'r Senedd yn 2021.

Mae'n parhau'n gynghorydd yng Nghaerdydd, yn ward y Tyllgoed.

Fe gymerodd dros dair blynedd i'r g诺yn am gamddefnyddio adnoddau ddod i gasgliad - gyda'r g诺yn wreiddiol wedi'i gwneud ym mis Tachwedd 2017.

Dywedodd y pwyllgor, a arweiniwyd ar y pryd gan y cadeirydd Jayne Bryant, fod yr oedi yn destun "edifeirwch mawr". Roedd i'w briodoli'n rhannol i ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i'r recordiad cyfrinachol, lle penderfynodd yr heddlu beidio 芒 gweithredu ymhellach.

Archwiliwyd y g诺yn hefyd gan ddau gomisiynydd safonau - Mr Bain, a'r cyn-gomisiynydd Syr Roderick Evans, a ymddiswyddodd ar 么l i Mr McEvoy ddatgelu iddo ei recordio'n gyfrinachol yn ystod y broses.

Disgrifiad o'r llun, Ymddiswyddodd Syr Roderick Evans fel comisiynydd safonau ar 么l i'r recordiadau ddod i'r amlwg

Canfu'r ymchwiliad fod miloedd o daflenni etholiad wedi'u hargraffu yn ei swyddfa yng Nghaerdydd; bod aelod o staff yn cael ei ddefnyddio i wneud gwaith cyfieithu ar gyfer ymgyrch, a bod trefnydd ymgyrch yn cael ei leoli yn y swyddfa.

Canfuwyd bod cyfanswm o 22 o achosion o dorri rheolau yn gwahardd defnyddio adnoddau Senedd Cymru ar gyfer ymgyrchu etholiadol.

Ni allai Mr Bain nodi union gost i'r trethdalwr am y toriadau ymgyrchu, ond gwnaeth amcangyfrif "lefel isel" o 拢3,450.

Dywedodd pwyllgor safonau y Senedd tymor diwethaf, a ddyfarnodd ar y canfyddiadau i Mr Bain, nad oedd ganddo'r p诺er i fynnu ad-daliad, ond fe wahoddodd Mr McEvoy i ad-dalu'r golled amcangyfrifedig.

'Sarhaus'

Dywedodd y pwyllgor ei fod yn "hynod bryderus" ar 么l i'r comisiynydd ganfod bod gweithiwr dienw Neil McEvoy wedi anfon "dwy neges sarhaus" at rywun sy'n debygol o fod yn dyst yn yr ymchwiliad, a gofyn i drydydd parti anfon neges at rywun arall yn gwneud yn glir nad oedd angen iddynt roi tystiolaeth.

Er y "trallod a achoswyd", ni chymerodd y naill berson sylw o'r ymgais "i'w cymhell," ysgrifennodd Mr Bain.

Galwodd y pwyllgor blaenorol am newid y gyfraith i'w gwneud yn drosedd i ymyrryd ag ymchwiliad safonau.

'Tueddiadau sociopathig'

Mae un o'r tri adroddiad yn delio 芒 chwyn gan y Llywydd Elin Jones am recordiadau cyfrinachol Mr McEvoy o Syr Roderick Evans.

Dechreuodd Mr McEvoy recordio Syr Roderick a'i d卯m ar 么l iddo ofyn am recordiadau sain o'r gwrandawiadau i'r g诺yn am ei ddefnydd o adnoddau'r Senedd.

Roedd y recordiadau'n cynnwys sgwrs breifat lle cyfeiriodd Syr Roderick at Mr McEvoy fel un oedd 芒 "thueddiadau sociopathig".

Gan ddefnyddio ff么n symudol, gwnaeth Mr McEvoy recordiadau ar bedwar achlysur o wrandawiadau pellach i'r achos.

"Roedd yn arferiad ganddo i fynd i mewn i'r ystafell lle'r oedd y gwrandawiad i'w gynnal cyn yr oedd i fod i ddechrau a gadael ei ff么n, wedi'i osod i recordio, ar fwrdd, yn ei siaced neu mewn bag," ysgrifennodd Mr Bain.

Ym mis Tachwedd 2019 trosglwyddodd Mr McEvoy drawsgrifiadau o'r cyfarfodydd i'r cyfryngau, ac ymddiswyddodd Syr Roderick wedi hynny.

'Annoeth'

Fe wnaeth y pwyllgor safonau gydnabod bod sylwadau Syr Roderick yn debygol o fod wedi achosi gofid a'u bod yn "yn annoeth", ond ei bod yn "hollol amhriodol" i wneud recordiadau cudd.

"Cafodd y camau a gymerwyd gan Neil McEvoy wrth recordio sgyrsiau cudd ar yst芒d y Senedd effaith negyddol sylweddol ar ystod eang o bobl ar draws y Senedd a thu hwnt," meddai'r adroddiad.

"Roedd yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y Senedd, ac yn enwedig yn y drefn safonau."

Cyn yr etholiad diwethaf fe wnaeth y pwyllgor safonau argymell gwahardd Mr McEvoy o'r Senedd heb d芒l am gyfanswm o 42 diwrnod.

Ond ni chafodd yr argymhellion - saith diwrnod ar gyfer y recordiad cudd, 14 diwrnod ar gyfer camddefnyddio adnoddau'r Senedd a 21 diwrnod ar gyfer yr e-byst - erioed eu gweithredu, ac ni all y Senedd ei sancsiynu erbyn hyn.

Dywedodd Neil McEvoy fod proses y Senedd "wedi pydru i'r craidd, fel y profodd fy recordiadau ff么n cudd".