Cannoedd mewn gwylnos i ddangos cefnogaeth i Wcr谩in
- Cyhoeddwyd
Daeth 300 o bobl i wylnos ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd nos Lun i ddangos cefnogaeth i Wcr谩in ac i wrthwynebu ymdrechion milwrol Rwsia yno.
Parhau mae'r ymladd rhwng milwyr Wcr谩in a Rwsia ar 么l i'r Arlywydd Putin yrru ei fyddin dros y ffin ddydd Iau.
Ymhlith y siaradwyr yng Nghaerdydd oedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, sydd newydd ddychwelyd o'r wlad.
"Un peth sy'n amhosib i Putin ei chwalu yw gobaith ac ysbryd pobl Wcr谩in," meddai.
"Rhaid i ni roi iddynt y cymorth ymarferol y maen nhw ei ddirfawr angen.
"Maen nhw'n ymladd ar ein rhan ni a rhaid i ni eu cefnogi."
Cyn y rali dywedodd wrth 大象传媒 Cymru bod "ral茂au fel hyn yn hynod bwysig gan eu bod yn rhoi cryfder a gobaith i bobl Wcr谩in".
"Mae lleisiau pobl yn cael eu clywed gan wleidyddion ac felly yn eu hannog i ddangos mwy o undod ymarferol i bobl Wcr谩in," meddai Mr Price.
"Grym y bobl sy'n gwthio polisi - mae'r tro pedol ym mholisi tramor Yr Almaen yn ystod y 24 awr ddiwethaf yn brawf o hyn - a hynny oherwydd bod hanner miliwn o bobl ar y strydoedd yno.
"Dyw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Liz Truss i'r sancsiynau yn gynharach heddiw ddim yn mynd yn ddigon pell - rhaid cael embargo economaidd llwyr ar Rwsia, tebyg i'r hyn sydd wedi cael ei roi yn y gorffennol ar Iran a Gogledd Corea.
"Dyna'r fath o bolisi a fyddai'n parlysu Rwsia a'i heconomi ac a fyddai'n newid y sefyllfa yn yr achos yma - rhaid i hynny gynnwys dod 芒 diwedd i fewnforio olew a nwy."
Yn gynharach fe wnaeth Stephen Kinnock, AS Aberafan alw ar y Deyrnas Unedig i lacio rheolau fisa ar gyfer pobl o Wcr谩in sydd am ffoi yma.
"Mae angen iddyn nhw gael statws preswylwyr yn syth," ychwanegodd Mr Price.
"Rhaid i ni eu trin fel pobl sy'n ffoi rhag rhyfel gan eu croesawu wrth iddyn nhw wynebu sefyllfa hynod o ddifrifol.
"Mae gen i ffrindiau yn Kyiv a'r prynhawn 'ma mewn sgwrs eu neges i bobl Cymru oedd na ddylid ofni Putin. Ry'n am i chi uno gyda ni. Fe allwn oresgyn Putin a'i atal nid dim ond yn Wcr谩in ond yn Rwsia hefyd."
Y siaradwyr eraill yn y rali nos Lun oedd Mick Antoniw AS sydd hefyd newydd ddychwelyd o Wcr谩in, Jill Evans o CND Cymru a Shavanah Taj o TUC Cymru.
Yn ei anerchiad dywedodd Mr Antoniw, sydd 芒 chysylltiad teuluol ag Wcr谩in: "Mae Cymru yn falch o fod yn genedl noddfa.
"Mae'r camau i sicrhau bod ffoaduriaid yn cael dod i Gymru a'r DU yn annerbyniol. Dwi'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all.
"Mae yna ddicter o gwmpas y byd wrth i bobl sylweddoli beth sy'n digwydd," ychwanegodd.
Yn gynharach fe ddywedodd llefarydd ar ran Senedd Cymru: "Oherwydd y sefyllfa yn Wcr谩in, ni fydd y digwyddiad G诺yl Ddewi yn mynd rhagddo yn y Senedd ddydd Mawrth.
"Parhawn i feddwl am bobl Wcr谩in ar yr adeg anodd hon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022