Arian ychwanegol i'r Urdd sy'n dal i deimlo effaith Covid
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yr Urdd yn derbyn arian ychwanegol gan y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, wrth i'r mudiad barhau i deimlo effaith y pandemig.
Dywedodd yr Urdd wrth 大象传媒 Cymru Fyw ei fod wedi llwyddo i beidio "bod yn rhy ddibynnol ar gyllid cyhoeddus" ar hyd y blynyddoedd, ond bod y pandemig wedi arwain at "golled incwm sylweddol".
Ar Ddydd G诺yl Dewi, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru 拢1.2m yn ychwanegol i'r mudiad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae hyn ar ben y 拢527,000 gan y llywodraeth i sicrhau mynediad i Eisteddfod yr Urdd eleni a'r 拢1.3m ychwanegol i helpu'r mudiad ieuenctid greu 60 o swyddi newydd.
Dywedodd yr Urdd ei fod yn ddiolchgar i'r llywodraeth am y gefnogaeth.
'Colled incwm sylweddol'
Dywedodd yr Urdd yn 2020 ei fod wedi colli bron i hanner ei staff oherwydd y pandemig.
Gofynnodd 大象传媒 Cymru Fyw pryd mae'r Urdd yn rhagweld y bydd ei incwm yn codi'n ddigonol fel na fydd angen dibynnu ar arian y llywodraeth - ond doedd y mudiad ddim am wneud sylw.
Wrth ymateb i'r arian ychwanegol ddydd Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran y mudiad nad oedd yn rhaid dibynnu'n ormodol ar arian cyhoeddus cyn y pandemig, ond bod y sefyllfa wedi newid.
"Ers blynyddoedd, mae'r Urdd wedi ymdrechu a llwyddo i gynhyrchu ei incwm ei hun, heb fod yn rhy ddibynnol ar gyllid cyhoeddus, a cyn Covid-19 roedd ein model busnes yn gryf.
"Ond o ganlyniad i'r pandemig, bu'n rhaid cau ein gwersylloedd i breswylwyr, a daeth ein gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol i stop, a arweiniodd at golled incwm sylweddol," ychwanegodd.
Dywedodd y llefarydd bod y mudiad yn "hynod ddiolchgar i'r llywodraeth am eu cefnogaeth" ac am "helpu'r mudiad i ddechrau ar y gwaith ail-adeiladu ar 么l cyfnod hynod anodd yn sgil Covid".
Dywedodd y bydd y gefnogaeth ariannol ychwanegol yn galluogi'r Urdd i barhau i gynnal gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru yn dilyn effaith Covid-19 ar y sefydliad.
Yn 么l Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bydd y cyllid ychwanegol yn "cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu yn yr Urdd ledled Cymru" ac yn ehangu cynllun prentisiaethau'r Urdd mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn bwysig hefyd, boed hynny'n cystadlu yn gelfyddydol neu mewn chwaraeon, neu ymweld 芒'r Eisteddfod," ychwanegodd.
"Rwy'n falch, felly, o roi cymorth i'r Urdd dros y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt allu parhau 芒'r gwaith arbennig o agor drysau a rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc.
"Bydd yr holl weithgareddau hyn yn helpu i ni gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050."
Yn ogystal 芒'r arian ychwanegol i'r Urdd, fe gyhoeddodd y gweinidog enwau 11 prosiect ar hyd Cymru fel y cam nesaf i gynlluniau iaith Gymraeg.
Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd y bydd tua 900 o leoedd yn cael eu creu mewn ysgolion ledled Cymru a thua 300 mewn canolfannau trochi.
Cafodd y gronfa gwerth 拢30m ei chyhoeddi llynedd.
Ysgolion yw mwyafrif y prosiectau, gyda'r arian yn mynd i naw ardal yng Nghymru.
Pa ysgolion a phrosiectau sy'n elwa o'r arian?
Bydd Ysgol I D Hooson, Wrecsam yn derbyn 拢6.3m, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ceredigion yn cael 拢5.7m ac Ysgol y Strade, Llanelli yn derbyn 拢4.4m i ehangu lleoedd eu canolfan trochi a chynyddu capasiti'r disgyblion i 1,500.
Mae disgwyl i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gael ei sefydlu i dros 200 o ddisgyblion ym Mwcle, Sir y Fflint - a 拢5.6m o'r gronfa yn cael ei gyfrannu tuag at hynny.
Bydd ysgol gynradd egin ar gyfer Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn 拢3.25m ac Ysgol Caer Elen, Sir Benfro yn cael 拢2.5m.
Bydd swm o 拢1.875m yn mynd tuag at gynyddu capasiti ysgolion yng Ngwynedd o fewn "ardaloedd o arwyddoc芒d ieithyddol" - sef Llanllechid, Penygroes a Chwilog. Bydd 拢1.15m yn mynd tuag at Ganolfannau Iaith yng Ngwynedd hefyd.
Bydd Ysgol y Creuddyn, Conwy, yn derbyn 拢914,000, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr yn cael 拢270,000 ac Ysgol Bro Edern, Caerdydd yn derbyn 拢100,000.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021