大象传媒

Galw am incwm sylfaenol i weithwyr llawrydd celfyddydol

  • Cyhoeddwyd
Steffan Lloyd OwenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Steffan Lloyd Owen wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt

Dylai Cymru edrych ar efelychu Iwerddon a threialu cynllun incwm sylfaenol i weithwyr llawrydd yn y celfyddydau, yn 么l adroddiad diweddar i effaith y pandemig ar y diwydiant.

Dywedodd Llawryddion Celfyddydol Cymru fod un o bob pedwar dal ddim yn si诺r a oes ganddyn nhw ddyfodol yn y maes, a hynny wedi i'r ddwy flynedd ddiwethaf gael effaith sylweddol ar swyddi a chyflogau yn y sector.

Un syniad posib, medden nhw, fyddai profi cynllun o lefel incwm sylfaenol wedi ei warantu am gyfnod.

Byddai'n dilyn llwybr debyg i gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru'n ar gyfer y rheiny sy'n gadael y sector gofal.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod eisoes wedi rhoi dros 拢108 miliwn i helpu'r celfyddydau yn ystod Covid drwy eu Cronfa Adfer Diwylliannol, a'u bod yn "gweithio ar Adduned i Weithwyr Llawrydd" wrth symud tu hwnt i'r pandemig.

'Dim cyfleoedd ar gael'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Steffan wedi dilyn ei dad i'r diwydiant adeiladu

Cyn i'r pandemig daro roedd Steffan Lloyd Owen o Bentre Berw, Ynys M么n yn paratoi i raddio o'r Royal Northern College of Music ym Manceinion, ac eisoes yn dechrau gwneud enw i'w hun fel canwr bariton.

Ond er i'r cyfnodau clo effeithio ar bawb yn y byd perfformio, mae'n teimlo mai'r rheiny yn ei sefyllfa ef, oedd megis dechrau ar eu gyrfaoedd, oedd wedyn yn cael eu gadael ar 么l pan oedd pethau'n ailagor.

"Doedd 'na ddim cyfleoedd ar gael o gwbl, felly'r cyfleoedd fysa wedi bod heb y pandemig, doedd na'm byd yna i fi. O'n i dipyn bach in denial - yn meddwl, 'na, neith o ddod', ond 'naeth o byth ddod," meddai.

Fe wnaeth amgylchiadau'r pandemig olygu canslo cyngherddau a chyfleoedd i berfformio gyda phobl fel Syr Bryn Terfel, cyfleoedd mae Steffan yn cyfaddef sydd ddim yn dod yn aml i unrhyw ganwr.

Ac er mwyn sicrhau incwm fwy cyson, mae wedi dilyn ei dad i'r diwydiant adeiladu.

"'Swn i'n deud c'lwydda os 'swn i'n deud bo' fi ddim 'di meddwl cael bach o newid gyrfa," cyfaddefodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steffan wrth ei waith bob dydd

"Dwi wedi bod yn sbio ar bethau eraill, pethau do'n i'm meddwl 'swn i byth yn 'neud os oedd y pandemig ddim 'di digwydd - yn sicr do'n i'm yn meddwl fyswn i'n adeiladu waliau!

"Mae gen i waith yn dod fyny yn y maes canu felly dwi'n gobeithio neith hynna snowball-io a fydd gennai fwy o waith yn y dyfodol."

Troi at ffyrlo

Yn 么l Llawryddion Celfyddydol Cymru mae tua 8,500 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru, gan gynrychioli tua 50% o'r sector.

Fe wnaeth eu hadroddiad diweddaraf ganfod bod hanner y rheiny wedi colli 80% o'u gwaith yn ystod y pandemig, a 91% wedi gorfod troi at gynlluniau cymorth fel ffyrlo a grantiau eraill.

Er fod pethau wedi gwella rywfaint yn y flwyddyn ddiwethaf, mae eu hincwm dal 59% yn is ar gyfartaledd nag yr oedd cyn y pandemig, gyda chwarter ohonynt yn dweud eu bod nhw dal ddim yn si诺r a oes ganddyn nhw ddyfodol yn y diwydiant.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae galwad am fwy o gymorth i'r sector oddi wrth y llywodraeth a chyrff fel y Cyngor Celfyddydau, gwella amrywiaeth a chynwysoldeb, a dosbarthu cyllid yn decach ar draws Cymru.

Un o'r rhai mwyaf trawiadol yw galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu rhyw fath o gynllun Incwm Sylfaenol Cyffredinol, fel y mae llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer artistiaid o fis Mawrth eleni.

'Mwy o ryddid i weithio'

"Pan oeddan ni'n siarad i gymaint o lawryddion roedden nhw i gyd yn s么n am ba mor ansicr ydi'r gwaith," meddai'r actor a chyfarwyddwr Steffan Donnelly, un o awduron yr adroddiad.

"Felly mae hwn yn ffordd i ystyried sut allwn ni gael rhyw fath o waelod linell, sydd hefyd yn golygu bod gan lawryddion fwy o ryddid i weithio o fewn eu cymunedau nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steffan Donnelly oedd un o awduron yr adroddiad

"Dwi'n meddwl 'sa fo'n ddiddorol gweld r诺an, gan fod 'na gymaint o s么n am hyn, sut fedrwn ni ddatblygu ac esblygu y math o syniada' yma i mewn i'n sector ni."

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun prawf yn ddiweddar ar gyfer incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael y sector gofal, gyda 拢1,600 y mis yn cael ei roi dros gyfnod o ddwy flynedd i'r rheiny sy'n gymwys.

'Camgymeriad'

Ond yn 么l yr Aelod Senedd Ceidwadol Tom Giffard, llefarydd y blaid ar ddiwylliant, camgymeriad yw cynllun o'r fath ac ni fyddai'n gweithio yn y sector celfyddydau chwaith.

"Dy'n ni'n gwybod ble mae hwn wedi cael ei brofi dros y byd, dyw hwn ddim yn meddwl bod pobl yn mynd mewn i waith," meddai.

"Felly beth ry'n ni mo'yn gweld yw bod ni'n dod mas o'r pandemig nawr a bod mwy o bobl yn mynd i weld sioeau a beth bynnag - dyna'r ffordd 'dyn ni eisiau gweld y sector yma yn cael mwy o arian yn mynd mewn iddo fe."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Camgymeriad" yw cynllun o'r fath, yn 么l Tom Giffard

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "sefydlu cronfa bwrpasol i gefnogi gweithwyr llawrydd", yn ogystal 芒 拢108m o'u Cronfa Adfer Diwylliannol "i gefnogi'r sector ehangach yn ystod y pandemig".

"Mae hyn nid yn unig yn helpu llawer yn y sector i ymateb i'r heriau y mae'r coronafeirws wedi'u rhoi arnynt, ond mae hefyd yn gyfle unigryw i sicrhau newid sylweddol wrth gyflwyno contract diwylliannol sydd 芒 gwaith teg, cyflog a chynaliadwyedd wrth wraidd hynny," meddai.

"Rydym yn gweithio ar Adduned i Weithwyr Llawrydd - y cyntaf o'i fath yn y DU - bydd hyn yn ailddatgan ein hymrwymiad i gynnwys y sector creadigol wrth helpu Cymru i wella o bandemig Covid.

"Mae hyn yn gyfle i weithwyr llawrydd creadigol a gwasanaethau cyhoeddus greu partneriaeth, ac i weithwyr llawrydd ddefnyddio eu sgiliau i ddod 芒 chreadigrwydd a dychymyg i bob agwedd ar fywyd cyhoeddus."

Ychwanegodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad "gafaelgar a chynhwysfawr".

"Rydym yn ddiolchgar am y gydnabyddiaeth o gyllid brys a dderbyniwyd oddi wrthym ni a Llywodraeth Cymru ac rydym yn ymrwymo'n llwyr i weithio gyda Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru i fynd i'r afael 芒'r heriau a'r materion a nodwyd yn yr adroddiad," meddai llefarydd.

"Y peth pwysig i ni fel Cyngor y Celfyddydau nawr yw nodi cyfleoedd i gydweithio er mwyn dod o hyd i'r ffyrdd mwyaf priodol ac effeithiol o fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad."

Pynciau cysylltiedig