大象传媒

Cynnal sawl digwyddiad ledled Cymru i gefnogi Wcr谩in

  • Cyhoeddwyd
Llangefni
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 150 o bobl i'r digwyddiad yng nghanol Llangefni

Mae sawl digwyddiad wedi cael eu cynnal ledled Cymru nos Iau er mwyn dangos cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y rhyfel yn Wcr谩in.

Cynhaliwyd gwylnos yn Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, tra bod rali wedi'i chynnal yn Llangefni ar Ynys M么n.

Roedd yr wylnos yng Nghaerdydd wedi'i threfnu gan Esgobaeth Llandaf, ac un o'r rheiny fu'n cymryd rhan oedd y Parchedig Dyfrig Lloyd, ficer Eglwys Dewi Sant.

"Rwy'n credu ein bod ni gyd yma yng Nghymru yn teimlo yn weddol ddiymadferth, moyn helpu ond methu helpu, ac un o'r ffyrdd ru'n ni'n gallu helpu yw trwy wedd茂o," meddai ar raglen y Post Prynhawn yn gynharach.

"Mae pob gwrthdystiad, gwylnos, pob ymdrech i godi arian a chasglu nwyddau yn un cam yn nes o fynegi ein llais at y lled fyddarol byd eang sy'n galw am ddiwedd i'r rhyfel hwn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth nifer o bobl ynghyd yn Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ynys M么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Baneri Cymru a Wcr谩in yn hedfan ochr yn ochr uwchben swyddfeydd Cyngor M么n

Daeth tua 150 o bobl i'r digwyddiad yng nghanol Llangefni, ble fu'r Aelod Senedd lleol ac arweinydd y cyngor yn annerch y dorf.

"'Dan ni yma i ddangos undod a chryfder gyda phobl Wcr谩in," meddai Rhun ap Iorwerth AS.

"'Dan ni'n sefyll ynghyd fel cymuned yn condemnio'r gweithredoedd ffiaidd [gan Rwsia].

"Rydym yn meddwl am y mamau a'r anwyliaid - nid rhai lluoedd Wcr谩in yn unig ond Rwsia hefyd. Dydy [Vladimir] Putin yn poeni dim amdanyn nhw.

"Rydyn ni'n gobeithio ac yn gwedd茂o am ddiwedd ar y rhyfel fel y gall gwlad fyw mewn heddwch."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod dros filiwn o bobl wedi ffoi o Wcr谩in ers dechrau'r brwydro

Ychwanegodd y Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor M么n: "Mae hwn yn gyfnod erchyll i bobl Wcr谩in ac rydym yn condemnio'r trais hwn gan Rwsia nad oes modd ei gyfiawnhau.

"Mae baneri Cymru a Wcr谩in bellach yn hedfan ochr yn ochr uwchben swyddfeydd y cyngor yn Llangefni.

"Mae'n rhywbeth bach ond mae'n arwydd ein bod yn sefyll ochr yn ochr ag Wcr谩in ac ein bod yn cydnabod yr hyn mae'r wlad a'i phobl yn ei ddioddef ar hyn o bryd.

"Rydym ni gyd yn gobeithio gweld diwedd yr elyniaeth cyn gynted 芒 phosibl a datrysiad heddychlon."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywodraeth Wcr谩in sy'n dal i reoli Kyiv, ond mae lluoedd Rwsia yn nes谩u at y brifddinas

Mae Anne Arkle - fu'n mynychu'r rali yn Llangefni - yn creu gemwaith, ac fe fydd hi'n rhoi 拢5 o bob gwerthiant fis yma tuag at elusennau sy'n rhoi cymorth i bobl Wcr谩in.

"'Dan ni i gyd yn teimlo fel nad oes unrhyw beth allwn ni ei wneud i helpu, yn dydyn?" meddai.

"Oll allwn ni geisio ei wneud ydy codi arian i helpu pobl.

"Alla i ddim dychmygu sut beth ydy hi i orfod gadael popeth ar 么l - mae'n ofnadwy."

Pynciau cysylltiedig