大象传媒

Cymru'n codi 拢6.5m i ap锚l ddyngarol Wcr谩in

  • Cyhoeddwyd
Gwylnos ar risiau'r Senedd ddydd Sul 6 Mawrth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pobl yn dangos undod ag Wcr谩in ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd brynhawn Sul

Mae Cymru wedi cyfrannu bron i 拢6.5m yn y pedwar diwrnod cyntaf ers lansiad Ap锚l Ddyngarol Wcr谩in y pwyllgor argyfyngau DEC.

Bydd yr arian - sy'n cynnwys rhodd o 拢4m gan Lywodraeth Cymru - yn cael ei ddefnyddio i brynu cyflenwadau fel citiau meddygol, pebyll, blancedi, a pharseli bwyd brys.

Daw'r ymgyrch i gasglu arian yn sgil ymosodiadau ffyrnig gan Rwsia ar Wcr谩in, gydag 1.5m o bobl yn ffoi o'r wlad mewn dyddiau.

"Mae'r don anhygoel o gefnogaeth tuag at bobl sy'n ffoi o'r gwrthdaro wedi golygu ein bod ni wedi gallu dechrau gwario arian yn syth bin a helpu mwy o bobl," meddai Melanie Simmonds, Cadeirydd DEC Cymru.

Mae'r Urdd yn dweud eu bod nhw mewn trafodaethau gydag awdurdodau perthnasol am gartrefu ffoaduriaid o Wcr谩in - fel y gwnaethon nhw gyda phobl o Afghanistan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Melanie Simmonds fod ymateb pobl Cymru wedi bod yn "anhygoel"

Mae hyd at 500 o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i gludo mynydd o nwyddau a roddwyd i warysau yn Wrecsam.

Ond mae elusennau ar lawr gwlad bellach yn "annog pobl i ddangos eu cefnogaeth trwy roddion ariannol yn hytrach na thrwy roi nwyddau sydd, er yn ystyrlon, yn aml ddim yn cyfateb i anghenion pobl ac sy'n ddrud i'w cludo".

Dywedodd pennaeth Oxfam Cymru, Sarah Rees ei bod yn "hynod ddiolchgar i bobl Cymru sydd wedi rhoi cymaint yn barod".

"Mae'n swm gwych o arian sydd yn mynd i fod yn helpu bobl sydd ei angen," meddai wrth 大象传媒 Radio Wales Breakfast.

'Pawb gyda'i gilydd'

Mae'r Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwyliaid yn Wrecsam wedi bod yn casglu nwyddau a roddwyd o gyn belled i ffwrdd 芒 Llundain, Ynys Manaw a'r Alban yn dilyn ap锚l ar Facebook.

Dywedodd y cyfarwyddwr Anna Buckley eu bod yn gweithio gyda llywodraeth Gwlad Pwyl ar sut i anfon yr holl roddion i ffin Wcrain - mewn lori ac o bosib trwy gludo nwyddau awyr.

"Mae gennym ni Rwsiaid a ddaeth i'n helpu ni, Ukrainians a ddaeth i'n helpu ni, felly pawb gyda'i gilydd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Treuliodd gwirfoddolwyr yn Wrecsam y penwythnos yn didoli eitemau a roddwyd i bobl Wcr谩in

Mae ffrindiau o Sir Ddinbych wedi mynd ati i brynu cerbyd 4x4 yn arbennig i fynd 芒 nwyddau yn uniongyrchol i ffin Wcr谩in yn ddiweddarach yn yr wythnos.

"'De ni'n gobeithio gadael bore dydd Gwener a gadael y cerbyd jysd tu fewn i Wcr谩in hwyr nos Sadwrn a trio ffeindio ffor' yn 么l wedyn i Krakow a hedfan adra erbyn dydd Sul," meddai Ll欧r Jones - a fydd yn un o'r gyrwyr - wrth Dros Frecwast.

"O'n i'n gwylio be o'dd yn digwydd ar Twitter ffermwr [yn Wcr谩in] a oedden nhw'n d'eud bod nhw angan cerbyda' 4x4 i helpu a wedyn dyma Elen yn ffonio i dd'eud bod arian ar 么l o'r hen elusen."

Disgrifiad,

Mae Ll欧r Jones yn bwriadu gyrru i ddwyrain Ewrop i helpu pobl Wcr谩in ddiwedd yr wythnos

Roedd ei ffrind Elen Lloyd yn un o'r rhai sefydlodd elusen tua 15 o flynyddoedd yn 么l i helpu plant yn Affrica yn bennaf.

Ond erbyn hyn dywed fod yr arian dros ben wedi ei roi tuag at brynu'r 4x4 a fydd yn cynorthwyo'r ymateb dyngarol yn nwyrain Ewrop.

"Does 'na neb arall yn y byd ei angen o fwy na Wcr谩in ar hyn o bryd," meddai Elen Lloyd.

Pynciau cysylltiedig