大象传媒

Ffoaduriaid yn Abertawe am weld 'llwybrau diogel' i eraill

  • Cyhoeddwyd
ffoaduriaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 500 o bobl wedi marw yn y gwrthdaro yn Wcr谩in hyd yma, medd y Cenhedloedd Unedig

Mae angen sicrhau llwybrau diogel i'r rhai sy'n ffoi o Wcr谩in a rhyfeloedd ar draws y byd, medd gr诺p o ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe.

Maen nhw wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn datgan eu pryder am y sefyllfa.

Eu gobaith yw perswadio ASau i wrthwynebu'r Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau sy'n rhan o gynllun mewnfudo newydd Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cael gwared ar yr angen am fisas i ffoaduriaid er gwaethaf y rhyfel yn Wcr谩in, gan ddweud ei fod hynny oherwydd rhesymau diogelwch.

Mae wedi addo cyflwyno cynllun yr wythnos hon ble y bydd modd i unigolion neu sefydliadau noddi ffoaduriaid i ddod i'r DU.

'Ddim yn ffoadur trwy siawns'

Un o'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr yw Jose Cifuentes.

Cyrhaeddodd Abertawe yn 1977 gyda'i wraig a'i ferch fach blwydd oed ar 么l ffoi o Chile yn ystod cyfnod Augusto Pinochet.

Mae Mr Cifuentes a nifer o ffoaduriaid eraill, sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe o wledydd fel Twrci a'r Aifft, yn ofni y gallai'r mesur dadleuol Cenedligrwydd a Ffiniau rwystro ffoaduriaid rhag cyrraedd yma - gan gynnwys y rhai sydd yn ffoi o'r rhyfel yn Wcr谩in.

Bu'n rhaid i Mr Cifuentes ddianc ar 么l cael ei garcharu a'i arteithio am helpu pobl oedd yn ddigartref yn y wlad.

Ers cyrraedd Abertawe mae wedi bod yn helpu pobl eraill sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi oherwydd rhyfel neu erledigaeth, ac mae'n un o arweinwyr gr诺p Dinas Noddfa yn Abertawe.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maria Cristina a Jose Cifuentes wedi bod yn byw yn Abertawe ers degau o flynyddoedd

"Mae fy nghalon yn gwaedu dros bobl Wcr谩in... dros famau a phlant sy' wedi eu gwahanu yn groes i'w hewyllys," meddai.

"Dylai neb orfod diodde' hyn. Dim ond pobl sy 'di bod trwy hyn fydd yn deall pa mor erchyll yw'r profiad.

"Rwy'n teimlo fod Wcr谩in nawr yn ddarlun o argyfwng a stori ffoaduriaid ymhobman dros y blynyddoedd.

"Mae amgylchiadau economaidd a gwleidyddol yn aml yn gorfodi pobl i ffoi i amddiffyn eu bywydau nhw eu hunain a'u teuluoedd. Dydych chi ddim yn dod yn ffoadur trwy siawns."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Jose Cifuentes a'i deulu ffoi i Abertawe o Chile yn 1977

Dywed Jose Cifuentes fod Abertawe yn enghraifft o ddinas sydd wedi croesawu pobl o wledydd dros y byd ar hyd y canrifoedd a hon oedd dinas noddfa gyntaf Cymru.

Mae hynny'n golygu ei bod hi'n ddinas sy'n ceisio croesawu a chynnig noddfa i'r rheini sy'n ffoi rhag rhyfel, trais neu erledigaeth ac sy'n cefnogi ac yn cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Rhannu profiad

Mae nifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gweithio yn siop lyfrau Oxfam yn y ddinas.

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr yno, Bethan Havard: "'Sdim syniad gyda ni beth mae ffoaduriaid wedi mynd trwyddo cyn dod i Gymru.

"Maen nhw yn dod gyda dim ond y pethe ma' nhw yn gallu cario - mae'n anhygoel, hyd yn oed, i feddwl am beth maen nhw wedi mynd trwyddo.

"Pan maen nhw yn dod i'r siop maen nhw'n edrych am rhywle i siarad 芒 phobl eraill sy' wedi bod trwyddo r'wbeth tebyg i beth maen nhw wedi wynebu, ac maen nhw am ddysgu'r iaith, er mwyn trio cael swydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bethan Havard yn dweud bod ffoaduriaid yn awyddus i siarad 芒 phobl sydd wedi cael profiadau tebyg

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y rhyfel yn Wcr谩in yn "symud yn gyflym ac yn ddarlun cymhleth" gan ychwanegu y byddan nhw'n "adolygu'r sefyllfa yn gyson".

Yn 2017 fe fuodd Bethan Harvard, fel rhan o ddathliadau 75 mlynedd ers sefydlu elusen Oxfam, yn ymweld 芒 ffoaduriaid ac yn gweld gwaith Oxfam mewn gwersylloedd yng ngwlad Groeg.

Mae wedi gweld yr effaith mae rhyfel ac erledigaeth yn ei gael ar deuluoedd, ac mae'n dweud fod y sefyllfa yn Wcr谩in ar hyn o bryd yn torri ei chalon.

"Rwy'n gobeithio bydd popeth yn iawn a bydd Prydain yn rhoi croeso i ffoaduriaid Wcr谩in.

"Hoffwn i feddwl os byddai yr un peth yn digwydd yn Abertawe y gallen ni fynd i wledydd eraill a chael croeso yn fanna. Ond y gwir dyw e ddim fel'na - mae yn flin iawn 'da fi am hynny."

Pynciau cysylltiedig