Wcr谩in: Confoi o lor茂au 芒 nwyddau dyngarol yn gadael Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o lor茂au sy'n llawn nwyddau dyngarol i bobl Wcr谩in wedi gadael Wrecsam brynhawn Sadwrn.
Gadawodd confoi o tua 20 cerbyd o stad ddiwydiannol y dref yn dilyn ymdrechion cymunedol i gasglu nwyddau ac arian i ddioddefwyr y rhyfel.
Aelodau canolfan Bwylaidd PISC yn y dref oedd yn arwain y fenter, a ddenodd tua 1,000 o wirfoddolwyr.
Dywedodd y criw fod y broses wedi bod yn "heriol" ond yn "bleser" gyda galw i godi mwy o arian er mwyn gallu dosbarthu'r holl nwyddau sydd wedi eu casglu.
"I fod yn onest, mae o wedi bod yn heriol, ond dwi'n falch iawn ac mae'n bleser cael cymorth y criw anhygoel sydd yma," meddai Anna Buckley, sy'n rhedeg PISC.
"Mae pobl yma o gefndiroedd gwahanol ac yn gwneud gwaith bendigedig."
Ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn rhoi eu hamser oedd Andrew Farnhill o Wrecsam.
"Dwi wedi bod yn gwneud dipyn o bopeth - pacio, symud pethau, rhoi pethau mewn bocsys," meddai.
"Dwi yma ers wythnos diwethaf, ac ar un pwynt roedd dros 200 o bobl yma yn pacio. Mae'r bobl sydd wedi gwirfoddoli wedi bod yn anhygoel, yn cyfrannu amser ac egni, o ben bore tan naw o'r gloch y nos."
Daeth Sue Dawson i helpu o'r Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dweud bod y warws ar adegau yn "wallgof".
Penderfynodd wirfoddoli wedi iddi weld delweddau o'r rhyfel ar ei theledu.
"Yn lle eistedd yn teimlo'n isel a diobaith, ro'n i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol a chorfforol i helpu," meddai.
Un sy'n rhan o'r confoi yw'r gyrrwr lori Konrad Barszcz, sy'n dod o Rzeszow yn nwyrain Gwlad Pwyl.
Mae'r ddinas honno'n eithaf agos at Wcrain, a dywedodd ei fod wedi gweld nifer o ffoaduriaid yn cyrraedd.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer pobl Wcrain," meddai, gan ychwanegu ei fod "ychydig yn nerfus" o deithio mewn confoi am y tro cyntaf.
"Roedd llwyth o bobl yma neithiwr yn llwytho'r lor茂au, ac mae'r bobl leol wedi gwneud yn wych. Dwi'n teimlo'n falch."
Mae disgwyl y bydd sawl lori arall yn gadael yr ardal yn y dyddiau nesaf gan fod gan Ms Buckley a'i th卯m lawer o focsys yn barod i fynd mewn sawl warws.
Dywedodd mai'r flaenoriaeth nawr yw codi mwy o arian.
"Mae un lori yn costio tua 拢2,000," meddai. "'Dan ni angen codi tua 拢50,000 arall i ddanfon be' sydd gennym ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022