大象传媒

Sut i arbed arian wrth i gostau byw gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Gwion DafyddFfynhonnell y llun, Gwion Dafydd

Wrth i gostau byw gynyddu mae mwy o bobl yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ac felly mae negodi a ffeindio'r fargen orau yn bwysicach fyth.

Fel rhan o gyfres costau byw ar Cymru Fyw, dyma Gwion Dafydd, neu @GwionCardi ar Twitter, yn rhannu peth o'i gyngor arbed arian.

Mae Gwion yn ymddiddori mewn cyllid personol a'n defnyddio ei sgiliau i helpu pobl i negodi costau biliau. Mae'n byw yn Nhalgarreg, Ceredigion gyda'i wraig Elin a'u merch fach Martha.

Ffonau symudol

Os chi'n talu dros 拢10 y mis, chi'n talu gormod. Yn dibynnu ar faint o ddata chi'n defnyddio, gallwch gael cytundeb sy' ond tua 拢6 y mis. Ewch ar-lein i weld ble mae'r dd锚l orau ac wedyn ffoniwch eich cwmni presennol i fygwth gadael gan nodi'r dd锚l gorau i chi weld. Mwy na thebyg 'newn nhw gynnig d锚l tipyn gwell i chi.

Nwy a thrydan

Yn amlwg mae prisiau wedi codi'n sylweddol yn ddiweddar ac maen nhw'n debyg o godi eto yn y flwyddyn nesaf. Nid oes unrhyw gytundebau t芒l penodol (fixedprice deals) synhwyrol ar gael felly mae'n debygol mai aros gyda'ch cwmni presennol sydd orau am nawr. Ond cadwch lygad ar y newyddion a'r gwefannau cymharu fel eich bod yn barod i symud cyflenwr pan ddaw'r cyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Arian yn 么l

Mae sawl gwefan cashback ar gael, megis Quidco, TopCashback a Boom 25, sy'n rhoi peth arian yn 么l i chi am siopa'n arferol. Felly os yn prynu rhywbeth ar y we, o bot o jam i grys newydd i wyliau tramor, gwiriwch a yw'r wefan chi am ddefnyddio wedi ei restru ar y wefan cashback. Wedyn caiff eich pryniant ei dracio a gewch chi beth arian yn 么l am wneud bron dim yn wahanol!

Gwerthu nwyddau

Os oes pethau gyda chi yn y t欧 sy' ddim eu hangen mwyach, neu hyd yn oed anrhegion heb eu hagor, beth am eu gwerthu ar-lein? Mae gwefannau ocsiwn fel arfer yn codi t芒l comisiwn ond ewch i Gumtree neu Facebook Marketplace a does dim cost, a gallant werthu tipyn cynt hefyd. Byddwch yn wyliadwrus wrth gwrs, yn enwedig os yw rhywun yn eich holi i dalu am gludiant i rywle, gan fod achosion felly wedi codi fwyfwy yn ddiweddar.

Inc

Gyda mwy ohonom yn gweithio o adref, mae mwy yn defnyddio argraffwyr cartref a gall inc fod yn ddrud iawn. Ond fel arfer nid oes rhaid defnyddio inc swyddogol yn eich argraffydd. Ewch i chwilio am inc sy'n cyd-fynd gyda'ch argaffydd, ac er falle daw rhybudd i fyny pan yn ei roi mewn y tro cyntaf, ni fydd yn effeithio ar safon yr argaffu o gwbl.

Symud banc

Os chi'n gwneud tipyn o fancio ar-lein efallai nad yw'n bwysig i chi gael banc yn lleol, ac wrth gwrs mewn rhai ardaloedd yng Nghymru nid oes un ar gael beth bynnag. Felly beth am newid banc? Mae nifer yn talu dros 拢100 i chi am wneud. Mae'n cymryd tua wythnos fel arfer i hyn ddigwydd a bydd angen gwirio'r telerau, ond arian am ddim yw hwn yn y b么n.

Ffynhonnell y llun, PA

Persawr

Mae'n gallu bod yn ddrud iawn yn siopau'r stryd fawr i brynu unrhyw bersawr i ddynion neu menywod. Os ewch chi i wefan ocsiwn, serch hynny, gallwch arbed tipyn! Gwnewch yn si诺r eich bod yn mynd am rhywbeth newydd sbon wrth gwrs, a chofiwch wirio adborth y gwerthwr. Ac mae'n bosib hefyd cael poteli tipyn mwy o faint, neith bara tipyn hirach.

Gwyliau tramor

Falle eich bod yn meddwl mynd ar wyliau tramor eleni am y tro cyntaf ers sbel fach. Y mwyaf hyblyg yw'ch dyddiadau, gorau gyd. Yn wir, mae'n rhatach hedfan ar ddyddiau penodol o'r wythnos, ac mae'n amrywio o faes awyr i faes awyr. Felly cofiwch wneud eich ymchwil cyn bwcio'r tocyn terfynol yna!

Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.

Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?

Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk

Pynciau cysylltiedig