拢214m i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd wrth i Gymru droi'n wlypach
- Cyhoeddwyd
Taclo "gorbryder hinsawdd" yw un cymhelliad ar gyfer clustnodi mwy o gyllid nac erioed o'r blaen ar amddiffynfeydd llifogydd, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James AS bod angen i gymunedau deimlo'n ddiogel yn wyneb y cynnydd mewn tywydd eithafol.
Mae'r llywodraeth yn bwriadu gwario 拢214m yn ystod y tair blynedd nesaf ar ei "rhaglen lifogydd fwyaf erioed".
Ond yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig dyw'r mesurau ddim yn mynd yn ddigon pell.
Mae Cymru - sydd eisoes yn adnabyddus am gawodydd cyson wrth gwrs - yn mynd yn lle gwlypach.
Fe gymharodd dadansoddiad diweddar gan y Swyddfa Dywydd dau gyfnod 30 mlynedd o hyd (1961-1990 a 1991-2020) gan ganfod bod glawiad blynyddol wedi cynyddu dros 10% mewn rhannau o'r wlad.
Mae lefel y m么r hefyd yn codi wrth i gefnforoedd y byd gynhesu, gan waethygu'r risg o lifogydd arfordirol ac erydiad.
Ym mis Chwefror, ddyddiau cyn i gyfres o stormydd garw daro'r wlad, fe rybuddiodd y rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru bod llifogydd fyddai'n torri record yn mynd i ddod yn "realiti newydd" i gymunedau.
Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd Ms James bod y rhaglen llifogydd newydd yn anelu i "wneud i bobl deimlo bod gennym ni gynllun ar gyfer y dyfodol sy'n golygu nad oes rhaid iddyn nhw bryderu".
"Ry'n ni'n gweld cyfnodau lle mae'r llanw yn uchel ofnadwy, mwy o stormydd gwael felly mae'n rhaid i ni sicrhau o ddifri bod gennym ni amddiffynfeydd llifogydd da fel nad yw pobl yn wynebu risg cyson yn eu tai a'u busnesau a bod modd parhau i fyw a gweithio yn ein dinasoedd arfordirol."
Mae'r rhan fwyaf o brif ardaloedd trefol Cymru wedi'u lleoli ar aberoedd, ychwanegodd.
"Mae gennym ni lot o orbryder hinsawdd yn datblygu ymysg disgyblion ysgol ac ati - a ma' hyn yngl欧n 芒 chyhoeddi iddyn nhw bod 'na bethau y gallwn ni wneud i sicrhau nad ydyn nhw'n teimlo fel 'ny."
Drwy Gymru mae un ym mhob wyth cartref - oddeutu 245,000 o adeiladau - mewn perygl o ddioddef llifogydd.
Mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth yn cynnwys 拢71m o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd newydd y flwyddyn nesaf, gyda'r llywodraeth yn dweud y bydd hyn yn helpu gwerth 14,500 o adeiladau.
Bydd awdurdodau lleol yn medru ceisio am hyd at 拢225,000 yr un o gyllid refeniw ychwanegol hefyd ar gyfer costau eu gwaith atal llifogydd o ddydd i ddydd.
A bydd cyllideb CNC yn cynyddu 拢1.5m.
Wrth werthuso ei ymateb i stormydd mawr 2020, arweiniodd at y llifogydd gwaetha yng Nghymru ers 40 mlynedd, roedd y corff wedi galw am gyllid i gyflogi hyn fyddai'n cyfateb i 60-70 o swyddogion llifogydd llawn amser.
Yn y cyfamser, dywedodd Ms James ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno rheolau cynllunio newydd fyddai'n gorfodi datblygwyr i ystyried heriau newid hinsawdd.
Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno rheolau tebyg oedd fod i ddod i rym ym mis Rhagfyr, ond ar 么l i rai cynghorau gwyno eu bod yn cael eu rhuthro mae hynny wedi newid i Fehefin 2023.
Mae cynnydd mewn buddsoddiad ar gyfer rheoli llifogydd ac erydiad arfordirol yn rhan o gytundeb cydweithio llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Sian Gwenllian AS, aelod dynodedig Plaid Cymru ar gyfer y cytundeb, y byddai'n "gwneud gwahaniaeth bwysig" a'i fod yn ffrwyth cydweithio er mwyn "wynebu'r heriau sylweddol sy'n cael eu hachosi gan yr argyfwng hinsawdd".
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ry'm ni wedi gweld yr effaith gwirioneddol arswydus y gall llifogydd ei gael ar fywydau pobl, ac yn ystod y tair blynedd nesaf ry'm ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn rheoli ac atal llifogydd."
'Angen gwneud llawer mwy'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders MS bod "angen gwneud llawer iawn mwy a chyflwyno polis茂au blaengar".
"Dwi'n poeni na fydd yr arian newydd yma ar gyfer CNC yn mynd yn ddigon pell i ymateb i'r cynnydd yn nyletswyddau'r corff.
"Beth sydd angen ar Gymru yw ymateb sydd wedi'i integreiddio i lifogydd drwy sefydlu Asiantaeth Llifogydd Cenedlaethol allai weithio gyda chymunedau lleol i gydlynu gwaith atal llifogydd yn ogystal ag ymchwiliadau annibynnol i achosion," meddai.
"Tra'i bod hi'n iawn i'r Llywodraeth Lafur daflu arian at broblemau, mae'n ffaith bod angen gwneud llawer iawn yn fwy i wir gymryd newid hinsawdd o ddifri."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021