Eisteddfod 2023: Creu Cadair o goed ddisgynnodd mewn storm
- Cyhoeddwyd
Bydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2023 yn cael ei chreu o goed derw lleol a ddisgynnodd mewn storm.
Daw y coed derw o'r L么n Goed, a blannwyd tua 200 mlynedd yn 么l, ac a anfarwolwyd gan gerdd R Williams Parry, 'Eifionydd'.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi briff ar gyfer cynllunio a chreu'r Gadair, a gyflwynir gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig.
Cafodd ei fagu am ran helaeth o'i blentyndod cynnar yn Iwerddon, ond fe ymgartrefodd yng Ngwynedd.
Mae ei deulu'n awyddus i ddathlu'r cysylltiad yma rhwng Cymru ac Iwerddon wrth gyhoeddi manylion y briff ar 17 Mawrth, sef Dydd San Padrig.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd buddugol greu'r Gadair o goedyn a ddisgynnodd mewn storm tua saith mlynedd yn 么l.
'Dodrefn i'r cartref, a thrawiadol ar lwyfan'
Dywedodd Huw Orwig ar ran y teulu, fod "cael y cyfle i wneud defnydd newydd ac amgen" o'r coedyn yn "apelio'n arw atom ni fel teulu".
"Gyda chymaint o s么n am stormydd yn creu difrod cynyddol i'n cynefinoedd dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n braf meddwl ein bod ni'n gallu defnyddio coedyn a fu'n rhan o lenyddiaeth ein gwlad yng ngherdd R Williams Parry er mwyn anrhydeddu'r bardd buddugol ar lwyfan y Pafiliwn ym mis Awst 2023," meddai.
Mae'r teulu hefyd yn awyddus i weld llechen neu lechi fel rhan o gynllun y Gadair, gan mai un o blant Bro'r Llechi oedd Dafydd Orwig.
Gobaith y teulu hefyd ydy gweld Cadair a fydd fel rhan o ddodrefn arferol y cartref, ond a fydd hefyd yn edrych yn "drawiadol ar lwyfan eang y Brifwyl, gan adlewyrchu urddas y seremon茂au drwy gydol yr wythnos".
Mae'r briff llawn ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd ar gael , gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar 1 Mehefin 2022.
Bydd Tregaron yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni o'r diwedd, ar 么l gorfod gohirio'r 诺yl yno ddwywaith oherwydd y pandemig.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd wedi'i symud i Awst 2023 a'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019