Gwasanaeth digidol am 'gyrraedd cynulleidfaoedd newydd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhai tu cefn i wasanaeth digidol Cymraeg newydd yn dweud mai un o'u prif amcanion fydd denu Cymry Cymraeg nad sydd yn troi at wasanaethau yn yr iaith ar hyn o bryd.
Bydd gwasanaeth newyddion Corgi Cymru yn cael cyllid blynyddol o 拢100,000 oddi wrth Gyngor Llyfrau Cymru - gyda'r un swm yn cael ei roi i wasanaeth .
Mae'n golygu fod nawdd Golwg yn cael ei haneru, gyda'r cwmni yn arfer derbyn 拢200,000 y flwyddyn.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, roedd prif weithredwr dros dro Golwg yn cydnabod ei bod yn anochel y byddai hynny'n cael effaith ac yn golygu llai o adnoddau.
Cwmni Newsquest sydd tu cefn i'r fenter Corgi Cymru, sy'n chwaer gyhoeddiad i 'The National Wales' gafodd ei lansio flwyddyn yn 么l.
Dywedodd Huw Marshall, cyhoeddwr Corgi Cymru, eu bod nhw'n anelu at gynulleidfa newydd.
Mwy o gynnwys fideo
"Mae tirwedd cyfryngau Cymraeg - golwg360, 大象传媒 Cymru Fyw, ac S4C Newyddion - yn bodoli yn barod, meddai Mr Marshall ar Dros Frecwast.
"Ond be ydan ni'n ceisio ei wneud ydy cyrraedd cynulleidfaoedd newydd - Cymry sy' efallai yn gallu siarad Cymraeg a ddim yn defnyddio Cymraeg o ddydd i ddydd... neu heb ei ddefnyddio fo ers gadael yr ysgol.
"Y prif wahaniaeth dwi'n gobeithio fyddwn ni'n gwneud ydy y bydd lot o'n cynnwys ni yn cael ei greu ar ffurf fideo, TikTok, Instagram ac ar lwyfannau mwy traddodiadol fel Twitter a Facebook, ac wrth gwrs bydd gwefan yn eistedd y tu 么l i'r cyfan wedyn."
Ychwanegodd Mr Marshall y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar benodi staff newydd.
Byddai'r cyhoeddiad hefyd yn gallu dibynnu ar gefnogaeth rhwydwaith Newsquest, meddai.
"Yn amlwg, mae gennym ni 么l-troed sylweddol yng Nghymru. Mae gennym ni 15 o deitlau lleol a'r National sy'n deitl cenedlaethol.
"Mae gennym ni dros 50 o newyddiadurwyr ar draws Cymru a nifer o rheiny yn siaradwyr Cymraeg."
Fel rhan o gytundebau newydd y Cyngor Llyfrau, bydd cwmni Golwg hefyd yn cael 拢100,000 y flwyddyn i ddatblygu eu gwasanaethau.
Ond mae hynny 拢100,000 yn llai na'r hyn yr oedd y cwmni yn arfer ei dderbyn.
Dywedodd Owain Schiavone, prif weithredwr dros dro Golwg Cyf, ei bod yn anochel y byddai hynny'n cael effaith ac yn golygu llai o adnoddau.
"Mae'n amlwg yn effeithio tipyn ar gyllideb Golwg ac addasu o ran cynlluniau at y dyfodol," meddai.
"Byddai'n effeithio ar gynlluniau busnes unrhyw gwmni. Bydd yn rhaid torri'r got yn 么l y brethyn yn sgil hyn.
"Ond ar nodyn positif bydd yn gyfle i ni ganolbwyntio ar yr hyn 'de ni yn ei wneud orau, ar ein straeon."
'Byd newyddion yn esblygu'
Ychwanegodd Mr Schiavone: "Mae gennym gynlluniau cyffrous yngl欧n 芒 sut i symud y gwasanaeth i gyfeiriad ychydig yn wahanol, gan ymateb i'r hyn rydym wedi'i ddysgu am y gynulleidfa ers lansio golwg360 yn 2009, yn ogystal 芒'r modd y mae'r byd newyddion wedi esblygu ers hynny.
"Rydym yn hyderus yng ngallu ein t卯m profiadol i barhau i ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd sydd i ddod."
Dywedodd Mr Schiavone, sydd wedi ei benodi dros dro ar 么l ymadawiad Si芒n Powell, ei fod yn disgwyl parhau yn ei swydd tan ddiwedd y flwyddyn.
Byddai hyn, meddai, yn rhoi cyfle am sefydlogrwydd yn sgil unrhyw newidiadau cyn dechrau ar broses y cyfarwyddwyr o chwilio am brif weithredwr parhaol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021