Pryder am effaith datblygiad tai ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun ar gyfer 23 o gartrefi fforddiadwy newydd mewn pentref bach yn Sir Benfro wedi cael ei basio gan bwyllgor cynllunio'r sir, er gwaethaf pryderon y gymuned leol.
Roedd trigolion Eglwyswrw wedi cwyno bod diffyg ymgynghori yngl欧n 芒'r datblygiad newydd gan Gymdeithas Tai Wales and West.
Bydd y safle newydd yn cynnwys pedwar fflat un ystafell wely, tri byngalo un ystafell wely, chwe th欧 dwy ystafell wely, chwe byngalo dwy ystafell wely a phedwar t欧 tair ystafell wely a fydd yn cael eu rhentu i'r gymdeithas dai.
Mae'r datblygiad wedi cael caniat芒d i gael ei adeiladu y drws nesaf i Ysgol Gynradd Eglwyswrw, ger Heol yr Eglwys ar y B4332.
Effaith ar y Gymraeg
Codwyd pryderon hefyd am yr effaith ar y Gymraeg, mewn pentref sydd 芒'r gymuned Gymraeg uchaf yn Sir Benfro, lle mae 63% o bobol yn siarad yr iaith.
Fe wnaeth pobl leol gyfeirio hefyd at ddiffyg cyfleusterau yn y pentref i gynnal tai newydd, gyda'r siop agosaf hanner milltir i ffwrdd ar ffordd brysur heb balmant.
Yn 么l Cymdeithas Tai Wales and West roedd angen mawr am dai fforddiadwy yn yr ardal a byddai "datblygiad tai modern, deniadol" yn "gwella'r pentref."
Nodwyd hefyd fod asesiad o effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn lleol mewn gwirionedd wedi dweud y byddai'n cael effaith gadarnhaol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016