大象传媒

Teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcr谩in

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trafnidiaeth Cymru sy'n darparu'r rhan fwyaf o drenau Cymru

Gall ffoaduriaid o Wcr谩in deithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd ledled Cymru, mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi.

Bwriad y cynllun chwe mis, ar gyfer holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, yw helpu ffoaduriaid tra eu bod yn ymgartrefu.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod "yn gam arall sy'n dangos bod Cymru'n lle diogel ac yn noddfa i'r rhai sydd angen ein help ni".

Gall gwladolion Wcr谩in hawlio teithio am ddim drwy ddangos pasbort Wcr谩in i swyddogion tocynnau a staff mewn gorsafoedd.

'Croeso cynnes'

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae fy neges i bobl Wcr谩in yn glir; mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yng Nghymru.

"Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i bob ffoadur yn gam arall sy'n dangos bod Cymru'n lle diogel ac yn noddfa i'r rhai sydd angen ein help ni.

"Rwyf hefyd yn falch bod Cymru'n bwriadu bod yn arch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcr谩in Llywodraeth y DU, a fydd yn darparu llwybr diogel i bobl ddod i'r DU am hyd at dair blynedd."

Mae'r cynllun yn estyniad ar raglen barhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru.

Ychwanegodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Rydym eisiau gwneud yr hyn a allwn ni i gefnogi pobl Wcr谩in yn eu cyfnod o angen.

"Rydym yn falch o'n henw da am gefnogi grwpiau gyda theithio am ddim, gan gynnwys bod yn rhan o gynllun cenedlaethol Rheilffordd i Loches sy'n cynnig teithio am ddim i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, a chynnig teithiau tr锚n am ddim i weithwyr y GIG yn ystod 2020.

"Dyma ymestyn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ymhellach, a helpu i wneud y byd yn lle gwell."

Pynciau cysylltiedig