Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 21-22 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ddiweddglo dramatig yng Nghaerdydd wrth i'r Eidal gau'r drws ar rediad o 36 g锚m Chwe Gwlad heb ennill.
Yn ystod eiliadau ola'r gem, llwyddodd rhediad chwim Ange Capuozzo lawr yr asgell dde i ddarganfod Edoardo Padovani i lorio'r cais buddugol.
Gyda chic ola'r g锚m, ysgogodd drosiad Paolo Garbisi ddathliadau gwyllt ymysg y rheiny mewn glas.
Yn wir, doedd ddim llai na'r oedd yr Eidal yn ei haeddu yn dilyn perfformiad ddi-fflach gan Gymru.
Mae'r canlyniad yn golygu fod yr ymwelwyr wedi llwyddo i ennill eu g锚m gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2015.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mewn hanner cyntaf s芒l o safbwynt Cymru, yr ymwelwyr setlodd fewn i'r g锚m orau.
Sgoriodd Owen Watkin gais wedi symudiad gwych gyda 28 munud ar y cloc, gyda Dan Biggar yn gyfrifol am ychwanegu dau bwynt arall i'r sgorfwrdd.
Ond diolch i bedair cic gosb aeth yr Eidal fewn i'r egwyl yn haeddiannol 12-7 ar y blaen.
Yn wir, fe all mantais yr Eidalwyr wedi bod yn fwy heblaw am diddymu cais Capuozzo yn dilyn gwiriad fideo, gyda'r penderfyniad fod y b锚l wedi'i tharo ymlaen.
Ar ddechrau'r ail hanner fe arbedodd Josh Adams gais i'r ymwelwyr gan stopio rhediad chwim Monty Ioane ond llathen yn brin o'r llinell gais.
Ond ysgogodd hyn y Cymry, gyda chais Dewi Lake yn unioni'r sg么r ond funudau'n ddiweddarach cyn i gic Dan Biggar roi'r cochion ar y blaen.
Er hynny, dod yn 么l wnaeth yr Eidalwyr i wneud hi'n 14-15, diolch i cic gosb Paolo Garbisi.
Ond nid hwnnw oedd diwedd y sgorio, gyda chais Josh Adams yn dod wedi 68 munud er mawr ryddhad mwyafrif y dorf yng Nghaerdydd.
Diddymwyd cais arall i Gymru wedi'i wirio ar fideo, gyda'r dyfarniad nad oedd Wyn Jones wedi llwyddo i groesi'r llinell pan yn llorio'r b锚l.
Ond gyda hi'n edrych yn gynyddol debyg fod yr Eidal wedi blino gormod i ddod yn 么l unwaith eto, daeth y diweddglo dramatig gan sicrhau noson i'w chofio i'r nifer gymharol fechan o gefnogwyr mewn lliwiau glas yng Nghaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022