'Oriau, o bosib' cyn i fachgen farw wedi anafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod hi'n bosib bod bachgen pum mlwydd oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi goroesi am rai oriau ar 么l cael anafiadau difrifol i'w abdomen.
Clywodd y rheithgor yn Llys Y Goron Caerdydd fanylion anafiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod archwiliad post-mortem Logan Mwangi.
Fe wylodd mam Logan, Angharad Williamson yn y doc yn ystod rhannau o'r dystiolaeth.
Mae Ms Williamson, 30, ynghyd 芒'i chymar 40 oed, John Cole, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth.
Cafodd corff Logan ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger ei gartref yn ardal Sarn fis Gorffennaf y llynedd.
Anafiadau'n 'brin' mewn plentyn
Amlinellodd y patholegydd fforensig Dr John Williams 56 o anafiadau allanol, yn cynnwys cleisio helaeth a chrafiadau ar draws pen, bron, cefn, breichiau a choesau'r bachgen.
O blith yr anafiadau mewnol, roedd yna rwyg 5.5cm wrth 3cm i afu'r bachgen, a rhwyg i'r coluddyn bach. Roedd yna dystiolaeth bod rhan o'r coluddyn bach, y dwodenwm, wedi ei rwygo o'r pancreas.
"Prin" yw'r fath anafiadau mewn plant, yn 么l Dr Williams, a allai gael eu hachosi yn sgil gwrthdrawiad car eu feic, neu anaf nad sy'n ddamweiniol.
Yn absenoldeb damwain yn ymwneud 芒 chyflymder uchel, roedd yr anafiadau'n debygol o fod wedi eu hachosi gan "ergyd neu ergydion, cic neu giciau, neu drawiad neu drawiadau gydag arf, medd Dr Williams.
Gan gyfeirio at ddwy astudiaeth ar wah芒n i anafiadau o'r fath, dywedodd Dr Williams bod anafiadau i'r dwodenwm "yn cael eu cofnodi'n aml o blith plant sy'n cael eu cam-drin".
Dywedodd wrth y rheithgor bod yna dystiolaeth o newidiadau yn achos rhai o'r anafiadau i'r abdomen oedd yn awgrymu bod y "broses iachau wedi dechrau". Roedd hynny, meddai, yn "arwydd o gyfnod o oroesi gyda'r potensial o fod hyd at nifer o oriau".
Wrth gael ei groesholi, fe wnaeth Dr Williams gydnabod y posibilrwydd bod Logan wedi goroesi am gyfnod byrrach.
Ymhelaethodd gan ddweud: "Fe fyddai'r nodweddion yn awgrymu bod y farwolaeth heb ddigwydd yn syth a bod yr anafiadau heb ddigwydd yn dilyn y farwolaeth."
'Cleisio helaeth ar gefn y pen'
Dywedodd bod y cyfnod rhwng y niwed a'r farwolaeth "o bosib hyd at nifer o oriau ond nid yw'r wyddoniaeth yn caniat谩u i ni fynd ymhellach".
Ychwanegodd Dr Williams bod yna dystiolaeth hefyd o "gleisio dwfn helaeth ar draws cefn y pen" sy'n "gyson ag anafiadau arf di-awch (blunt force)".
Achos y farwolaeth oedd "anaf arf di-awch abdomenol ac anaf ymenyddol yn cynnwys chwyddiant i'r ymennydd a niwed trawmatig i'r ymennydd".
Clywodd y llys bod yna "ddim darganfyddiadau patholegol a fyddai'n awgrymu boddi".
Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely 芒 lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu. O'r tri, John Cole yw'r unig un sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi neu ganiat谩u marwolaeth plentyn.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022